Lluniau Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2026

Dafydd Owain gyda'i wobr tu allan i Ganolfan y Mileniwm
- Cyhoeddwyd
Wedi noson lwyddiannus a lliwgar yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, Dafydd Owain ddaeth i'r brig yn seremoni Gwobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.
Roedd y noson yn cael ei harwain gan y DJ o Gaernarfon sydd bellach yn cyflwyno ar BBC Radio 1, Sian Eleri.
Ar ôl derbyn ei wobr, dywedodd Dafydd Owain wrth BBC Cymru Fyw fod yr "holl beth 'chydig o blurr'.
"Ond dwi'n meddwl bod hynna'n ok achos dwi'n siŵr y daw 'na deimlada' anhygoel i'r syrffes yn fuan iawn."
Dyma luniau o'r noson yng Nghaerdydd.

Huw Stephens yn siarad o'r llwyfan

Sian Eleri oedd yn cyflwyno'r noson

Dafydd Owain a'i fand yn paratoi i berfformio

Y band Mwsog gyda'u dillad trawiadol

Y gynulleidfa'n mwynhau'r gerddoriaeth fyw

Local yw seren rap newydd o Gaerdydd wnaeth gyrraedd y rhestr fer am y tro cyntaf

Fe gafodd y gitarydd Gwenifer Raymond ei henwebu eleni gyda Last Night I Heard the Dog Star Bark hefyd yn 2021 gyda Strange Lights Over Garth

Merch y gantores o Bontardawe, Jessica Lee Morgan, wnaeth dderbyn y Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig ar ran Mary Hopkin

Papaya Noon yn perfformio ar y llwyfan

Roedd y gantores Betsan ymhlith enillwyr wobr flynyddol ar gyfer talentau newydd mwyaf cyffrous Cymru

Betsan yn perfformio
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd6 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd31 Awst
