Gwagio cartrefi oherwydd llifogydd ar ôl 'digwyddiad' mewn chwarel

Gwaelod-y-garth
  • Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaethau brys yn delio â llifogydd yng Ngwaelod-y-garth ar gyrion Caerdydd ar ôl digwyddiad mewn chwarel gerllaw brynhawn Iau.

Mae sawl eiddo wedi cael eu gwagio, gyda ffyrdd wedi cau a phobl yn cael eu cynghori i osgoi'r ardal tra bo'r ymateb yn parhau.

Dywedodd cwmni Breedon, sy'n gweithredu Chwarel Ffynnon Taf, eu bod yn ymwybodol o ddigwyddiad ar y safle a'u bod yn gweithio gyda'r awdurdodau perthnasol wrth ymateb i'r sefyllfa.

Mae trigolion wedi dweud wrth y BBC eu bod wedi clywed ffrwydrad mawr o gyfeiriad y chwarel tua 12:30 ddydd Iau, a bod y dŵr wedi'u cyrraedd ychydig funudau'n ddiweddarach.

Dywedodd Dŵr Cymru nad yw'r digwyddiad yn gysylltiedig ag unrhyw un o'u hasedau na'u rhwydwaith.

Gwaelod-y-garth

Mae sawl eiddo wedi cael eu gwagio yng Ngwaelod-y-garth ar ôl i lif o ddŵr daro'r ardal brynhawn Iau, gydag adroddiadau bod y dŵr hyd at bum troedfedd o ddyfnder mewn rhai cartrefi.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Heddlu De Cymru yn bresennol, gyda ffordd ar gau yng nghyffordd Heol Goch a'r Brif Ffordd.

Mae'r gwasanaethau brys wedi annog pobl i osgoi'r ardal er mwyn caniatáu iddyn nhw ddelio â'r digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Breedon: "Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad a ddigwyddodd yn Chwarel Ffynnon Taf y prynhawn yma."

Ychwanegodd fod timau'r cwmni yn gweithio'n agos gyda'r awdurdodau perthnasol ac yn ymgysylltu â'r gymuned leol wrth ymateb i'r sefyllfa.

Dywedodd y cwmni mai cefnogi'r ymateb yw eu blaenoriaeth ac nad oedden nhw mewn sefyllfa i wneud sylw pellach.

Cartref Steven Mordecai
Disgrifiad o’r llun,

Cartref Steven Mordecai, gyda'r marciau ar y gegin a'r waliau yn dangos lefel y dŵr pan darodd y tŷ

Roedd cartref Steven Mordecai yn un o'r rheiny a gafodd eu taro gan "wal o ddŵr".

"Roedd yn dair troedfedd o uchder, a nes i rewi," meddai.

"Weles i ddŵr brown, oedd yn od ynghanol sychder. Nes i ddal fy ngafael yn fy ngiât ar ro'n i'n arnofio.

"Roedd e mor gryf, roedd e'n anghredadwy."

Steven Mordecai
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Steven Mordecai yn "arnofio" tra'n gafael mewn giât wrth i'r dŵr gyrraedd

Dywedodd Laura Fergusson, sy'n byw yn y pentref, iddi glywed yr hyn a ddisgrifiodd fel ffrwydrad, cyn i'r dŵr gyrraedd ychydig funudau'n ddiweddarach.

"Roedd ffrwydrad, yn ôl pob tebyg o'r chwarel, ac fe gyrhaeddodd y dŵr ychydig funudau'n ddiweddarach," meddai.

"Roedd y ffrwydrad yn llawer uwch nag arfer, roedd y tŷ cyfan yn crynu ac roedd yn teimlo fel daeargryn bach."

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn ymwybodol fod lliw Afon Taf wedi newid o ganlyniad i'r digwyddiad.

"Mae ein swyddogion ar y safle i asesu'r effeithiau amgylcheddol, ac yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau brys i gynghori ar leihau unrhyw risg o lygredd pellach i ddyfrffosydd yn yr ardal."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig