Trigolion pentref a gafodd ei daro gan lifogydd yn lansio grŵp cymunedol

Gwaelod-y-garth
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tua 15 o gartrefi eu heffeithio gan y llifogydd ar 30 Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae trigolion pentref ar gyrion Caerdydd, a gafodd ei daro gan lifogydd ddiwedd Gorffennaf, wedi ffurfio grŵp cymunedol newydd.

Gobaith 'Stronger Together' ydy rhoi cymorth i'r rhai sy'n gwella yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd pentref Gwaelod-y-garth ei daro gan symiau enfawr o ddŵr a mwd yn dilyn gwaith chwythu creigiau - oedd wedi'i gynllunio - mewn chwarel gyfagos.

Mi gafodd 15 eiddo eu heffeithio ac roedd yn rhaid gwagio 13 o gartrefi. Ni fydd rhai trigolion yn gallu dychwelyd adref am fisoedd.

Mae gweithredwyr y chwarel, Breedon Group, wedi cydnabod bod digwyddiad wedi cymryd lle ac yn dweud eu bod yn gweithio gyda'r awdurdodau perthnasol a'r gymuned.

Mae'r Awdurdod Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i'r mater.

'Meithrin cefnogaeth a chodi ymwybyddiaeth'

Cafodd y grŵp newydd ei ffurfio'r wythnos ddiwethaf ac ei lansio yng ngŵyl seidr y pentref ddydd Sadwrn, 5 Medi.

"Ni wedi dod at ei gilydd fel grŵp unedig i ddeall beth ddigwyddodd ar 30 Gorffennaf, ac i weithio gyda'r holl asiantaethau perthnasol i leihau'r risg o unrhyw lifogydd, difrod a niwed pellach i'n cymuned a'n trigolion," meddai'r trigolyn Vicky Duncan.

"Ry'n ni eisiau meithrin cefnogaeth, codi ymwybyddiaeth, cysylltu â'r sefydliadau perthnasol a gweithio gyda'n gilydd i ddeall beth ddigwyddodd a lleihau'r bygythiad o hyn yn digwydd eto."

Un o'u prif bryderon yw y bydd Breedon Group yn ailddechrau chwythu creigiau.

Mae aelodau o'r grŵp wedi cynnal cyfarfodydd gyda Keira Marshall, AS dros Blaid Cymru yn etholaeth Caerdydd Penarth, ac maent yn fod i drafod yr ymdrech adfer gydag Alex Barros-Curtis, AS Llafur dros Orllewin Caerdydd, ddydd Llun.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig