Ail-fyw buddugoliaeth enwog pêl-droedwyr o Gymru ar lwyfan

Golygfa o'r ddrama Just One Cornetto
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddrama gomedi yn canolbwyntio ar yr wythnosau yn arwain at fuddugoliaeth enwog pêl-droedwyr Merthyr dros Atalanta o'r Eidal yn 1987

  • Cyhoeddwyd

Bron i 40 mlynedd ar ôl i Glwb Pêl-droed Merthyr Tudful achosi sioc drwy guro mawrion yr Eidal, Atalanta yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop, mae'r stori ryfeddol yn cael bywyd newydd mewn drama lwyfan.

Mae'r ddrama gomedi Just One Cornetto yn canolbwyntio ar yr wythnosau yn arwain at y gêm ym Mharc Penydarren, pan gurodd Merthyr y tîm o Bergamo 2-1, yn rownd gynta'r gystadleuaeth.

Roedd yna siom wedyn i'r miloedd o gefnogwyr a deithiodd i ogledd Yr Eidal ar gyfer yr ail gêm, pan gafodd Merthyr eu trechu 2-0, gan olygu mai Atalanta aeth ymlaen i'r rownd nesaf.

Ond mae cyffro'r gêm gynta, a'r sylw gafodd hi ar adeg pan oedd clybiau Lloegr wedi eu gwahardd o bêl-droed Ewropeaidd, yn golygu ei bod yn rhan o chwedloniaeth pêl-droed Cymreig.

Golygfa o'r ddrama lwyfan Just One Cornetto, gyda'r actorion yn portreadu'r gêm bêl-droed
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond rhan o'r stori ydi'r gêm bêl-droed ei hun, yn ôl awdur y ddrama, Anthony Bunko

Roedd yn gêm ddramatig, gyda gôl fuddugol Merthyr yn dod gan Chris Williams ar ôl 83 o funudau.

Ond mae awdur y ddrama, Anthony Bunko yn credu bod y cynhyrchiad ei hun yn ymwneud â llawer mwy na hynny.

"Mae'n stori bêl-droed, ond nid felly chwaith. Mae'r pêl-droed yn dod ar y diwedd.

"Mae ychydig bach fel y Full Monty, lle mae'r ddawns yn dod ar y diwedd."

Y prif gymeriad ydi bachgen o'r enw Decker, a'i ymdrechion i wireddu addewid i fynd â llwch ei ddiweddar daid i'r gêm.

"Mae'n ymwneud â'r cymeriadau, a'r heriau y maen nhw'n eu goroesi," meddai'r dramodydd lleol.

"Mae ganddoch chi'r Eidalwyr sy'n dod drosodd i Gymru a sydd ychydig yn betrusgar.

"Mae ganddoch chi'r pwyllgor, sy'n gorfod troi o fod yn amatur i broffesiynol.

"Mae yna ychydig o stori garu hefyd, gyda'r Eidalwyr yn dod yma ac yn syrthio mewn cariad â merch o Ferthyr."

Gem Merthyr v AtalantaFfynhonnell y llun, PA

Er ei fod yn fachgen lleol, doedd Bunko ei hun ddim yn un o'r dros 8,000 o gefnogwyr ym Mharc Penydarren i wylio'r gêm enwog, gan gydnabod mai "chwaraewr rygbi oedd o" ar y pryd.

"Ond dros y blynyddoedd diwethaf dwi wedi bod yn mynd i Barc Penydarren, ac mae pobl bob amser yn siarad am y gêm yna, a dwi'n gweld y lluniau ar y wal.

"A feddyliais i y byddwn wrth fy modd yn gwneud rhywbeth ynglŷn â'r digwyddiad."

Anthony Bunko a Neil Maidman
Disgrifiad o’r llun,

Y dramodydd lleol, Anthony Bunko (chwith) ydi awdur Just One Cornetto, a Neil Maidman, oedd yn y gêm enwog ar y noson sydd wedi ei chyfarwyddo

Roedd cyfarwyddwr y cynhyrchiad, Neil Maidman yn y gêm yn 1987, a hynny ar y noson cyn ei ben-blwydd yn 18 oed.

Roedd yn "gwbl anhygoel," meddai.

"O edrych yn ôl, fe wnaeth yr wythnos yna siapio fy mywyd.

"Fe wnes i ddechrau ar fy swydd gynta ychydig o ddyddiau wedyn, ac fe wnes i gyfarfod fy narpar-wraig ychydig o ddyddiau wedi hynny."

"I fod yn gwneud a chyfarwyddo drama am yr adeg yna, mae'n eitha swreal i ddweud y gwir."

'Noson roddodd obaith i bobl'

Gyda disgwyl i nifer o'r chwaraewyr o 1987 ddod i wylio'r ddrama yn Theatr y Colisëwm Aberdâr, mae un o'r actorion yn dweud ei fod yn teimlo cyffro mawr.

"Mae'n gymaint o anrhydedd," meddai Ben Evans sy'n chwarae rhan Kevin Rogers - yr unig chwaraewr o Ferthyr ei hun yn y tîm, a'r un a sgoriodd y gôl gynta ar ôl 38 o funudau i roi Merthyr ar y blaen.

"Dwi wedi bod yn lwcus iawn, iawn i siarad gyda'r anhygoel Kevin Rogers, a dywedais wrtho fy mod i'n gobeithio na fyddwn yn ei adael i lawr."

Mae'n cytuno bod arwyddocâd digwyddiadau chwaraeon yn llawer mwy na'r canlyniad ei hun, gan bwysleisio'r effaith ar gymunedau.

"Pan wnaethon ni ddechrau ymarfer, doedden ni ddim yn siarad am y gêm, ond am Ferthyr yn 1987 a'r problemau economaidd, a sut y gwnaeth y noson honno roi gobaith i bobl."

"Mae'n rhywbeth sy'n gwneud i chi gredu, yntydi?"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig