Gŵyl Newydd yn dangos fod y Gymraeg yn 'parhau i ennill tir' yng Nghasnewydd

- Cyhoeddwyd
Er nad yw Gwent yn cael ei ystyried fel cadarnle traddodiadol i'r iaith, roedd Rodney Parade yn berwi gydag egni dros y penwythnos ar gyfer Gŵyl Newydd 2026.
Gyda phedair ysgol gynradd Gymraeg ac ysgol uwchradd bellach yn y ddinas, ac Eisteddfod yr Urdd ar ei ffordd yna y flwyddyn nesaf, mae'r ŵyl gymunedol hon yn brawf o ffrwydrad go iawn yn nhwf yr iaith yn y de-ddwyrain.
Yn ôl Gareth Jewell, Swyddog Marchnata Menter iaith Casnewydd ac un o drefnwyr yr ŵyl:
"Daeth mwy na'r disgwyl i'r ŵyl, gyda dros fil o bobl yn bresennol. Mae hynny'n arwydd clir fod galw cynyddol am ddigwyddiadau Cymraeg yng Nghasnewydd, a bod yr iaith yn parhau i ennill tir mewn ardal sydd wedi gweld twf sylweddol yn nifer y siaradwyr a'r dysgwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf."
Ychwanegodd: "Mae llwyddiant digwyddiadau fel hyn yn bwysig iawn wrth edrych ymlaen at Eisteddfod yr Urdd 2027. Maent yn dangos bod yna gymuned fywiog, hyderus ac eang sy'n awyddus i ddefnyddio a dathlu'r Gymraeg."
Dyma luniau o'r ŵyl sy'n dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghasnewydd:

Cafodd yr ŵyl ei chynnal ar y meysydd tu allan i Rodney Parade, y stadiwm ble mae tîm rygbi Y Dreigiau a thîm pêl-droed Newport County yn chwarae

Mae cynnal gŵyl o'r math yma'n waith technegol iawn!

Menter Iaith Casnewydd oedd yn gyfrifol am drefnu'r ŵyl

Roedd 'na berfformiadau gan blant o ysgolion lleol er mwyn diddanu'r dorf

Mae Yr Argraff yn fand chweched dosbarth lleol o Gasnewydd sy'n perfformio ac yn hyrwyddo eu cerddoriaeth yn bennaf drwy'r iaith Gymraeg.
Wedi elwa ar berfformio a recordio yn feniw unigryw The Phyllis Maud yn ddiweddar, mae'r grŵp ifanc yn benderfynol o adeiladu cynulleidfa newydd a chodi proffil yr iaith yn y de-ddwyrain.

Daeth Mr Urdd draw i gynnal recce cyn y bydd angen iddo ddychwelyd i Gasnewydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Bro'r Wenynen yn 2027

Wedi'u ffurfio yn 2022, mae Dadleoli bellach yn cael eu hystyried yn un o fandiau roc indie mwyaf cyffrous sîn gerddoriaeth Cymru.
Er eu bod yn ifanc, mae gan y grŵp 5-aelod o Gaerdydd albwm a nifer o senglau llwyddiannus eisoes o dan eu gwregys, ynghyd â phrofiad o berfformio ar lwyfannau mawr fel Maes B

Y dorf yn mwynhau'r adloniant, y lluniaeth ac, wrth gwrs, y tywydd braf

Mei Gwynedd yn diddanu pobl Casnewydd

Trefnwyr yr ŵyl wedi cael eu hysbrydoli i gychwyn band newydd!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth

