Teyrnged i feiciwr modur a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn

- Cyhoeddwyd
Mae teulu beiciwr modur a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mynytho, Pen Llŷn wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Roger Hawcroft, oedd yn 67 oed ac yn byw gyda'i deulu ym Motwnnog, yn y fan a'r lle yn dilyn gwrthdraiwad â char ddydd Sadwrn 25 Ebrill.
Dywedodd ei deulu ei fod wedi marw "yn gwneud yr hyn yr oedd yn ei garu, yn y lle yr oedd yn ei garu, gyda'r haul ar ei wyneb a'r môr wrth ei ymyl".
"Er mor drist yr ydym, ni fyddai wedi dymuno dim byd gwahanol ac felly y bu."
Ychwanegodd y teulu eu bod yn gwybod faint oedd yno i helpu ar y diwrnod, "yr arbenigwyr a'r bobl gyffredin, ac rydyn ni eisiau i chi nid yn unig wybod pa mor ddiolchgar ydyn ni, ond ein bod ni'n dawel ein meddyliau, ac yn dymuno'r un peth i bob person arall a wnaeth gymryd rhan".
"Mae ein mam annwyl yn gweddïo drosoch am byth."
Mae Heddlu'r Gogledd yn dal i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth allai helpu eu hymholiadau i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
