O Barc yr Arfau i bedwar llais: Côr y Gleision yn 20

- Cyhoeddwyd
Mae un o gorau mwyaf Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed eleni.
Cafodd Côr y Gleision yng Nghaerdydd ei ffurfio fel rhan o gyfres Codi Canu ar S4C yn ôl yn 2006.
Nod y gyfres oedd hyrwyddo canu ar y terasau ymysg cefnogwyr rygbi ar draws Cymru. Yn y gyfres gyntaf cafodd côr o gefnogwyr ei greu ym mhedwar rhanbarth rygbi Cymru.

Aelodau gwreiddiol
Un o'r rhai hynny aeth i'r gwrandawiadau cyntaf yn Stadiwm y Mileniwm yw Ann Williams, sy'n parhau'n aelod selog o Gôr y Gleision hyd heddiw.
"Mi es i a fy merch, Gwenno, gan ein bod yn gefnogwyr brwd o'r Gleision," meddai Ann.
"Dwi'n cofio llond 'stafell o bobl, a ninnau'n cael ein galw fesul tri i ganu o flaen yr arweinwyr.
"Roedd tipyn o gystadleuaeth gan mai dim ond lle i 100 oedd yn y côr terfynol, ond yn ffodus iawn, mi gawson ni'n dwy ein dewis."

Gwenno ac Ann yn ymarfer cyntaf Côr y Gleision ym mis Mehefin 2006, ar ôl pasio'r clyweliad - a gyda Wyn, gŵr Ann a thad Gwenno, sy'n aelod o'r tenoriaid
Mae'r côr wedi hen ennill ei blwyf ym Mharc yr Arfau, gan ganu mewn nifer o gemau cartref Gleision Caerdydd, neu Rygbi Caerdydd erbyn hyn.
"Yn sicr mae 'na fwy o ganu ar y terasau, yn arbennig dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf," meddai Gwenno Williams.
"Ry'n ni'n ca'l croeso cynnes gan gyd-gefnogwyr, a dros y blynyddoedd ry'n ni hefyd wedi dod i adnabod sawl un o'r chwaraewyr," ychwanegodd Ann.
"Mae'r elfen gymdeithasol yn gryf ymysg aelodau, ac ry'n ni'n mwynhau bod gyda'n gilydd."

"Mae'r côr wedi datblygu tipyn dros y blynyddoedd," ychwanegai Gwenno. "Ar y dechrau mi gymerodd hi ryw dri mis i ni ddysgu Calon Lân mewn pedwar llais, ond bellach mae'r côr yn gallu dysgu darn mewn un ymarfer."
"Côr cymdeithasol ac anffurfiol oedden ni yng ngolwg nifer am flynyddoedd, ond bellach mae pobl yn ein gweld ni fel côr safonol, sydd o ddifrif," meddai Ann.

Cyfarwyddwr Cerddorol y côr, Richard Vaughan, gyda rhai o'r amryw dlysau mae'r côr wedi eu hennill dros y blynyddoedd
Mae'n cyfeirio at y llwyddiant mae'r côr wedi ei brofi mewn nifer o gystadlaethau diweddar.
Mi enillodd deitl y Côr Pedwar Llais Gorau yng Ngŵyl Gerddoriaeth a Drama Oundle y llynedd, ac ennill cystadleuaeth Caneuon o'r Sioeau yng Ngŵyl Gorawl Cheltenham ym mis Mai eleni.
Canfod fy llais
Ffrind a chydweithiwr wnaeth annog Jane Turton i ymuno â'r côr yn 2016.
"Ar ôl i mi golli fy llais yn sgil niwmonia, mi ddechreuais gael gwersi canu i gryfhau'r llais," meddai Jane. "O glywed hynny, mi wnaeth cydweithiwr fy annog i fynd gyda hi i ymarfer y côr un noson. Mi es i, a chael fy hudo gan y gerddoriaeth."
Ers ymuno â'r côr mae Jane wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg, ac mae bod yn aelod o'r côr yn rhoi cyfle iddi ymarfer yr iaith.

Jane a'r arweinydd Richard Vaughan yn dathlu'r llwyddiant diweddar yng ngŵyl gorawl Cheltenham
"Wrth i mi ddysgu mwy o Gymraeg, roedd y geiriau mewn caneuon yn gwneud mwy o synnwyr ac ro'n i'n dod i fwynhau'r rhythmau a thôn y farddoniaeth.
"Dwi'n siarad Cymraeg gyda sawl un mewn ymarferion, ond yr unig anhawster yw bod sawl un yn siarad Cymraeg y gorllewin, lle mae Cymraeg y gogledd dwi'n fwy cyfarwydd ag ef!" meddai Jane.
Brwdfrydedd
Richard Vaughan yw Cyfarwyddwr Cerddorol y côr ers dros 10 mlynedd, ac mae'n rhyfeddu at frwdfrydedd yr aelodau.
"Mae dyhead y côr i ddysgu a datblygu yn rhywbeth arbennig," meddai.
"Yn ystod y cyfnodau clo, mi benderfynodd y pwyllgor i gomisiynu cyfanwaith cerddorol, er mwyn cael rhywbeth i edrych ymlaen ato pan fydden ni'n cael ymarfer gyda'n gilydd unwaith eto.
"Roedd y perfformiad o'r Gloria yn brofiad gwefreiddiol, gyda'r côr yn cydganu gyda'r unawdwyr proffesiynol Fflur Wyn a Trystan Llŷr Griffiths, i gyfeiliant cerddorfa y British Sinfonietta.
"Noson a phrofiad bythgofiadwy."
Uchafbwyntiau
Gyda'r côr yn cynnig profiadau amrywiol, o gystadlu i gyngherddau a chodi canu yn y terasau, mae yna nifer o uchafbwyntiau yn aros yn y cof i'r aelodau.
"Wnes i wir fwynhau canu yn ardal y cefnogwyr yn stadiwm Twickenham adeg Cwpan Rygbi'r Byd, pan enillodd Cymru," meddai Ann. "Ro'n i'n teimlo fel seren bop ar y llwyfan!"
Taith y côr i Wlad Belg yn 2016 sy'n dod ag atgofion arbennig i Gwenno, meddai:
"Roedd canu geiriau Yr Arwr o waith Hedd Wyn i alaw Richard Vaughan, tra'n sefyll wrth fedd Hedd Wyn yn brofiad arbennig iawn."

Mae'r côr wedi cael profiadau gwych dros yr 20 mlynedd, gan gynnwys eu taith ddiweddar i Malta, i nodi'r pen-blwydd
A thaith ddiweddar sy'n atgof gwerthfawr i Jane.
"Roedd canu trefniant Richard Vaughan o'r emyn dôn Llwynbedw, yn y Basilica yn nhref Mosta, Malta yn brofiad bythgofiadwy.
"Roedd yr atsain o fewn cromen yr adeilad yn parhau am rhyw bump eiliad, ac er bod hynny'n creu awyrgylch arbennig i'r sawl oedd yn gwrando, roedd yn creu amodau heriol iawn ar gyfer canu."
Felly beth nesaf i Gôr y Gleision?
Yn ogystal â Chinio Mawreddog ddechrau'r flwyddyn, a thaith ddiweddar i ynys Malta, mae'r côr wedi comisiynu rhagor o gerddoriaeth newydd gan Richard i nodi'r ugain mlwyddiant.
Y bwriad yw cynnal cyngerdd arbennig yn yr hydref yng nghwmni unawdwyr proffesiynol.

Mae'r Ddraig Goch bob amser yn dod gyda nhw, ble bynnag yn y byd mae Côr y Gleision yn crwydro a chanu
Ar hyn o bryd mae'r côr wrthi'n paratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Ers rhai blynyddoedd bellach mae'n anfon dau gôr - sef Côr y Gleision, a Chôr Nefi Blŵs, a sefydlwyd ar gyfer rheiny sy'n 60 oed a throsodd.
"Mi ddaeth y Gleision a'r Nefi Blŵs yn drydydd yn eu cystadlaethau ym Mhontypridd yn 2024," meddai Ann. "Y gobaith yw ennill gwobr unwaith eto eleni.
"Mae'n jôc ymysg aelodau bod Côr y Gleision wedi ennill mwy o gwpanau dros y blynyddoedd na thîm Rygbi Caerdydd!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd29 Mawrth

- Cyhoeddwyd15 Ebrill
