Serenar Douch: 'Bod ar y llwyfan yn freuddwyd i fi'

- Cyhoeddwyd
Wedi cyfnod o berfformio ar lwyfan y West End, mae Serenar Douch o Gaerfyrddin yn gwireddu breuddwyd drwy ddychwelyd i Gaerdydd i berfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwn.
O Langynnwr i sioe y Moulin Rouge ac yn awr ar daith ledled y DU gyda The Karate Kid – The Musical, bu Serenar yn siarad gyda Cymru Fyw am ei chefndir yng Nghaerfyrddin a sut fod ei mam-gu hi'n allweddol i'w llwyddiant.
Yn syth ar ôl graddio, ymunodd Serenar â chast Moulin Rouge! The Musical yn theatr y Piccadilly yn Llundain.
Ond mae ei rôl nesaf fel swing yn rhan o gast The Karate Kid – The Musical, sy'n seiliedig ar y ffilm o'r 80au.
Mae swing yn gyfrifol am ddysgu a pherfformio nifer o rolau gwahanol yn yr ensemble, gan gamu i mewn i unrhyw un ohonynt ar fyr-rybudd.
Meddai: "Dwi mor gyffrous i fynd i Ganolfan y Mileniwm – rhywbeth dw i wedi breuddwydio amdano ers amser maith.
"Dw i wedi gweld cymaint o sioeau yno gyda fy mam-gu; dwi'n methu aros i fod ar y llwyfan tra bydd hi yn y gynulleidfa. Bydd yn teimlo'n arbennig iawn ac yn uchafbwynt i 'ngyrfa i.
"Dwi'n onstage swing sy'n covero y merched a'r bechgyn i gyd yn yr ensemble. Felly dwi'n neud pob track yn yr ensemble a phan mae un yn sâl mae'r swing yn covero nhw."

Serenar fel swing yn sioe The Karate Kid
Teulu
Mae Serenar yn diolch i'w thad-cu a'i mam-gu am eu cefnogaeth ac am fynd â hi i Gymdeithas Operatig Amatur Caerfyrddin (CAOS) a Forge Drama fel plentyn: "Pan oeddwn i'n ifanc, aeth fy mam-gu â fi i nifer o glybiau drama gwahanol – cheerleading, bale, dawns tap – o'n i'n gwneud popeth, gan gynnwys gwersi canu.
"Roedd e'n help mawr – yn enwedig y bale a'r dawnsio tap, gan 'mod i'n sefyll arholiadau, yn ogystal â chwarae'r piano. Y cam mawr i fi oedd mynd i'r coleg yn Bedford yn 16 oed i Goleg Celfyddydau Perfformio Stella Mann, oedd yn gwrs tair blynedd.
"Roedd mam-gu a tad-cu fi yn help mawr, yn enwedig fy mam-gu achos mae'n caru theatr a phopeth i 'neud gyda miwsig glasurol. Ac yn lwcus o'n i'n caru fe i gyd hefyd."
Dywed Serenar fod hi heb weithio rhyw lawer drwy gyfrwng y Gymraeg ond fod 'na gymuned o Gymry yn y West End: "Dwi ddim yn edrych fel person sy'n siarad Cymraeg ond byddwn i'n caru gweithio mwy yn y Gymraeg.
"Roedd sawl person o Gymru yn Moulin Rouge gan gynnwys Craig Ryder [sy'n portreu Harold Zidler yn y sioe gerdd]. Ni yn siarad yn Gymraeg ac mae'n temlo fel cymuned, mae wastad yn rili neis pan mae rhywun arall o Gymru."

Serenar gyda'i mam-gu a thad-cu, Enfys a Des
Cynrychiolaeth
Mae Serenar yn angerddol am gynyddu cynrychiolaeth Cymry o gefndir ethnig Asiaidd.
Meddai: "Yn yr ysgol do'n i byth yn cael fy newis i wneud pethau ac i gystadlu yn yr eisteddfod.
"Dwi'n gobeithio fod pethau wedi gwella, bydden i'n gobeithio gweld mwy o bobl sy'n edrych yn wahanol ar lwyfan ac mewn eisteddfodau nawr. Ond digwyddodd e ddim i fi – fi oedd yr unig berson Asiaidd yn fy mlwyddyn yn yr ysgol.
"Dyna beth dwi'n trio gwthio am, i bobl eraill Asiaidd o Gymru sy'n siarad Cymraeg ac sy'n mynd i ysgol Gymraeg i deimlo mwy cyfforddus ac i wybod fod pobl eraill fel nhw yn gallu bod yn lwyddiant.
"Dyna pam wnes i gymaint tu allan i'r ysgol achos dwi'n bersonol yn teimlo mod i ddim wedi cael rhyw lawer o help gan yr ysgolion wnes i fynychu.
"Do'n i ddim yn caru ysgol ac o'n i eisiau mynd i rywle oedd yn gwneud canu, actio a dawnsio – yr holl bethau oedd fy mam-gu i wedi cael fi i wneud."

Rheoli nerfau
Er gwaethaf canu, dawnsio ac actio o flaen cynulleidfa bob nos, mae Serenar yn disgrifio ei hun fel person swil sy' wedi gorfod dysgu sut i reoli ei nerfau.
Meddai: "Dwi wedi gorfod ymarfer ac ymarfer.
"Flynyddoedd yn ôl, roedd gen i arholiad piano ac o'n i yn y car gyda fy mam-gu a'n meddwl mod i methu 'neud e. O'n i'n ofnus iawn ac yn crio.
"Weithiau dwi'n meddwl yn ôl i'r teimlad hwnnw a'r ffordd dwi'n teimlo nawr – mae'n wahanol iawn a dwi ddim yn teimlo'r nerfusrwydd yna nawr. Dwi'n gallu delio gyda fe."

Serenar gyda phoster Moulin Rouge
I lwyddo mewn maes mor gystadleuol mae angen gweithio'n galed: "Mae angen yr angerdd hwnnw arnat. Dwi'n credu, heb hynny, y byddai'n rhy anodd.
"Mae bod ar y llwyfan yn freuddwyd i fi, a fydd hynny byth yn newid.
"Yr angerdd sy'n cael ti yno, ynghyd â gwaith caled fel mynd i glybiau drama bob nos ar ôl ysgol. Dyna'r allwedd i'r cyfan."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd22 Ebrill

- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2024
