Dwi wedi dysgu gwersi bywyd ar ôl colli fy llais ers misoedd - AS Môn

Cafodd Aelod Seneddol Ynys Môn ddiagnosis o laryngitis ddechrau'r flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Nid pawb sy'n dibynnu ar ddefnyddio eu llais ar gyfer eu gwaith, ond i Aelod Seneddol, mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn rhan hanfodol o'r swydd.
Felly mae'r chwe mis diwethaf wedi bod yn gyfnod go anodd i AS Ynys Môn, Llinos Medi, sydd wedi cael diagnosis o laryngitis acíwt.
Ar ôl cyfnod o fethu a defnyddio ei llais ar gyngor meddygol, mae hi bellach yn dychwelyd i'w gwaith yn raddol - er nad yw ei llais yn ôl yn llawn.
Wrth siarad gyda BBC Cymru, soniodd bod y diagnosis wedi "newid cymaint o agweddau bywyd", a'i bod hefyd yn ofni'r "chwyddwydr ychwanegol" sydd arni yn sgil ei swydd wrth geisio gwella.
Llinos Medi AS yn sôn am boen ac effaith ei chyflwr
Dechreuodd y cyfan tua chwe mis yn ôl: "Ges i PMQ ar y diwrnod hwnnw. O'n i wedi cael dadl reit sensitif diwrnod cynt. Ac o'n i'n gallu teimlo fo'n dechrau mynd.
"O'n i'n areithio mewn digwyddiad niwclear yn y prynhawn ac erbyn hwnnw 'nes i strugglo fynd drwy'r araith.
"Nes i barhau i fynd i lawr i Lundain am fis wedyn a meddwl, mi ddaw yn ôl, mi ddaw yn ôl. A wedyn nes i orfod gwrando ar gyngor meddygol a rhoi stop i ddefnydd y llais."
Dywedodd bod blinder yn ffactor ar y dechrau, a "dipyn o betha'n mynd ymlaen", a'i bod wedi trio "amryw o bethau, antibiotics ac yn y blaen" i geisio gwella.
"Doedden nhw ddim yn siŵr os o'n i'n cael sinus neu os o'n i'n cael problem efo fy nannedd. Es i at y deintydd, es i bobman yn trio gweld ac wedyn, acute laryngitis. A wedyn cael y diagnosis bod y vocal cords ddim yn cau.
"Roedd yna dri peth gwahanol ymlaen, hefyd yn ymwneud ag acid reflux, yn ymwneud â diet ac yn y blaen. Ges i wybod bo' fi ddim yn cael yfad coffi, bod fi ddim fod i fwyta salad ar ôl cinio, bod fi ddim yn cael juices, diodydd fizzy, nifer o newidiadau mawr i ffordd o fyw hefyd."

Er y diagnosis dydy Llinos Medi ddim yn gwybod beth achosodd y salwch.
"Mae'n amlwg bod genna' i swydd lle dwi'n defnyddio fy llais lot, felly mae'r straen yn bodoli beth bynnag.
"Mi oedd yr elfen blinder yna achos, dydw i erioed wedi cymryd gwyliau, felly dydw i ddim yn dda iawn am orffwys o gwbl."
Dywedodd bod y cyflwr wedi "newid gymaint o agweddau bywyd", yn aml pethau bychain na fyddai wedi dychmygu o flaen llaw.
"Dwi wedi gwisgo carpad y landing allan achos gallai ddim gweiddi ar y mab i godi, dwi wedi gorfod mynd i mewn i'r llofft i godi fo."
'Osgoi pobl yn groes i fy natur'
"Mae pethau bach fel sgyrsiau personol syml 'da ni'n gael efo teuluoedd, weithiau picio y ffôn ar rywun i checio... achos 'oedd o'n brifo gymaint o'n i ddim yn gallu gwneud hynna.
"Mae 'na deimlad fod cysylltiadau a chyfeillgarwch wedi bod o dan straen, achos oedd o'n anodd iawn.
"Do'n i ddim wedi sylweddoli bod fi'n licio siarad. O'n i'n gallu gweld fy hun yn osgoi pobl a bod o'n groes i fy natur yn osgoi pobl yn gyfan gwbl."
'Teimlad erchyll' gweld llun ffug AI - Llinos Medi AS
- Cyhoeddwyd15 Ionawr
AS Môn wedi poeni am ei diogelwch ers cael ei hethol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2025
Dywedodd hefyd bod y "chwyddwydr ychwanegol" sy'n bodoli gyda'i swydd wedi cael effaith yn ystod ei chyfnod o wella.
"Felly roedd 'na ddiwrnodau lle ro'n i'n meddwl 'swn i ddim yn meindio mynd am walk heddiw', ond o'n i ofn y feirniadaeth.
"O'n i eisiau mynd i nofio yn ofnadwy ond doedden i ddim yn gallu wynebu mynd i nofio achos o'n i ofyn y feirniadaeth hyll sy'n bodoli, 'os ydy hi ddigon da i wneud hyn, pam dydy hi ddim yn Llundain?'."
Er hynny, ychwanegodd bod y "gefnogaeth o fynd yn ôl" i San Steffan wedi bod yn braf.
Cysylltodd aelod arall a gafodd brofiad tebyg "achos bod fi'n deall yr her mae hi'n wynebu", tra ei bod "wedi cael yr hug yna gan bob un, neu'r mwyafrif o bleidiau ddweda' i, dwi wedi cael yr hug a'r geiriau o gysur".
'Canu fel ceiliog' cyn hir
Mae'n dweud bod ei llais wedi cryfhau dros wythnosau diweddar, er ei fod "dal yn wan" ar adegau.
"Mae 'na adegau lle mae llawer cryfach a dwi'n gallu ecseitio ychydig bach gormod ar yr adegau yna yn meddwl fod o yn dod yn ôl.
"Mae 'na adegau hefyd lle mae'n gwanhau a does dim cysondeb chwaith o ran y sŵn dwi'n gallu ei wneud."
Ar ôl cyfnod anodd ei gobaith ydy gwella'n llawn cyn bo hir:
"Nes i herio ambell aelod neu ffrindiau yn Eisteddfod yr Urdd fydda i fatha ceiliog ebyn yr haf.
"Dwi ddim cweit yn canu fel ceiliog eto. Ond dwi'n hyderus iawn o fod."
Ychwanegodd bod "gwersi bywyd" wedi dod o'r cyfnod: "Gwerthfawrogi'r pethau symla'. Gwerthfawrogi sgwrs, cyfeillgarwch, y gallu 'na i gyfathrebu, 'da ni mor ffodus o'i gael.
"A hefyd, faint dwi'n mwynhau cynrychioli Ynys Môn, a faint dwi'n mwynhau bod yn San Steffan ar ran yr ynys."
"Mi ddaw, mi ddaw yn ôl, ac mi fyddwch chi'n clywed fi loud and clear yn fuan iawn, gobeithio."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.