Cyfarfod â Burnham yn 'gam sylweddol' at mwy o bwerau i Gymru - Rhun ap Iorwerth

Roedd Prif Weinidog Prydain yn Glasgow ddydd Gwener i gwrdd â Rhun ap Iorwerth
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru yn dweud bod "cam sylweddol ymlaen" wedi bod gydag Andy Burnham ynglŷn â rhoi mwy o bwerau gwario a benthyg i Lywodraeth Cymru.
Roedd Prif Weinidog Prydain yn Glasgow ddydd Gwener i gwrdd â Rhun ap Iorwerth, ynghyd â Phrif Weinidog yr Alban John Swinney, ar gyfer cyfarfod o'r Cyngor Economaidd Cenedlaethol.
Mae'r ddwy lywodraeth wedi dweud bod y sgyrsiau wedi bod yn "gadarnhaol", gyda Rhun ap Iorwerth yn dweud bod hi nawr yn fater o "sut a phryd" fydd mwy o rymoedd ariannol yn cael eu rhoi i Lywodraeth Cymru.
Ond mae Prif Weinidog Prydain yn dal i alw am ddatganoli "dyfnach" i ranbarthau Cymru a'r Alban.
Rhun ap Iorwerth: "Llais Cymru yn cael ei glywed" gan Andy Bunrham
Yn ôl Andy Burnham, roedd Prif Weinidogion Cymru a'r Alban wedi addo cydweithio ag ef ar "rymuso rhanbarthol".
Does dim amserlen wedi ei gynnig o ran pryd fydd newidiadau i allu llywodraeth Cymru i fenthyg rhagor a defnyddio mwy o'u cronfa wrth gefn, ond yn ôl Rhun ap Iorwerth roedd yna "gam sylweddol ymlaen" yn sgil y trafodaethau.
"Ar bwerau benthyg Llywodraeth Cymru a hyblygrwydd yn sut ydan ni'n defnyddio ein harian ni mi gafwyd addewid mai sut a phryd fydd hyn yn digwydd ydy hi rŵan, nid os."
Roedd y cyfarfod ddydd Gwener yn dod deuddydd wedi ffrae dros Gyllideb Llywodraeth Prydain, gyda Rhun ap Iorwerth yn dweud ei fod "prin yn gallu cofio" cyllideb lle'r oedd "cyn lleied o sôn am Gymru".
Cyllideb 2026: £100 i helpu gyda biliau ynni aelwydydd ond dadlau am gyllid i Gymru
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
£30m ar gyfer rheilffyrdd yn 'ganran fach iawn o'r hyn sydd ei angen'
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Burnham yn 'agored i'r sgwrs' am ddatganoli plismona i Gymru
- Cyhoeddwyd27 Awst
Mae Plaid Cymru yn dweud bod y Gyllideb yn golygu toriad termau real mewn arian i Lywodraeth Cymru, am nad yw'r £450m ychwanegol fydd yn dod i Gymru dros y tair blynedd nesaf yn ddigon i ateb costau ychwanegol chwyddiant ar wasanaethau cyhoeddus. Mae Llywodraeth Prydain yn gwadu hynny.
Mewn llythyr at Andy Burnham ddechrau Hydref, fe alwodd Rhun ap Iorwerth am nifer o rymoedd ychwanegol ac arian i Gymru - o ddatganoli heddlua a chyfiawnder, i ragor o arian i reilffyrdd ac ymestyn gallu Llywodraeth Cymru i dynnu arian o'r gronfa wrth gefn - sef cronfa arian lle mae Llywodraeth Cymru yn gallu cadw arian sydd heb ei wario o un flwyddyn i'r llall.
Ar hyn o bryd, mae'r gronfa wedi ei chyfyngu i £385m, a gall llywodraeth Cymru ond tynnu £137.5m y flwyddyn ar gyfer gwariant dydd i ddydd, a £55m y flwyddyn ar gyfer gwariant cyfalaf.
Mae gallu'r llywodraeth i fenthyca hefyd wedi ei gyfyngu i gyfanswm o £1.1bn, ac uchafswm benthyca o £165m y flwyddyn - sy'n sylweddol is na'r Alban.
Cyfarfod rhwng Andy Burnham a Rhun ap Iorwerth yn teimlo'n 'gadarnhaol'
Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod wedi ei galonogi gyda'r sgyrsiau ynglŷn â rheilffyrdd hefyd, ar ôl i addewid o £30m ar gyfer gorsaf reilffordd newydd yng Nghaerdydd yn y gyllideb ddydd Mercher gael ei ddisgrifio fel "sarhad" gan weinidog trafnidiaeth Cymru.
"Ar reilffyrdd roedd yn amlwg bod dealltwriaeth fod diffyg sylw gwleidyddol wedi ei roi i hyn, a'r Prif Weinidog yn dweud wrtha i - 'ie, dwi angen dysgu mwy am yr anghyfiawnder yna' - mae hwnna rŵan yn ddarn o waith sy'n gallu mynd ymlaen mewn ysbryd gwahanol oherwydd y cyfarfod yma heddiw."
Ond roedd Rhun ap Iorwerth yn cydnabod bod "lot o waith eto i'w wneud" ar alwadau eraill fel datganoli'r grym dros heddlua i Gymru.
O ran galwadau Andy Burnham am "ddatganoli dyfnach" i ranbarthau Cymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth bod "tir cyffredin" i'w ganfod yno.
"Cefais i sicrwydd clir mai ni yng Nghymru fydd yn penderfynu ar ein strwythurau rhanbarthol - ond 'mod i eisiau 'neud hynny mewn cydweithrediad positif efo llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn gweithredu'r hyn mae o a finnau eisiau gweld sef llewyrch."
'Trefniadau ar gyfer datganoli pellach'
Wrth siarad wedi'r cyfarfod, dywedodd Andy Burnham hefyd fod y cyfarfod wedi bod yn un "cadarnhaol", gan ddweud bod cytundeb wedi bod gyda'r Prif Weinidogion datganoledig i "weithio gyda'n gilydd ar rymuso rhanbarthol yn yr Alban a Chymru".
"Cafwyd sgwrs dda heddiw ar ddau agwedd, un o gwmpas ail-ddiwydiannu ac ar gynnig mwy o ddatganoli o gyllid arloesi i lefel ranbarthol."
Dywedodd Andy Burnham y byddai Llywodraeth y DU nawr yn edrych ar "drefniadau ar gyfer datganoli pellach ar gyfer cefnogaeth cyflogaeth."
Roedd disgwyl i Brif Weinidog y DU a holl arweinwyr y cenhedloedd datganoledig fynychu cyfarfod y Cyngor Economaidd Cenedlaethol ddydd Gwener.
Fodd bynnag, daeth i'r amlwg ddydd Iau na fyddai Prif Weinidog Gogledd Iwerddon yn bresennol, ar ôl i'r Dirprwy Brif Weinidog wrthwynebu hynny.
Pan ofynnwyd i Rhun ap Iorwerth cyn y cyfarfod a fyddai'n codi mater annibyniaeth i Gymru, dywedodd ap Iorwerth: "Mae hyn yn ymwneud â chreu dyfodol llewyrchus i Gymru."
"Mae hyn yn ymwneud â mynd i'r afael â'r materion sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd fel llywodraeth – materion yn ymwneud â chyllid teg, a'r pwerau sydd eu hangen arnom i wella bywydau pobl yng Nghymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.