Hyrox yn uno tair cenhedlaeth o'r un teulu

Disgrifiad,

Tair cenhedlaeth ar ôl cwblhau Hyrox, Warsaw yng Ngwlad Pwyl

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae tair cenhedlaeth o'r un teulu o ardal Caernarfon yn prysur wneud enw iddyn nhw eu hunain mewn cystadlaethau Hyrox.

Mae Chloe Tudor-Jones sy'n 27 wedi llwyddo i annog ei chwaer Zara, ei thad Mark, a'i thaid Gwyn i gymryd rhan yn y weithgaredd ffitrwydd ac maen nhw'n teithio Ewrop yn cystadlu.

Mae Hyrox yn gystadleuaeth ffitrwydd dan do fyd-eang sy'n cyfuno rhedeg â gorsafoedd ymarfer corff penodol.

Er gwaethaf y gwahaniaeth mewn oedran, mae'r teulu wrth eu boddau yn teithio ac yn annog ei gilydd yn y gystadleuaeth, fel y sonion nhw wrth Aled Hughes.

BarcelonaFfynhonnell y llun, Chloe Tudor- Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu ar ôl Hyrox Barcelona

Mae Chloe yn mwynhau mynd i'r gampfa yn ei hamser hamdden.

Ymunodd ei chwaer hefyd ac ymhen dim roedd ei thad a'i thaid hefyd yn aelodau o'r un gampfa yng Nghaernarfon.

Buan iawn wedyn daeth y diddordeb i fynd i gystadlu yn Hyrox; fe aethon nhw i Fae Colwyn i ddechrau cyn mentro i Hyrox Birmingham.

Dywedodd Chloe: "Munud oeddan ni wedi bod i'r un cyntaf, a gweld yr arena ar holl bobl 'na, mae'r lle yn fawr ac yn brysur - pawb yn lliwgar ac yn awyddus i wneud yn dda - lot yna efo fflagiau ac ati - mae o'n rhoi'r buzz 'na i chdi - oeddan ni gyd wedi cael y bug wedyn ac isio #neud mwy a mwy."

Roedd ei thaid, Gwyn, wedi hanner ymddeol fel fferyllydd, ac roedd trip golff a sylw gan ffrind yn dweud ei fod "wedi magu bol" wedi ei ysgogi i ddechrau ymarfer corff yn fwy cyson.

"Nes i ddod mewn i'r peth ar ôl bod yn aelod o'r ganolfan hamdden am rai blynyddoedd yng Nghaernarfon. Roeddwn i'n mynd i ddosbarthiadau Hit, ac yn mwynhau.

"Yna daeth Covid a phopeth yn dod i stop. Ychydig wedyn roedd y genod wedi dechrau mynd i'r gampfa a finna' yn meddwl 'duwcs a'i yna hefyd, mae'n swnio'n reit dda', a dyna ni wedyn - roedd y lle ar hyfforddwyr yno'n gefnogol iawn o gystadlaethau o'r fath.

"Roedd Hyrox yn rhywbeth oedd sawl aelod o'r gampfa'n anelu ato, felly dyma benderfynu roi cynnig arni," meddai.

ymarfer corffFfynhonnell y llun, Chloe Tudor- Jones

Ar ôl cystadlu ym Mhrydain daeth syniad i ddechrau edrych dramor, nid yn unig am brofiadau newydd ond roedd o hefyd yn gyfle i'r teulu fynd ar wyliau, a chynnwys aelodau eraill nad oedd yn cystadlu mewn Hyrox.

"'Dan ni fel teulu yn mynd am gyfnod hirach fel bod Mam a Nain yn dod hefyd. 'Dan ni gyd yn mynd i gystadlu. Mae Mam a Nain yn hapusach yn tynnu llunia', ac am ddiwrnod neu ddau wedyn byddwn i'n mynd i grwydro a gweld ychydig o'r golygfeydd yn y wlad.

"Mae'n lyfli bod ni gyd yn mynd fel teulu," meddai Chloe.

Dyw'r ffaith fod Gwyn yn 67 oed ddim yn ei atal rhag cystadlu ac mae wrth ei fodd.

"Mae'n wych bod ni gyd yna fel teulu gyda'n gilydd," meddai. "Dwi'n fferyllydd wrth fy ngwaith wedi ymddeol, ond yn dal i helpu ambell ddiwrnod, felly mae edrych ar ôl y corff a ffitrwydd wedi mynd law yn llaw i mi a dweud y gwir.

"Y peth gorau am gystadlu ydi cael mynd i wahanol lefydd, gweld ychydig ar y byd, rhannu profiadau gyda'r teulu, annog y genhedlaeth iau, a chadw fy hun yn ffit.

"Dwi'n edrych o'm cwmpas yn aml a fi ydi'r boi hynaf yna! Dwi'n teimlo'n dda, ac am ddal i fynd tra dwi'n gallu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig