Cymru gyfan bellach mewn sychder swyddogol

- Cyhoeddwyd
Mae statws sychder bellach wedi cael ei ymestyn i gynnwys Cymru gyfan, wrth i'r cyfnod o dywydd sych a phoeth barhau.
Daw'r datganiad diweddaraf gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dilyn cyfarfod brynhawn Iau o aelodau Grŵp Cyswllt Sychder Cymru, sy'n cynnwys cynrychiolwyr CNC, y Swyddfa Dywydd a Llywodraeth Cymru.
Y disgwyl ydy mai'r mis yma fydd y mis Gorffennaf sychaf ers dechrau cadw cofnodion 190 o flynyddoedd yn ôl.
Roedd statws o sychder eisoes wedi ei ddatgan ar gyfer hanner Cymru ar 23 Gorffennaf - ardaloedd yng Ngwynedd, Ynys Môn, Dyfrdwy, Clwyd a Hafren Uchaf.

Mae'r diffyg glaw wedi creu amodau heriol iawn i lawer o ffermwyr
Mae lefelau sawl afon yn agosáu at eu hisaf ar gofnod, ar ôl i'r wlad weld tua 8% yn unig o'r glaw sydd i'w ddisgwyl ar gyfartaledd ym mis Gorffennaf, wedi sawl ton o wres a chyfnod sychach na'r arfer ers mis Ebrill.
Rhybuddiodd corff Afonydd Cymru bod llif isel sawl afon yn achosi "problemau sylweddol" i fywyd gwyllt, tra bod undebau amaeth yn dweud bod cnydau'n methu a da byw o dan straen.
Bydd datgan statws sychder ar gyfer Cymru gyfan yn golygu y bydd yna ragor o fonitro afonydd, a chyngor cryfach i'r cyhoedd o ran defnyddio dŵr
'Amodau'n parhau i ddirywio'
Wrth gyhoeddi'r statws sychder dywedodd CNC bod diffyg glaw a thymheredd uchel parhaus wedi golygu bod yr amodau amgylcheddol wedi parhau i ddirywio ledled Cymru.
Dywedodd Rhian Thomas, rheolwr dŵr a natur cynaliadwy CNC: "Mae difrifoldeb y gwres, a'r diffyg eithriadol o law, yn golygu bod hwn yn ddarlun sy'n newid yn gyflym yng Nghymru.
"Mae ein timau'n monitro rhagolygon a llifoedd afon yn agos, ac yn ymateb i ddigwyddiadau a phryderon amgylcheddol cynyddol ar draws Cymru.
"Mae'r effaith ar yr amgylchedd, ein tirwedd a'r byd amaeth yn amlwg i'w gweld, gyda llawer o'n timau'n parhau i ddelio ag ôl-effeithiau tanau gwyllt helaeth sydd wedi dinistrio coedwigoedd, glaswelltiroedd a chynefinoedd arbennig."
Gyda statws sychder hefyd wedi'i gyhoeddi ar gyfer llawer o ardaloedd yn Lloegr ar 29 Gorffennaf, mae CNC yn cydweithio ag Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr o ran afonydd trawsffiniol fel Gwy a Dyfrdwy i sicrhau bod ganddyn nhw ddarlun llawn o iechyd afonydd.

Mae'r diffyg glaw wedi arwain at lefelau isel o ddŵr mewn afonydd a chronfeydd fel Llyn Aled Isaf yn Sir Conwy
Dydy'r datganiad o sychder drwy'r wlad ddim yn golygu bod yna fygythiad ar hyn o bryd i gyflenwadau dŵr ar gyfer tai a busnesau, gyda chwmnïau dŵr yn dweud bod lefelau mewn cronfeydd yn sefydlog ar ôl dechrau gwlyb i'r flwyddyn.
Ond mae CNC yn dweud ei bod hi'n bwysicach nag erioed i bobl ddefnyddio dŵr yn ddoeth.
"Mae pob diferyn rydyn ni'n ei wastraffu yn llai o ddŵr i'n hafonydd a'n bywyd gwyllt pan maen nhw ei angen fwyaf."
Gwerthu gwartheg oherwydd diffyg tir pori
Mae ffermwr o Wrecsam yn dweud ei fod wedi gorfod gwerthu 60 o wartheg oherwydd bod y sychder wedi lladd tir pori.
Yn ôl George Tomlinson, 29, sy'n rhedeg fferm organig Rossett Park Farming gyda'i frawd Will, mae glaw cyfyngedig neu ddim glaw o gwbl ar y fferm dros y chwe wythnos diwethaf wedi golygu nad oes unrhyw beth ar gael i'r gwartheg ei fwyta.

Mae George Tomlinson yn dweud nad yw'n obeithiol y bydd y sefyllfa'n gwella'n fuan, ac mae'n poeni am y dyfodol
"Y llynedd roedd ein cnydau gwair tua 30% yn is, ond mae eleni yn edrych hyd yn oed yn waeth. Mae'n mynd yn ddifrifol," meddai.
Mae'r rhan fwyaf o'r fuches o 500 o wartheg - gwartheg godro yn bennaf, gyda rhywfaint o wartheg eidion - wedi bod y tu mewn ganddo dros y pum wythnos diwethaf, yn bwydo ar gymysgedd o silwair a'r ychydig o laswellt sydd ar gael.
"Mae'r grawn a'r tir âr 60% yn is, felly rydyn ni'n gorfod prynu'r bwyd hwnnw i mewn - o'i brynu i gyd mae hynny'n £176,000 ac allwn ni ddim fforddio hynny, felly rydyn ni wedi gwneud y penderfyniad i werthu 60 o wartheg."

Mae'r rhan fwyaf o fuches George Tomlinson wedi bod y tu mewn dros yr wythnosau diwethaf oherwydd diffyg tir pori
Dywedodd nad oes ganddo lawer o obaith y bydd y sefyllfa'n gwella'n fuan, a'i fod hefyd yn poeni am y dyfodol wrth i newid hinsawdd arwain at dywydd eithafol.
"Mae'n bryder mawr y gallai hyn ddod yn rhywbeth cyson.
"Rydyn ni'n colli arian ac yn methu ailfuddsoddi yn y busnes... gyda ffermio allwch chi ddim bod ar ei hôl hi.
"Os bydd hyn yn parhau mi fydd llawer o ffermwyr yn gorfod cau eu giatiau a pheidio â'u hagor fyth eto.
"Mae'n rhywbeth gwirioneddol drist a digalon."
'Yr amgylchedd dan straen sylweddol'
Dangos bod yr amgylchedd dan straen sylweddol mae'r cyhoeddiad heddiw - o ganlyniad i'r tywydd sych a phoeth parhaus.
Bydd yn arwain at fwy o fonitro o afonydd sy'n hynod o isel a rhyddhau dŵr o gronfeydd i helpu gyda'r llif.
Bydd y rheiny sydd â thrwyddedau i dynnu dŵr o afonydd - o ffermwyr a chamlesi i gyrsiau golff - yn wynebu cyfyngiadau.
Ac mae 'na elfen gyfathrebu fawr i hyn hefyd - felly cyngor cryfach i ni gyd fod yn fwy doeth a gofalus â'n defnydd o ddŵr.
Mae gan Dŵr Cymru waharddiad ar ddefnyddio pibellau dwr mewn grym i rannau o orllewin Cymru yn dilyn galw digynsail am ddŵr yn ystod y cyfnodau twym diweddar.
Ond maen nhw'n dweud ar hyn o bryd nad oes bygythiad cyffredinol i gyflenwadau o ddŵr yfed i dai a busnesau - gyda lefelau cronfeydd ar draws Cymru yn parhau'n iach
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf
