Cefin Roberts: 'Mae yna rwbath amdan Gadeirlan Bangor sy'n arbennig iawn i mi'

Cedron Siôn fydd yn portreadu Deiniol Sant, Owain Glyndŵr a Daniel - gofalwr y Gadeirlan heddiwFfynhonnell y llun, Cadeirlan Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Cedron Siôn fydd yn portreadu Deiniol Sant, Owain Glyndŵr a Daniel - gofalwr y Gadeirlan heddiw

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Mae yna bobl anghenus yn hel o gwmpas Y Gadeirlan ers i ni gofio, ers i mi fyw ym Mangor fy hun."

Mae Cefin Roberts, awdur a chynhyrchydd sioe sy'n dod â 1,500 o flynyddoedd o hanes Bangor yn fyw drwy ddrama cerddoriaeth a chân yn dweud ei bod "yn fraint" adrodd stori lle sy'n cynnig noddfa ers cyhyd.

 noson agoriadol y sioe Dinas Noddfa yng Nghadeirlan Bangor ar 30 Hydref, mae Cefin "yn gobeithio y bydd y gynulleidfa'n rhyfeddu at yr hanes".

Cefin yn ymarferFfynhonnell y llun, Cadeirlan Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Cefin yn ymarfer gyda'i gast a'i gorws yn Ysgol Glanaethwy

Mae cast a chorws Dinas Noddfa yn gyfuniad o Gôr Cofnod o Gaernarfon, Côr Hogia'r Ddwylan ac aelodau o Ysgol Glanaethwy.

Ac yn chwarae tair rôl ar draws y canrifoedd mae'r actor Cerdron Siôn. Bydd Cedron yn portreadu Deiniol Sant, Owain Glyndŵr a Daniel - gofalwr Y Gadeirlan heddiw.

Ychwanegodd Cefin: "Mae yna rwbath amdan Gadeirlan Bangor sy'n arbennig iawn i mi - a dychmygu'r Gadeirlan yn oes pobl fel Owain Glyndŵr, Dafydd ap Gwilym, Y Tywysogion a Maelgwn Gwynedd."

'Mae yna unigolion diddorol iawn yn cerdded drwy ddrws yr eglwys yna'

Yn 2025 fe ddathlodd Y Gadeirlan 1500 o flynyddoedd ers i Deiniol Sant gyrraedd Bangor a sefydlu ei fynachlog yn lle mae Cadeirlan Bangor yn sefyll heddiw.

Yn ôl Cefin, mae Dinas Noddfa yn deitl addas "i basiant" am le sy'n parhau'n noddfa hyd heddiw.

Dywedodd: "Mae yna le i chi fynd i mewn i gael paned, mae'r banc bwyd yna, mae yna unigolion diddorol iawn yn cerdded drwy ddrws yr eglwys yna - yn eistedd yna'n dawel bach - mae yna noddfa yna ar sawl lefel.

"O'n i yn gyndyn o ddefnyddio y gair 'pasiant' ar y dechrau achos mae pasiant yn rhywbeth sy'n taro rhywun yn hen-ffasiwn, ond eto pasiant ydi o achos 'dan ni'n symud drwy gymaint o hanes o flaen llygaid y gynulleidfa."

ymarferionFfynhonnell y llun, Cadeirlan Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Ymarfer yn Ysgol Glanaethwy

Gall y gynulleidfa ddisgwyl i gael eu tywys o ganrif i ganrif drwy'r arlwy gerddorol a'r ddeialog.

Eglurodd: "Yn gerddorol o ran sain - fel 'dan ni'n symud drwy'r canrifoedd 'dan ni'n cyrraedd hyd yn oed y Godspell a'r sioe gerdd grefyddol y dyddiau yma - ond trio cael synau yr hen fynaich ac ati.

"Dwi'n gobeithio ein bod ni'n medru dod â sŵn y canrifoedd i mewn drwy'r 'sgwennu hefyd."

Faint o ryddid oedd gan Cefin wrth ddatblygu Dinas Noddfa i'r Gadeirlan?

"Dydi'r eglwys ddim hyd yn oed wedi gweld y sgript, mi ges i benrhyddid ac mae hynny wedi bod yn beth da.

"Dwi'n gobeithio hefyd fod yr eglwys yn gallu rhoi ffydd yndda i fel sgriptiwr - y prif gymeriadau ydi dau berson ifanc o'r stryd ym Mangor ar noson oer yn gweld y drws ar agor ac yn mynd i mewn i gael mymryn o gynhesrwydd, ac wedyn bod yna 'wbath yn digwydd o fan'no ymlaen."

O gyfarwyddo i beintio props

Ar ben bod yn awdur, yn gyfarwyddwr ac yn gynhyrchydd y sioe, mae Cefin a'i wraig Rhian wedi bod yn brysur yn paratoi'r gwisgoedd a'r props, ond dywed bod rheoli amser wedi bod yn heriol:

"Dwi'n dadlau efo fi fy hun weithia' - 'Mae'n rhaid i chdi gyfarwyddo - na - mae'n rhaid i chdi orffan peintio y prop gynta fel ei fod o wedi sychu erbyn ddaw'r lleill p'nawn yma'."

Ymarfer yn Y GadeirlanFfynhonnell y llun, Cadeirlan Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Ymarfer yn Y Gadeirlan

Organydd Y Gadeirlan a glywodd ei emyn yn cael ei ganu'n Yr Albion yn y 18fed ganrif

Fel un sydd wedi mwynhau ymweld â Chadeirlan Bangor erioed, mae Cefin wedi bod wrth ei fodd yn tyrchu am hanesion yn ymwneud â'r safle hynafol, gan gynnwys dod ar draws stori am organydd Y Gadeirlan yn y 18fed ganrif yn ymweld ag un o dafarndai adnabyddus y ddinas.

"Mi oedd yna organydd bach yn y 18fed ganrif o'r enw William Shrubsole - fo wnaeth gyfansoddi alaw 'Coronwch cornowch, coronwch!' ond un noson oedd o'n pasio'r Virgin Hotel ym Mangor sydd rŵan dal ar agor fel yr Albion Hotel.

Mae'r Albion ym Mangor yn dyddio yn ôl i'r ddeunawfed ganrif, er bod rhan fwyaf o'r adeilad heddiw yn dyddio i'r 1920au
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Albion ym Mangor yn dyddio yn ôl i'r 18fed ganrif, er bod rhan fwyaf o'r adeilad heddiw yn dyddio i'r 1920au

"Mi glywodd o'r emyn yn cael ei chanu'n yr Albion Hotel a phwy oedd yna oedd y Methodistiaid Calfinaidd.

"Mi aeth o i fyny yna a chlywed yr angerdd oedd gan y Methodistiaid yn canu ei emyn o, a syrthio mewn cariad efo'r sŵn... ond os ydach chi isio gwybod be' ddigwyddodd wedyn fydd rhaid i chi ddod i weld y sioe!"

'Dwi'n gobeithio y bydd Dinas Noddfa'n cyffwrdd y gynulleidfa'

Gan ddymuno y bydd Dinas Noddfa yn denu llond Cadeirlan o bobl, mae Cefin hefyd yn gobeithio y bydd ei basiant yn cyffwrdd y gynulleidfa.

"Dwi'n meddwl y dylai bob cyflwyniad theatrig gynnig rhywfaint o adloniant ond dwi'n gobeithio fydd o hefyd yn eu cyffwrdd nhw achos mae un o'r bobl ifanc yma sy'n mynd i mewn i'r eglwys i ddechrau'r sioe yn teimlo bod yna rwbath yna.

"A fy nghorws i wedyn - nhw ydy'r cwmwl tystion - nhw sydd wedi bod yma erioed ac wedi gweld bob dim.

"Dwi'n gobeithio y bydd y gynulleidfa'n gweld y cyfan yn gyfanwaith ar eu ffordd allan."

Y set yn barod yng Nghadeirlan BangorFfynhonnell y llun, Cadeirlan Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Y set yn barod yng Nghadeirlan Bangor

Bydd Dinas Noddfa'n cael ei pherfformio yng Nghadeirlan Bangor ar 30 a 31 Hydref am 19:30 ac ar 31 Hydref am 14:00.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.