Gorau Cymru am giciau rhydd? Capten Cymric yn dathlu carreg filltir

- Cyhoeddwyd
Pwy yw'r pêl-droediwr gorau yng Nghymru am gymryd ciciau rhydd? Harry Wilson? Neco Williams?... efallai ei fod yn chwarae ym mhedwaredd haen Cymru!
Mae Rhys Jones yn gapten ar dîm pêl-droed Cymric yng Nghaerdydd.
Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Amatur Cymry Cymraeg o Gaerdydd, i'w roi enw swyddogol, yn 1969, dwy flynedd wedi i Glwb Rygbi Cymry Caerdydd ffurfio.
Ffurfiwyd y clwb er mwyn i bêl-droedwyr allu defnyddio'r Gymraeg yn rhydd wrth hyfforddi a chwarae yng Nghaerdydd, ond eto mae clybiau eraill sydd â chynrychiolaeth Gymraeg yn y brifddinas wrth gwrs.
Y penwythnos diwethaf fe gyrhaeddodd Rhys garreg filltir arbennig - 200 o gemau dros y clwb.
I ddathlu cyfraniad Rhys i'r clwb rhyddhawyd fideo arbennig o rai o'i goliau, gan ei fod yn dipyn o arbenigwr ar gymryd ciciau rhydd.

Meddai: "O'n i'n chwarae i Lannefydd o pan o'n i'n 16 ac yna es i i'r coleg yng Nghaerdydd. 'Nes i chwarae dros y Gym Gym (Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Caerdydd) tra yn coleg, gan fynd adre i chwarae dros Lannefydd yn ystod y gwyliau ac ati."
Bellach yn 29 oed mae Rhys wedi chwarae dros Cymric am wyth tymor.
Yn chwaraewr ganol-cae gweithgar mae wedi creu dipyn o enw i'w hun yn ddiweddar yn y grefft o gymryd ciciau rhydd.
Ciciau rhydd Rhys Jones, capten Cymric
"Dwi ddim yn teimlo gymaint o bwysau wrth gymryd ciciau rhydd - mae'n dipyn o free hit," meddai Rhys.
"Dwi reit wael ar giciau o'r smotyn gan fethu cwpl mewn shoot outs, felly falle mai'r pwysau ydi hynny! Does 'na ddim disgwyliad i sgorio o giciau rhydd felly mae hynny'n gwneud o'n haws.
"Dwi ddim ond yn cymryd ciciau rhydd ers rhyw ddwy flynedd. 'Nes i roi cynnig ar un ac a'th o fewn, a 'nes i sgorio rwbeth fel pedair o'r wyth cic rydd wedi hynny, felly dwi 'di parhau i gymryd nhw, a 'di sgorio dipyn diolch byth."
Mae Rhys wedi sgorio 63 o goliau yn ei amser gyda Cymric.

'Rhys tal' yw'r enw i'w ffrindiau, ac hynny am resymau amlwg
Felly, pwy yw arwr ciciau rhydd Rhys? Messi? Pirlo? Beckham?
"Gan fod o'n chwarae i Leeds ma'n rhaid i mi ddweud Anton Stach," meddai. Fel ei dad, y cyflwynydd radio Dylan Jones, mae Rhys yn cefnogi'r gwynion o Swydd Efrog.
Mae Cymric yn chwarae ym mhedwaredd haen pêl-droed Cymru, ac yn anelu am ddyrchafiad eleni ar ôl gorffen yn drydydd y llynedd.
"Mae 'na dîm bach da 'ma a rheolwr newydd, a'r gobaith ydi bydd y clwb yn mynd o nerth i nerth."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd21 Hydref

- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2023
