Bywyd prysur Ryan Jenkins: Tad, rheolwr a dirprwy Ysgol Cwm Rhymni

Ryan JenkinsFfynhonnell y llun, CPD Met Caerdydd
GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Ryan Jenkins yn ddyn prysur mewn sawl ffordd; yn ŵr a thad, yn ddirprwy brifathro yn Ysgol Cwm Rhymni, ac yn rheolwr ar glwb Met Caerdydd yn haen uchaf pêl-droed Cymru.

Mae Ryan bellach yn ei bumed tymor fel prif rheolwr y clwb, ond roedd yn chwarae pêl-droed ei hun cyn rheoli.

"O'n i gyda'r Barri, Pontypridd, Ton Pentre, Met Caerdydd a Phen-y-bont. 'Nes i arwyddo cytundeb proffesiynol gyda Nottingham Forest. 'Nes i symud lan yna ar ôl gwneud fy arholiadau TGAU, ac o'n i 'da nhw nes o'n i bron yn 20 oed."

Ryan JenkinsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ryan yn ei ddyddiau gyda chlwb Nottingham Forest

Roedd ambell i enw mawr yn chwarae yn yr un tîm â Ryan pan oedd gyda Nottingham Forest.

"O'dd Michael Dawson, Wes Morgan, Jermaine Jenas ac Andy Reid i gyd yna, ac oedden ni gyd yn byw 'da'n gilydd i bob pwrpas.

"'Naethon ni ennill y Premier Academy dwy flynedd yn olynol gyda'r rheolwr adnabyddus, Paul Hart."

Carfan Ryan pan oedd gyda Notthingham ForestFfynhonnell y llun, Ryan Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Ryan gyda charfan iau Notthingham Forest - yn y rhes flaen, un o'r chwith. Wrth ei ochr ar y pen mae Michael Dawson, a chwaraeodd am 11 tymor gyda Tottenham Hotspur yn Uwch Gynghrair Lloegr

Wedi iddo benderfynu rhoi'r gorau i chwarae pêl-droed aeth Ryan i Brifysgol Metropolitan Caerdydd (UWIC bryd hynny) i wneud gradd a chymhwyso i fod yn athro.

Mae Ryan wedi ymwneud a thîm hyfforddi Met Caerdydd ers blynyddoedd, yn gyntaf o dan arweiniad Christian Edwards, Cymro o Gaerffili a oedd yn chwarae yn Nottingham yr un pryd â Ryan.

"'Naeth e ofyn os o'n i eisiau gorffen fy ngyrfa chwarae gyda Met Caerdydd a mynd mewn i hyfforddi, ac wedyn yn hwyrach (2015) o'n i'n rhan o'i dîm hyfforddi e, cyn cael y brif swydd pum mlynedd yn ôl."

Ysgol Cwm Rhymni

Daw Ryan o Ynysybŵl ger Pontypridd yn wreiddiol, ac fe aeth i Ysgol Rhydfelen. Fe wnaeth ei ymarfer dysgu yn Ysgol Cwm Rhynni yn ardal Caerffili, ac yna y mae ers 2008.

"'Nes i fy ymarfer dysgu yn Ysgol Cwm Rhymni, a dwi dal 'ma!"

Ymysg ei gyn-ddisgyblion mae'r chwaraewyr pêl-droed Cymru Aaron Ramsey, Tash Harding a Dylan Lawlor.

"Roedd Aaron yn chwaraewr arbennig wrth gwrs, ac yn foi bright 'fyd. Roedd e eisiau cyngor am ei yrfa a'r cyfan d'wedes i oedd y dyle fe fod gyda chlwb ble fydde e'n cael chwarae ac sy'n rhoi cyfle iddo fe ddangos ei ddoniau... ac yn fuan wedyn roedd e yn nhîm cyntaf Caerdydd!"

Cwm RhymniFfynhonnell y llun, Ysgol Cwm Rhymni
Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Cwm Rhymni, ble mae Ryan yn dysgu

"Dwywaith yr wythnos fi'n gadael yr ysgol er mwyn bod yng Nghyncoed erbyn 5pm," esbonia Ryan.

"Rwy'n cael cyfarfodydd gyda'r tîm hyfforddi a'r timau perfformiad a meddygol.

"Ry'n ni'n cael cyfarfodydd i gynllunio'r wythnos ar ddydd Llun. Rwy'n gweithio'n hwyrach yn yr ysgol ar ddiwrnodau eraill, heblaw am nos Wener pan fydd mwyafrif o gemau Cymru Prem bellach.

"Mae'n gallu bod yn straen i deithio ar ôl gwaith lan i'r gogledd o leiaf saith neu wyth gwaith y tymor. Mae'n dipyn o ymroddiad ond rwy'n gweld e fel rhoi rhywbeth yn ôl i Gymru a chefnogi pêl-droed ein gwlad.

