Rhun ap Iorwerth yn dweud bod angen 'dysgu gwersi' o lifogydd pentref

Aeth Rhun ap Iorwerth i siarad gyda thrigolion Gwaelod-y-garth ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi bod yn ymweld â'r "dinistr" mewn pentref sydd wedi dioddef effaith llifogydd dros y dyddiau diwethaf, i siarad gyda'r trigolion.
Ddydd Iau, cafodd sawl eiddo eu gwagio yng Ngwaelod-y-garth ar gyrion Caerdydd a chafodd ffyrdd eu cau gyda phobl yn cael eu cynghori i osgoi'r ardal.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth ddydd Sadwrn fod angen "sicrhau bod yr ymchwiliad gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) yn gyflym ac yn drylwyr a'i fod yn rhoi'r atebion rydym eu hangen".
"Mae'n rhaid i ni ddeall beth ddigwyddodd yma er mwyn i ni allu dysgu gwersi a sicrhau na all hyn ddigwydd eto."
Ni wnaeth yr HSE gynnig diweddariad ar y sefyllfa, ond dywedodd y Gweithgor ddydd Gwener eu bod yn "cydweithio â Heddlu'r De a'r tîm ymateb brys".
"Rydym wedi ymweld â'r safle ac mae ymchwiliadau i'r digwyddiad wedi dechrau. Rydym yn gweithio gyda Heddlu'r De i ddechrau ymchwiliad."

"Mae hwn yn brofiad llifogydd gwahanol iawn i'r hyn a welwn ni fel arfer, ond wrth gwrs, mae'r difrod i gartrefi pobl yr un mor ddifrifol ag mewn unrhyw ddigwyddiad llifogydd difrifol," meddai Rhun ap Iorwerth
"Yr hyn sydd gennym yma ydy'r cwestiwn ychwanegol: Sut digwyddodd hyn?
"Mae'n hynod bwysig ein bod yn dod o hyd i atebion gofalus ond cyflym, ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd yma.
"Dwi wedi siarad gyda phobl sy'n byw yma ac wedi mynegi eu pryderon - sy'n parhau.
"Yr hyn na allwn ei wneud rŵan yw dyfalu ynghylch beth yn union ddigwyddodd yma ddydd Iau.
"Rydym yn gwybod y llinell amser, roedd ffrwydrad ac yna llifogydd ychydig funudau'n ddiweddarach.
"Ond gadewch i ni sicrhau bod yr ymchwiliad gan yr HSE yn gyflym ac yn drylwyr a'i fod yn rhoi'r atebion rydym eu hangen.
"Mae'n rhaid i ni ddeall beth ddigwyddodd yma er mwyn i ni allu dysgu gwersi a sicrhau na all hyn ddigwydd eto," meddai'r prif weinidog.

"Mae Cyngor Caerdydd yn arwain wrth ddarparu'r cymorth ymarferol hwnnw, ond mae gan Lywodraeth Cymru gronfa gymorth opsiynol y gall Cyngor Caerdydd gyfeirio pobl ati. Mae'n bosib gwneud taliad cymorth brys.
"Mae'n rhy gynnar i roi adroddiad arnyn nhw (yr ymchwiliadau).
"Ond mae'r HSE eisoes wedi dechrau ddoe ar eu hymchwiliad i'r digwyddiad yn y chwarel ei hun. Mae'n hanfodol ein bod yn cael atebion i hynny.
"Cyngor Caerdydd fydd yn arwain ar yr elfen lifogydd a'r hyn wnaeth ddigwydd yno a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fydd yn arwain ar yr effaith amgylcheddol.
"Mae gennym newyddion cadarnhaol cynnar gan CNC nad oes unrhyw effeithiau amgylcheddol amlwg i lawr yr afon hyd yma, ond mae angen i ni aros rŵan ac osgoi dyfalu."
Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth eu bod am "helpu cymaint ag y gallwn ni o ran cymorth gyda llety dros dro a sicrhau bod gennych gefnogaeth".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
