'Rhywbeth ofnadwy o'i le' cyn llifogydd yn dilyn ffrwydrad chwarel

- Cyhoeddwyd
Mae pobl mewn ardal sydd wedi dioddef llifogydd, yn dilyn digwyddiad mewn chwarel gerllaw, wedi galw am gau'r safle.
Cafodd sawl eiddo eu gwagio yng Ngwaelod-y-garth ar gyrion Caerdydd, roedd ffyrdd wedi cau a phobl yn cael eu cynghori i osgoi'r ardal.
Ddydd Iau dywedodd pobl yr ardal wrth y BBC eu bod wedi clywed ffrwydrad mawr o gyfeiriad y chwarel tua 12:30 a bod y dŵr wedi'u cyrraedd ychydig funudau'n ddiweddarach.
Mewn diweddariad ddydd Gwener, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod yn "ymwybodol o ddifrod sylweddol i hawl tramwy (right of way) cyhoeddus trwy'r coetir o ganlyniad i'r digwyddiad".
Mae ffordd Heol Goch ar gau i'r ddau gyfeiriad o'r B4262 i Clos Goch.
Dyma'r olygfa mewn gerddi yn dilyn y llifogydd yng Ngwaelod-y-garth
Dywedodd Chris Weaver, arweinydd Cyngor Caerdydd, fod ymateb amlasiantaeth ar lefel "Gold Command" wedi cael ei roi ar waith yn dilyn y digwyddiad.
"Ar hyn o bryd y flaenoriaeth yw gwneud popeth yn ddiogel, glanhau'r ardal a chefnogi'r trigolion," meddai.
"Yn amlwg rydyn ni'n ymwybodol o'r ffrwydradau yn y chwarel, a bydd hynny'n cael ei ymchwilio'n llawn er mwyn deall beth achosodd y digwyddiad."

Dywedodd hefyd fod tua 15 o gartrefi wedi'u heffeithio a bod oddeutu 40 o bobl wedi'u heffeithio'n uniongyrchol gan y digwyddiad.
"Roedd ymateb y gwasanaethau brys a staff y cyngor yn arbennig, ac rwy'n ddiolchgar iawn am bopeth wnaethon nhw i sicrhau bod pobl yn ddiogel," meddai.
Ychwanegodd fod swyddogion tai'r cyngor yn parhau i gefnogi'r trigolion ac y byddai'r cyngor yn cysylltu â phawb sydd wedi'u heffeithio i weld pa gymorth pellach y gall ei ddarparu.
'Pethau'n gwaethygu'
Dywedodd pobl leol wrth y BBC eu bod wedi bod yn pryderu ers tro am effaith ffrwydradau o'r chwarel ar eu cartrefi.
Dywedodd Paul Kipling, sy'n byw ar Heol Berry, fod y ffrwydrad ddydd Iau wedi bod yn llawer mwy pwerus na'r arfer, gan ddisgrifio'r profiad fel petai "bom wedi ffrwydro" ac ysgwyd y tŷ cyfan.
Dywedodd ei fod wedi sylwi bod pethau "yn gwaethygu" yn raddol, gan ychwanegu ei fod yn credu bod "rhywbeth ofnadwy wedi mynd o'i le" gyda'r ffrwydrad ddydd Iau.
Dywedodd ei fod wedi llwyddo i agor giât ochr ei gartref cyn i'r dŵr gyrraedd, gan osgoi rhywfaint o'r difrod i'w dŷ.
"Rwy'n credu ei bod hi wir yn bryd i'r cloddio ddod i ben - mae'n rhy agos at yr holl dai, a'r holl dai newydd sbon sydd wedi'u hadeiladu o gwmpas."
Dywedodd fod y chwarel bellach "wedi'i hamgylchynu'n llwyr" gan dai a'i fod yn credu bod y sefyllfa'n "ddamwain sydd ar fin digwydd".

Roedd ffrwydrad ddydd Iau yn wahanol i'r arfer, meddai Gareth Morgan a Debi Bode
Dywedodd Gareth Morgan a Debi Bode fod eu tŷ yn ysgwyd yn rheolaidd oherwydd y ffrwydradau, gyda chraciau newydd yn ymddangos yn yr adeilad, ond bod digwyddiad dydd Iau yn wahanol i'r arfer.
"Fel arfer, ti'n teimlo bang, ti'n teimlo'r ysgwyd, mae'n teimlo fel daeargryn bach, ond ddoe roedd hi'n teimlo fel petai tri ohonyn nhw.
"Ac yna ychydig funudau'n ddiweddarach, roedd hi yn yr ystafell gyda fi i fyny'r grisiau, a dywedodd, 'beth yw hynna?', a gweld y dŵr yn dod i lawr tuag at yr wyneb."

Dywedodd Lava Kurda fod y llifogydd wedi difrodi ei chartref ac wedi lladd 11 o'i hadar anwes
Dywedodd Lava Kurda, sy'n byw yng Ngwaelod-y-garth, fod dŵr mwdlyd tua metr o ddyfnder wedi mynd i mewn i'w chartref.
Dywedodd fod cymydog wedi ei ffonio i'w rhybuddio am y llifogydd, ac ar ôl cyrraedd adref darganfyddodd fod 11 o'i hadar anwes wedi marw.
"Roedden nhw yn y cawell ac oherwydd bod y dŵr mor ddwfn, roedden nhw i gyd yn y dŵr," meddai.

Dywedodd Lava Kurda fod "popeth wedi mynd" ar ôl i'r llifogydd daro ei chartref
Dywedodd fod y llifogydd wedi effeithio ar ei hoergell, ei pheiriant golchi, ei phopty, ei charped a'i soffa.
"Y tro yma, roedd hi fel daeargryn, dyna ddywedodd fy nghymdogion.
"Mae mwd ym mhobman - allwn ni ddim byw fel hyn.
"Allwch chi ddim byw yn y tŷ yma - mae'n llawn mwd," meddai.
Dywedodd ei bod yn poeni am beth allai ddigwydd yn y dyfodol pe bai digwyddiad tebyg yn digwydd eto.
"Mae popeth wedi mynd," meddai.

Mae Mandy Symonds eisiau gweld y chwarel yn cau
Dywedodd Mandy Symonds, sydd wedi byw yn ei chartref teuluol ers blynyddoedd, ei bod bellach yn ansicr beth i'w wneud ynghylch y difrod a'i bod yn aros i glywed gan ei chwmni yswiriant.
"Dwi'n anabl - mae gen i arthritis yn fy ddwy goes, mae angen help arna i.
"Does gen i ddim syniad ble i ddechrau," meddai, gan ychwanegu ei bod am i gynrychiolwyr Breedon ddod i weld y difrod i'w chartref a'i gardd a'i esbonio iddi pam y digwyddodd.
'Cefnogi'r gymuned yn flaenoriaeth'
Mae cwmni Breedon, sy'n gweithredu Chwarel Ffynnon Taf, wedi cadarnhau bod y digwyddiad yn dilyn un o'i "ffrwydradau sy'n cael eu cynllunio" yn y chwarel.
Dywedodd Mike Pearce, prif weithredwr Breedon GB, mai eu "blaenoriaeth lwyr" oedd cefnogi'r bobl sydd wedi'u heffeithio.
"Mae ein tîm ar lawr gwlad yn gweithio gyda'r awdurdodau a'r gymuned leol i sicrhau bod gan bawb lety diogel ac addas, ynghyd ag unrhyw gymorth arall sydd ei angen," meddai.
Dywedodd y cwmni y byddai'n cefnogi ymchwiliad yr awdurdodau ac y byddai hefyd yn cynnal ei ymchwiliad ei hun i "ddeall beth sydd wedi digwydd".
Gwagio cartrefi oherwydd llifogydd ar ôl 'digwyddiad' mewn chwarel
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru fod eu meddyliau gyda'r "rhai sy'n cael eu heffeithio" gan y digwyddiad.
"Rydym yn ymwybodol o'r newid lliw gweladwy yn Afon Taf o ganlyniad i'r digwyddiad yma.
"Mae ein swyddogion wedi cymryd samplau o'r dŵr a aeth i mewn i Afon Taf, yn ogystal â samplau o'r afon ei hun, er mwyn ein helpu i asesu unrhyw effaith amgylcheddol yn sgil y digwyddiad, a byddwn yn parhau â'r gwaith monitro hwn.
"Mae ein swyddogion ar y safle yn asesu'r effaith amgylcheddol ac yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau brys i roi cyngor ar sut i leihau unrhyw risg pellach o lygredd i lwybrau dŵr yn yr ardal.
"Rydym yn ymwybodol o ddifrod sylweddol i hawl tramwy (right of way) cyhoeddus trwy'r coetir o ganlyniad i'r digwyddiad ac yn annog i bobl osgoi'r ardal," meddai CNC.

Mae Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, wedi dweud bod y digwyddiad wedi "peri pryder".
"Mae ein meddyliau gyda'r trigolion a'r busnesau sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd yng Ngwaelod-y-garth," meddai.
"Rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa a chefnogi ein partneriaid fel rhan o'r ymateb amlasiantaeth, sydd nawr yn symud i gyfnod adferiad."
Ychwanegodd y bydd yr awdurdodau perthnasol yn ymchwilio i'r digwyddiad "i ddeall yn union beth ddigwyddodd", ac na fyddai'n briodol gwneud sylwadau pellach ar hyn o bryd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.