Pennaeth S4C yn amddiffyn Saesneg ar Y Llais er mwyn annog dysgwyr

Mae Yws Gwynedd a Bryn Terfel wedi dod yn ffrindiau wrth gymryd rhan yn Y Llais
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr S4C wedi amddiffyn y defnydd o'r Saesneg ar gyfres Y Llais, gan ddweud bod yn rhaid denu cynulleidfa newydd ac annog dysgwyr.
Fe wnaeth Geraint Evans hefyd ddweud ei bod yn bwysig comisiynu'r gyfres fyd-enwog "cymharol ddrud" er mwyn apelio at Gymry sydd ddim yn defnyddio'r sianel.
Yn ystod ail gyfres y gystadleuaeth canu, a gafodd ei darlledu'n gynharach eleni, roedd beirniadaeth o bolisi iaith y sianel.
Er bod pawb yn gorfod canu yn y Gymraeg, oherwydd bod chwarter y cystadleuwyr yn ddysgwyr roedd nifer o'r cyfweliadau yn Saesneg.
Ar y pryd roedd rhai gwylwyr - gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn darn barn ar Nation.Cymru – yn dweud bod hyn yn tanseilio polisi iaith y sianel.

Mae Geraint Evans wedi bod yn brif weithredwr S4C ers dechrau 2025
Roedden rhai yn dadlau bod fersiwn Saesneg, The Voice eisoes ar gael i bobl ddi-Gymraeg, ac felly y dylid rhoi mwy o flaenoriaeth i siaradwyr Cymraeg.
Roedd eraill o'r farn bod y gyfres yn rhoi cyfle i siaradwyr newydd fagu hyder drwy fod ar S4C, a'i bod yn bwysig adlewyrchu holl siaradwyr Cymraeg.
"Mae 'beth yw siaradwr Cymraeg?' efallai yn gwestiwn allwn ni drafod am dipyn," meddai Geraint Evans mewn cyfweliad gyda Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.
"Fe wnaethon ni ofyn i'r cwmni cynhyrchu i fynd ati yn fwriadol i gastio pobl oedd yn ystyried eu hunain yn ddysgwyr, fel ein bod ni'n rhoi cyfle ac yn dangos bod modd iddyn nhw i ymroi i gynnwys Cymraeg ac i gael eu gweld a'u clywed ar ein sianel ni.
"Roedd hynny'n rhywbeth oedd yn bwysig iawn i fi hefyd."
Dros hanner cynulleidfa o dan 45 oed
Dywedodd bod gan y sianel ganllawiau ynglŷn â faint o Saesneg sy'n dderbyniol ar raglenni. Os oes gormod mewn rhaglen mae rheolwyr y sianel "yn adolygu ac yn cymryd camau i wneud yn iawn am hynny".
Ychwanegodd bod y sianel yn perthyn i bawb, nid dim ond un garfan o gymdeithas.
Meddai: "Mae'n rhaid i ni gofio mai nid dim ond gwasanaethu'r Cymry Cymraeg traddodiadol yw lle S4C.
"Mae gyda ni waith i'w wneud i ddenu mwy o bobl at y Gymraeg drwy gynnwys S4C, ac os gallwn ni wneud hynny drwy gyfresi fel Y Llais ac Amour a Mynydd - sydd hefyd â dros hanner ei chynulleidfa dan 45 oed - wel gwych o beth yw hynny."
'Nid dim ond gwasanaethu'r Cymry Cymraeg traddodiadol yw lle S4C'
Beti a'i Phobol
Dywedodd Mr Evans, sydd yn y swydd ers Ionawr 2025, bod angen gwneud hynny heb anghofio'r gynulleidfa graidd draddodiadol, a bod yn rhaid i'r sianel gynnig rhywbeth i bawb, gan mai dim ond un sianel Gymraeg sy'n bodoli.
Mae cyfres Y Llais yn fformat gafodd ei greu yn yr Iseldiroedd ac sydd bellach wedi ei werthu i 75 o wledydd ar draws y byd.
Fe gafodd y gyfres gyntaf yn y Gymraeg, gafodd ei hennill gan Rose Datta sy'n dod o Gaerdydd ac yn aelod o'r band Taran, ei darlledu yn 2025.
Yr artist drag Carrie Sauce, yn wreiddiol o Wlad yr Hâf ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, enillodd yr ail gyfres yn 2026.
Un o'r pedwar beirniaid yn y gyfres ydi Aleighcia Scott, siaradwr newydd sydd wedi recordio albwm Cymraeg yn ddiweddar, gafodd ei hurddo yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026. Y beirniaid eraill ydi'r cerddor Yws Gwynedd, y canwr opera Bryn Terfel a'r cyflwynydd a chanwr Bronwen Lewis.

Roedd Geraint Evans yn siarad gyda Beti George. Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu am 18:00 ar 1 Tachwedd, ac ar BBC Sounds
Yn ei gyfweliad ar Beti a'i Phobol, fe wnaeth Mr Evans hefyd amddiffyn comisiynu cyfres sy'n "gymharol ddrud" oherwydd ei fod yn fformat byd-eang.
Dywedodd bod S4C wedi buddsoddi mewn rhaglen adnabyddus a phoblogaidd er mwyn denu pobl i'r sianel sydd ddim yn gwylio'n gyson.
"Efallai bod nhw'n gyfarwydd â'r fformat Saesneg ac maen nhw'n gweld bod hwn yn mynd i fod yn fformat sydd ar gael iddyn nhw yn y Gymraeg, gyda phobl o'u cymunedau nhw'n cael cystadlu am y wobr," meddai.
"Rydyn ni'n gweld gyda'r Llais bod dros 50% o'r gwylwyr dan 45 oed, a dyna oedd ein cynulleidfa darged ni, a bod un o bob tri yn dod o gartrefi di-Gymraeg, felly rydyn ni'n gweld bod y Gymraeg yn mynd i gartrefi fysa hi ddim yn cyrraedd fel arall.
"Felly mae yna werth arbennig i gomisiynu rhywbeth tebyg i'r Llais."
Ers ymuno â'r sianel yn 2019 mae Mr Evans bod yn Gomisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes cyn iddo ddod yn Brif Swyddog Cynnwys dros dro.
Mae hefyd wedi gweithio fel newyddiadurwr gydag ITV Cymru ar raglen Y Byd ar Bedwar.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2025
