Bachgen o Benarth ar frig y byd pêl-droed 'freestyle'

- Cyhoeddwyd
Sut oeddech chi'n treulio eich harddegau? Gwneud eich gwaith cartref? Cymdeithasu gyda'ch ffrindiau? Wel, mae un bachgen 14 oed o Benarth wedi bod yn cystadlu ar y lefel uchaf yn y byd pêl droed 'freestyle'.
Mae Jamie newydd gipio'r trydydd safle yng nghystadleuaeth y NextGen Super Ball World Football Freestyle Championships yn yr Iseldiroedd.
Mae ei lwyddiant diweddar yn ychwanegu at ei gasgliad sy'n cynnwys pum record byd Guinness a medal efydd y byd.
Wrth siarad ar BBC Radio Wales gyda'r cyflwynwyr Oliver Hides a Catrin Heledd, eglurodd Jamie beth yn union yw'r gamp unigryw hon:
"Felly, yn ei hanfod, gwneud triciau gyda pêl ydi Pêl droed Freestyle." meddai Jamie.
"Mae o ychydig yn wahanol i bêl droed arferol lle da chi'n ceisio sgorio gôl, 'da chi yno ar eich pen eich hun yn gwneud sgiliau."

Jamie ar ôl cyflawni ei bumed Record Byd Guinness (sef y fwyaf o driciau 'Around the World' mewn un munud) yn ystod hanner amser gêm Dinas Caerdydd yn erbyn Bolton Wanderers tymor tymor diwethaf.
Ysbrydoliaeth o YouTube
I nifer o bobl, mae cadw'r bêl yn yr awyr neu gwneud 'keepy-uppies' yn hen dric, ond mae Jamie wedi mynd â'r dechneg i lefel arall, gan ddefnyddio symudiadau cymhleth fel y 'double around the world' a'r 'neck stall'.
Wrth gael ei holi am sut y dechreuodd ar ei daith, fe ddywedodd Jamie iddo gael ei ysbrydoli gan rai o enwau mawr y gêm ac arwyr ar-lein:
"Es i mewn iddo drwy wylio clipiau ar YouTube o rai o chwaraewyr fwyaf talentog y byd, pobl fel Ronaldinho a Maradona."
"Wedyn ddos i ar draws freestylers go iawn wnaeth jysd chwythu fy mhen. Un boi yn benodol o'r enw Erlend Fagerli o Norwy... mae o'n cael ei adnabod fel y gorau erioed. GOAT (Greatest of all time) y byd freestyle."
Jamie o Benarth yn y NextGen Super Ball World Football Freestyle Championships.
HAWLFRAINT: WFFA Superball
Cydbwysedd a gofynion y gamp
Gydag ychydig o le wedi ei glirio yn bwrpasol yn stiwdio Radio Wales, fe roddodd Jamie arddangosiad byr o'i ddewiniaeth i'r cyflwynwyr, gan adael ei fam, Yvonne, i sylwebu ar y symudiadau.
Er bod difrod yn y tŷ wedi bod yn sgil-effaith anffodus o'r ymarfer yn y gorffennol, ("we've removed all the breakables") mae hi'n fwy na pharod i gefnogi ei mab.
Jamie o Benarth yn dangos ei sgiliau pêl yn stiwdio Radio Wales
Wrth drafod yr her o gydbwyso astudiaethau'r ysgol gyda gofynion ymarfer, nododd Yvonne fod y gamp wedi agor drysau cymdeithasol ac ieithyddol i Jamie a chyfeillgarwch gyda phobl ledled y byd.
O ran y dyfodol, mae ffocws Jamie yn glir ar bethau fel Pencampwriaethau'r DU ac amryw o gystadlaethau ar-lein, gyda'r nod o droi'r hobi yn yrfa.
"Dwi eisiau gwneud hyn fel swydd llawn amser yn y pendraw," meddai Jamie. "Mae'n bosib fydd yn anodd, ond mae'n rhaid i mi drio."
Gyda chymaint o lwyddiant eisoes i'w enw ag yntau ond yn 14 oed, mae'n amlwg mai dim ond dechrau mae taith y bachgen talentog hwn o Benarth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd27 Awst

- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf
