Cyhuddo dyn o lofruddiaeth ar ôl canfod corff dynes mewn fan ar dân

Cerbydau a swyddogion heddlu yn ardal y digwyddiad ym Mhrestatyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd presenoldeb yr heddlu yn amlwg yn yr ardal ddydd Llun

GanNia Tudur
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 38 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth, ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod mewn fan oedd ar dân ym Mhrestatyn yn Sir Ddinbych.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Gas Works Lane ym Mhrestatyn tua 23:30 nos Sul, yn dilyn adroddiad bod cerbyd ar dân.

Cadarnhaodd archwiliad post mortem mai corff dynes gafodd ei ddarganfod yn y fan.

Fe ymddangosodd Thomas Matthew Hammond Bell, o Ffordd Wellington yn Y Rhyl o flaen llys ynadon Llandudno ddydd Iau wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener.

Dywedodd y Ditectif Brif Gwnstabl Zoie Dunkerley o Heddlu'r Gogledd:

"Mae ein hymchwiliad yn parhau, ac rydyn ni'n apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth a sydd ddim eisoes wedi siarad â ni, i gysylltu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig