Y Cymro a ysbrydolodd Watership Down

Watership DownFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y naturiaethwr Ronald Lockley, cyfaill i'r nofelydd Richard Adams, oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl i'r nofel (a'r ffilm) eiconig i blant

GanHuw Griffiths
  • Cyhoeddwyd

Pwy sy'n cofio darllen Watership Down (neu wylio'r addasiad ffilm) yn blentyn a galaru dros drallodion y cwningod bach annwyl – Hazel, Fiver, Bigwig a Blackberry?

Tybed a wyddoch chi fod angen diolch i naturiaethwr o Gaerdydd o'r enw Ronald Lockley am ysbrydoli un o'r llyfrau plant enwocaf erioed?

Dyma ychydig o'i hanes ac archwilio'r cysylltiad rhwng y Cymro hwn, a dorrodd gwys newydd mewn sawl ffordd ym maes cadwraeth, a'r nofel eiconig.

Ffermio yng Nghaerdydd

Ganwyd Ronald Lockley yn 1903 yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, ac fe fynychodd Ysgol Uwchradd Caerdydd.

Tra roedd yn fachgen ysgol, ei brif hobi oedd campio a byw yn yr awyr agored ar benwythnosau yn y coedwigoedd a'r gwlyptiroedd o amgylch yr Eglwys Newydd, sydd bellach yn warchodfa natur.

Pan adawodd yr ysgol, fe brynodd fferm ieir gyda'i chwaer ar gyrion y brifddinas yn Llaneirwg.

Byw ar Ynys Sgogwm

SgogwmFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hen fferm Ronald Lockley ar Ynys Sgogwm, wrth ymyl arfordir Sir Benfro

Yn 1927, symudodd i fyw gyda'i wraig gyntaf Doris ar ynys anghysbell Sgogwm, rhyw dair milltir oddi ar arfordir Sir Benfro - ger Ynys Sgomer.

Doedd neb arall yn byw ar yr ynys, ac roedd yn waith caled byw ar y tir yno. Ond roedd Sgogwm yn lle perffaith i astudio bywyd gwyllt, yn enwedig yr holl adar gwahanol oedd yn mudo i'r ynys.

Roedd yr ynys hefyd yn gartref i filoedd o gwningod. Bu Lockley a'i wraig yn bridio a gwerthu cwningod i ddechrau, gan danio diddordeb Lockley ym myd y cwningod.

Ond yn fuan, penderfynodd droi at fod yn awdur llawn amser, yn ysgrifennu llyfrau ac erthyglau am fyd natur.

Arloesi ym myd adareg

SgomerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ronald Lockley ar Ynys Sgomer yn y 1930au

Bu Lockley'n byw ar Ynys Sgogwm tan yr Ail Ryfel Byd, pan feddiannwyd tir yr ynys gan y fyddin. Yn y cyfnod hwn, wnaeth Lockley gynnal astudiaethau arloesol o balod yr Atlantig (Atlantic puffins), adar drycin Ewropeaidd (European storm-petrels) ac adar drycin Manaw (Manx shearwaters).

Cyhoeddwyd ei waith ymchwil mewn llyfrau dylanwadol megis Dream Island, Island Days ac I Know an Island yn ystod y 1930au.

Sefydlodd Lockley arsyllfa adar cyntaf y Deyrnas Unedig ar yr ynys yn 1933, gan arloesi'r dull o arsylwi adar yn y fath modd ym Mhrydain.

Nature
Disgrifiad o’r llun,

Syr Peter Scott a Syr Julian Huxley – naturiaethwyr enwog y cyfnod, a oedd yn edmygu gwaith Lockley

Yn 1938, sefydlodd y Pembrokeshire Bird Protection Society, a fyddai'n troi'n Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin a De-Orllewin Cymru.

Erbyn 1939, roedd Lockley'n modrwyo rhyw 6,500 o adar y flwyddyn ar Ynys Sgogwm er mwyn eu hastudio.

Yn y cyfnod hwn, daeth Lockley i adnabod nifer o naturiaethwyr a biolegwyr pwysicaf ei ddydd, gan gynnwys yr adaregwr Syr Peter Scott (mab yr anturiaethwr Capten Scott) a'r biolegwr Syr Julian Huxley – brawd i'r awdur Aldous Huxley a sylfaenydd y World Wildlife Fund.

Ennill Oscar am y ffilm natur gyntaf erioed

Ronald Lockley yn astudio un o fulfran gwynion Ynys Gwales yn The Private Life of the GannetsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ronald Lockley yn astudio un o fulfran gwynion Ynys Gwales yn The Private Life of the Gannets

Yn 1934, ysgrifennodd Lockley'r sgript ar gyfer ffilm ddogfen o'r enw The Private Life of the Gannets, oedd yn archwilio bywyd haid o fulfran gwynion ar Ynys Gwales.

Cafodd y ffilm arloesol ei chyfarwyddo gan Julian Huxley a'i chynhyrchu gan Lockley ynghyd â'r gwneuthurwr ffilm enwog, Alexander Korda, o Hwngari.

Enillodd y ffilm Wobr Academi yng nghategori'r Ffilm Fer Orau yn 1938.

Mae'r ffilm yn cael ei chydnabod fel y ffilm natur gyntaf erioed – rhagflaenydd ffilmiau a chyfresi natur poblogaidd David Attenborough.

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - a sefydlwyd gan Lockley Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – a sefydlwyd gan Lockley

Pan feddiannwyd Ynys Sgogwm gan yr Weinyddiaeth Amddiffyn yn 1940, symudodd Lockley i'r tir mawr i ffermio, ac yna i fyw ar ystad hanesyddol Orielton ger tref Penfro.

Yn 1952, chwaraeodd Lockley ran flaenllaw wrth sefydlu Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Roedd yn aelod pwysig o'r tîm fu'n mapio'r llwybr cerdded ar hyd arfordir Sir Benfro ar gyfer creu'r parc cenedlaethol.

Ysbrydoli Watership Down

Richard Adams, awdur Watership DownFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Richard Adams, awdur Watership Down

Tra'n byw yn Orielton, cafodd Lockley ei gomisiynu gan Warchodaeth Natur Prydain i gynnal astudiaeth drylwyr o fywyd cwningod. Ysgrifennodd lyfr o'r enw The Private Life of the Rabbit yn 1964 yn seiliedig ar y gwaith ymchwil hwn. Roedd y llyfr yn cofnodi patrymau bywyd cwningod mewn modd trylwyr a sensitif, a oedd yn llwyddo i gydio yn nychymyg y darllenydd.

Yn 1972, cyhoeddodd Richard Adams ei nofel enwog i blant am fyd ffantasïol y cwningod, Watership Down.

Seiliodd Adams ei nofel ar waith ymchwil Lockley yn The Private Life of the Rabbit. Doedd Adams ddim yn adnabod Lockley ar y pryd. Danfonodd Adams ddrafft olaf y nofel at Lockley am adborth cyn iddi gael ei chyhoeddi, ac fe ddaeth y ddau'n ffrindiau agos wedi hynny.

Fel ffordd o ddiolch i Lockley, wnaeth Richard Adams gynnwys ei ffrind fel cymeriad yn ei nofel ThePlague Dogs yn 1977.

Mewn rhagair i ail argraffiad The Private Life of the Rabbit, meddai Adams, "from Ron I learned that rabbits had dignity and 'animality' – the quality corresponding to 'humanity' in men and women. Their life pattern was fascinating."

Cafodd y nofel ei haddasu fel ffilm animeiddiedig eiconig yn 1978.

Teithiodd y ddau gyda'i gilydd i'r Antarctig yn y 1980au, ac fe ysgrifennon nhw lyfr gyda'i gilydd yn cofnodi'r teithiau hyn o'r enw Voyage Through the Antarctic, a gyhoeddwyd yn 1982.

Symud i Seland Newydd

RonFfynhonnell y llun, Alamy

Yn 1970, symudodd Lockley i fyw yn Seland Newydd, wrth iddo deimlo fod llywodraeth y Deyrnas Unedig yn esgeuluso cadwraeth naturiol.

Roedd Lockley'n westai ar raglen radio Desert Island Discs yn Hydref 1980.

Roedd ei fab, Martin yn balentolegydd adnabyddus.

Bu farw Ronald Lockley yn Seland Newydd yn 2000, yn 96 oed.

Mae'n cael ei ystyried fel un o naturiaethwyr pwysicaf y Deyrnas Unedig, ac fel arloeswr yn ei faes. Roedd yn awdur toreithiog, gan gyhoeddi dros 50 o lyfrau am natur, ac mae nifer o naturiaethwyr heddiw yn cyfrif ef fel dylanwad ar eu gwaith, gan gynnwys Syr David Attenborough.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol