Straeon buddugol awduron ifanc Radio Cymru

Yr enillwyr - Gweni, Llew a SofiaFfynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Yr enillwyr - Gweni, Llew a Sofia

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyflwynydd Aled Hughes wedi cyhoeddi enwau'r tri awdur ifanc sydd wedi dod yn fuddugol yn ei gystadleuaeth ysgrifennu stori ar BBC Radio Cymru.

Mae'r artistiaid Bethan Mai, Sian Angharad a Lleucu Gwenllian wedi creu cloriau ar gyfer straeon y tri enillydd sef Gweni o Ysgol Pentrefoelas, Llew o Ysgol Gynradd Gymraeg Aberystwyth, a Sofia o Ysgol Glantaf.

Beirniad y gystadleuaeth i flynyddoedd dau, tri a phedwar oedd Bardd Plant Cymru, Siôn Tomos Owen. Siôn hefyd gafodd y fraint o feirniadu'r gystadleuaeth i flynyddoedd pump a chwech.

Am y tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth, roedd cyfle i blant uwchradd gystadlu eleni.

Yn ôl beirniad y gystadleuaeth honno i flynyddoedd saith, wyth a naw sef yr awdures Anni Llŷn, "roedd y safon yn uchel iawn, ac roedd yn ddifyr darllen amrywiaeth o straeon gyda dychymyg a chreadigrwydd".

Fe wnaeth y ddau feirniad ddewis brawddegau agoriadol y straeon eleni, gan ofyn i'r cystadleuwyr ddefnyddio eu dychymyg i orffen y stori.

Mae Siôn ac Anni'n llongyfarch pob awdur wnaeth ysgrifennu stori ar gyfer cystadleuaeth "o safon uchel iawn" ac yn annog pob un awdur i barhau i ysgrifennu.

Cliciwch i ddarllen y straeon buddugol:

Clawr Y PethFfynhonnell y llun, Bethan Mai

Gwrandewch ar Gweni yn sgwrsio gyda Aled Hughes

BBC Radio Cymru

Clawr Y PethFfynhonnell y llun, Sian Angharad

Gwrandewch ar Llew yn sgwrsio gyda Aled Hughes

BBC Radio Cymru

Clawr Y GyfrinachFfynhonnell y llun, Lleucu Gwenllian

Gwrandewch ar Sofia yn sgwrsio gyda Aled Hughes

BBC Radio Cymru

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig