Eigra Lewis Roberts: y llenor lliwgar oedd yn hoff o gemau arcêd

Eigra Lewis RobertsFfynhonnell y llun, Llun teulu
  • Cyhoeddwyd

Er iddi ennill cyfoeth o wobrau a chydnabyddiaeth gyhoeddus yn ystod ei gyrfa, doedd Eigra Lewis Roberts erioed yn gwbl gyfforddus o flaen torf.

Ac eto, hi greodd rai o gymeriadau mwyaf cofiadwy llenyddiaeth a theledu Cymraeg.

Mewn rhifyn arbennig o Llwyfan ar BBC Radio Cymru, mae ei theulu a'i chyfoedion yn rhannu cipolwg ar fywyd a chymeriad y llenor lliwgar a fu farw yn gynharach eleni yn 86 oed.

Meddai ei merch, Sioned: "Doedd hi ddim jyst yn sgwennu. Roedd hi'n arlunio, roedd hi'n chwarae cerddoriaeth... roedd hi'n twyllo mewn gemau!

Manon Steffan Ros gyda Sioned Lewis, merch Eigra
Disgrifiad o’r llun,

Cyflwynydd Llwyfan, Manon Steffan Ros gyda Sioned Lewis, merch Eigra

"Roedd hi'n brilliant. Roedd hi'n medru gwneud cymaint o bethau â chymaint o dalent.

"Ond beth sy'n rhyfedd ydy, doedd hi ddim yn berson pobl. Doedd hi ddim yn gymdeithasol; mae'r rhan fwyaf o'r gweithiau yma yn dod o'i dychymyg hi o bobl."

Y ferch dawel oedd yn gwylio

Wrth gofio dyddiau ysgol Eigra yn Ysgol Sir Ffestiniog, mae ei chyfoedion hefyd yn ei disgrifio fel person tawel ond chwilfrydig.

Yn ôl ei chyd-ddisgybl Sian Arwel Davies, roedd Eigra fel petai'n casglu cymeriadau a straeon o oedran ifanc:

"Roedd yn amlwg ei bod yn hogan beniog, ond roedd hi'n hogan breifat.

"Dwi'n ei chofio yn y dosbarth. Roedd hi'n gwrando... yn edrych ac yn cofio. Dwi'n siŵr fod ei meddwl fel catalog o gymeriadau wrth fynd adref pob dydd!"

Y chwiorydd Sian Arwel Davies a Beti Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y chwiorydd Sian Arwel Davies a Beti Jones yn adnabod Eigra yn Ysgol Sir Ffestiniog

Ac yn ôl yr actor John Ogwen, fe wnaeth yr elfen sylwgar yma o gymeriad Eigra Lewis Roberts gyfoethogi ei dawn fel awdur: "Doedd ei chefndir ddim yn ofnadwy o gymdeithasol. Ond roedd hi'n dod i adnabod pobl yn naturiol.

"Roedd hi'n gwrando ar bobl, a gwrando ar rhythm eu deud.

"Roedd y ddeialog yn Gymraeg mor naturiol. Roedd bob un o'r cymeriadau yn siarad fel basech chi'n disgwyl iddyn nhw siarad."

Eigra Lewis Roberts, Y Fedal RyddiaithFfynhonnell y llun, Casgliad Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Eigra yn ennill Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1965 yn Y Drenewydd. Enillodd y Fedal hefyd yn 1968, a'r Tlws Drama yn 1974

Llenor yr arcêds a'r llyfrau

Wrth drafod bywyd Eigra, datgelodd y golygydd Bethan Mair fwy am ddiddordebau annisgwyl Eigra.

"Roedd hi'n dwlu chwarae slot machines.

"Byddai Eigra yn gadael y plant yn y rhan lle oedd pawb yn gallu mynd, a byddai hi'n mynd mewn yn ddwfn i'r arcêd lle oedd dim ond pobl dros 18 yn cael mynd.

"Roedd hi hefyd yn smociwr heb ei hail! Pan oedd pecyn yn dod wrth Eigra i'r wasg, o'ch chi'n gwybod wrth yr arogl!"

Ond y diddordeb pennaf wrth gwrs oedd darllen, ac mae Sioned yn rhannu mor bwysig oedd llyfrau i'w rhieni:

"Roedd ganddyn nhw gystadleuaeth ar y gweill trwy'r amser o pwy oedd yn gallu darllen y mwyaf o lyfrau.

"Fan'na oedd eu meddyliau nhw, fan'na oeddan nhw'n byw. Roedda nhw'n cadw llyfrau nodiadau ar bob un llyfr, a'u marcio nhw allan o 10.

Eigra yn darllenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nofel Eigra, Mis o Fehefin ei addasu i fod yn gyfres deledu ar S4C. Roedd Minafon yn boblogaidd ymysg y gynulleidfa, ac ar ein sgriniau o 1983-89

"Roedd yr holl elfennau yma ohoni yn bodoli mewn ffordd.

"Roeddwn i'n cymryd yn ganiataol bod unrhywun yn hel 600 o bethau marcio llyfrau, bod unrhyw berson yn mynd lawr bob dydd Sadwrn i Landudno i chwarae peiriannau, bod pob person yn smocio'n ddi-stop trwy'r dydd a nos! Bod pob person yn byw yn ei study...

"'Naethon ni erioed feddwl yn wahanol. Mam oedd hi, a dyna ni."

Eigra mewn coron
Disgrifiad o’r llun,

Eigra Lewis Roberts oedd enillydd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 2006 - a hynny ar ddiwrnod ei phen-blwydd yn 67 oed

'Ddim yn Eigra heb Llew'

Yn ôl Sioned, roedd ei mam yn glir iawn ynglŷn â'r hyn oedd yn bwysig iddi.

"Doedd ganddi ddim diddordeb mewn gwaith tŷ, mewn coginio, mewn talu biliau, mewn glanhau - mewn gwneud unrhyw beth o gwbl ond sgwennu."

Ychwanegodd fod ei thad wedi gwneud popeth o fewn ei allu i annog gyrfa Eigra.

"Be' wnaeth dad oedd ei galluogi i wneud hynny. Ddim yn ariannol - roedd hi'n gallu gwneud ei phres ei hun. Ond roedd yn rhoi gofod iddi hi ei wneud."

Roedd Llew hefyd yn rhan o broses greadigol Eigra, gan wrando ar ei syniadau a'u trafod. Meddai Sioned: "Roedd hynny yn amhrisiadwy. Roedd yn eistedd am oriau yn serennu ar ei wyneb hi wrth drafod syniadau. Roedd o wrth ei fodd yn gwneud hynny."

Mae Bethan Mair, a fu'n golygu gwaith Eigra am flynyddoedd yng Ngwasg Gomer yn ategu hynny:

"Byddai Eigra ddim wedi gallu bod yn Eigra heb Llew," meddai.

Pleser, cynnwrf a chyffro

Dros yrfa yn estyn dros 60 mlynedd, ysgrifennodd ddegau o gyfrolau yn cynnwys nofelau, straeon byrion, llyfrau i blant, cofiannau a dramâu, gan ennill gwobrau lu am ei gwaith. Felly beth oedd yn gyrru Eigra i ysgrifennu?

Cafwyd yr ateb yn llais y llenor ei hun:

"Dwi'm yn hoff iawn o'r byd real," meddai Eigra mewn recordiadau archif. "'Hwyrach, mewn ffordd, mai rhyw fath o ddihangfa ydy'r sgwennu.

"Mae'n well gen i fyd y dychymyg. Er, fe fyddai'n meddwl weithiau mod i wedi byw yn rhy hir ym myd y dychymyg. Mae meddwl am y byd real yn boendod i mi ar adegau.

"Mae'n debyg mai yr unig beth fedra i ei wneud ydy trïo y gorau medra'i i ddisgrifio bywyd fel dwi'n ei weld o."

Eigra Lewis RobertsFfynhonnell y llun, Llun teulu

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.