Oriel: Sesiwn Fawr Dolgellau 2026

- Cyhoeddwyd
Fe heidioddd miloedd i Ddolgellau dros y penwythnos ar gyfer y Sesiwn Fawr.
Yn ogystal â degau o artistiaid Cymraeg fel Steve Eaves, Cowbois Rhos Botwnnog, Aleighcia Scott & Morgan Elwy, TewTewTennau a Taff Rapids, roedd y dref yn llawn digwyddiadau i bobl o bob oed – o sgyrsiau, sesiwn gomedi a'r Pentre Plant.
Mae'r ŵyl, a gafodd ei sefydlu yn 1992, yn cael ei chynnal mewn sawl lleoliad yn y dref gan gynnwys y sgwâr.

Roedd 'na ddigwyddiad yn Eglwys y Santes Fair ar nos Iau. Roedd y côr gwerin o ardal Penllyn, Eryrod Meirion, yno...

... yn ogystal â Dafydd Owain yn perfformio ei record hir Ymarfer Byw yn ei chyfanrwydd

Mae'r twmpath dawns yn rhan ganolog o naws werin y Sesiwn Fawr

Criw Acordions dros Annibyniaeth yn perfformio tu allan i westy'r Ship

Roedd 'na ddigwyddiadau i blant yno gan gynnwys gweithdai syrcas...

... a'r cyfle i gael paentio wyneb!

Y chwiorydd o Drefaldwyn, Elin a Carys yn diddanu yn Eglwys y Santes Fair

Criw yn cael llymaid ar y stryd fach rhwng tafarndai'r Torrent a'r Cross Keys Inn

Deuawd Afro-electronig o Ddwyrain Llundain, Raz & Afla, yn perfformio ar y prif lwyfan...

... gyda'r dorf yn eu meddiant yn llwyr!

Ffidlwyr yn ffidlan efo'u ffidils! Yoko Pwno yw enw'r grŵp yma

Pobl o bob oed yn mwynhau'r gerddoriaeth

Taff Rapids, band blŵgras egnïol o Gaerdydd, yn mynd trwy eu pethau

Y dorf yn dangos gwerthfawrogiad

Taran, y grŵp ifanc o Gaerdydd gyda'r gantores Rose Datta yn canu, yn perfformio ar y prif lwyfan

Roedd y criw yma'n cael eu symud gan y gerddoriaeth!

Mae'r Sesiwn Fawr yn ddigwyddiad i'r teulu oll

Mae'r grŵp Melin Melyn yn cael haf prysur, a nhwythau newydd fod yn cefnogi y Super Furry Animals ar eu taith diweddar
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd15 Mehefin

- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd8 Mehefin