"Mae'r ysgol wedi bod yn hynod gefnogol i fi, yn enwedig Matthew y prifathro, a'r Llywodraethwyr hefyd.

"Mae fe'n rhan fawr o'n diwylliant ni i gefnogi pwy bynnag sy'n llwyddo ac yn cynrychioli sefydliad cenedlaethol, ac rwy'n ffodus iawn i gael prifathro a staff hynod gefnogol - mae'r ysgol gyfan wedi bod yn wych i ddweud y gwir."

Magu teulu

Mae Ryan yn briod â Heledd, ac mae ganddynt ddwy o ferched - Mali sy'n naw mlwydd oed, ac Ania, sy'n bump.

"Teulu sy'n dod gyntaf, wedyn yr ysgol sy'n talu'r morgais, ac yna'r pêl-droed... a dyna'r drefn o ran blaenoriaethau bob tro.

"Ni'n trafod fel teulu'r wythnos sydd i ddod. Nid jest ni, ond fy rhieni i a rhieni Heledd hefyd, achos mae'n bwysig i weithio fel tîm."

Ryan a'i deuluFfynhonnell y llun, Ryan Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Ryan gyda'i wraig, Heledd, a'i ferched, Mali ac Ania

Gemau nos Wener

Bydd cyfrifoldebau Ryan yn prysuro eleni gyda mwyafrif o gemau'r Cymru Premier yn cael eu chwarae ar nos Wener.

"Dwi ddim yn gwybod be' sy'n mynd i roi yn fan 'na, nid jest i fi ond i eraill sy'n gweithio fel athro neu jobs tebyg.

"Dwi'n deall yn iawn i chwarae gemau rhwng timau yn y de neu dimau'r gogledd ar nos Wener, ac ambell gêm arall bydd rhaid teithio. Ond i gyrraedd lan i Gaernarfon ar nos Wener ar ôl gwaith, mae'n waith caled i ddweud y lleia'.

"Nid yn unig mae'n anodd ar y chwaraewyr a staff, ond bydd cefnogwyr yn teithio lan a lawr o'r gogledd yn hwyr nos Wener, ac rwy'n poeni y bydd damwain rhywbryd.

"Dwi'n deall bod angen ceisio tyfu'r gêm, ac mae'n bwysig iawn ennill y cefnogwyr drosodd, ond y chwaraewyr sy'n gwneud y gêm, ac os yw'r product ddim yn iawn ar y cae bydd e ddim yn adeiladol i'r gêm yng Nghymru.

"Mae'r timau sydd gyda'r budget mawr yn gallu fforddio hyn achos mae'r chwaraewyr yn broffesiynol, ond os oes chwaraewyr rhan amser fel sydd gennym ni ym Met Caerdydd mi fydd pethau'n anodd."

Ryan JenkinsFfynhonnell y llun, Ryan Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Eleni fe lwyddodd Ryan gwblhau ei drwydedd hyfforddi broffesiynol UEFA

Gan ei fod yn dîm prifysgol mae nifer o chwaraewr y garfan yn astudio, gyda rhai eraill sydd ddim yn y byd addysg.

"Mae tua hanner y chwaraewyr yn fyfyrwyr, ambell i chwaraewyr fydd yn dechrau fel myfyrwyr, a 'dyn ni wedi arwyddo ambell chwaraewr o safon fewn fel Aaron Wildig, a oedd gyda Caerdydd yn y Bencampwriaeth.

"Ac mae rhywun fel James Clarke 'di cael swydd 'da'r brifysgol, felly mae e'n chwarae a gweithio i ni, ac mae e'n grêt o foi."

FAWFfynhonnell y llun, Ryan Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Ryan yn sefyll wrth Craig Bellamy gyda'r grŵp a raddiodd o gwrs hyfforddi proffesiynol Cymdeithas Pel-Droed Cymru ym mis Mai 2026

Felly, beth yw gobeithion Ryan ar gyfer y tymor?

"Ni'n adeiladu tîm nawr i frwydro i fod yn y chwech uchaf a herio timau fel y Seintiau Newydd.

"Ond ry'n ni hefyd yn realistig achos mae'n anodd arnom ni oherwydd yr amodau ni'n gweithio gyda. Ond ni'n trio cael buddsoddiadau tu hwnt i'r cae chwarae, a cawn ni weld sut eith hynny.

"Mae lot o waith i'w wneud ac mae'n brosiect hirdymor, ond mae'n gyffrous iawn."

Gyda thymor llawn gyda Met Caerdydd o'i flaen, swydd fel dirprwy yng Nghwm Rhymni, a dwy o ferched ifanc adref, mae'n debygol y bydd Ryan yn brysur iawn dros y flwyddyn nesaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig