Carrie Sauce yw enillydd Y Llais 2026

Credir mai Carrie Sauce yw'r artist drag cyntaf i ennill The Voice ar draws holl diriogaethau'r gyfres, ers y cychwyn yn 2010
- Cyhoeddwyd
Carrie Sauce yw enillydd teitl ail gyfres Y Llais ar S4C.
Credir mai Carrie Sauce yw'r artist drag cyntaf i ennill The Voice ar draws holl diriogaethau'r gyfres, ers y cychwyn yn 2010.
Roedd yr hyfforddwyr - Bronwen Lewis, Syr Bryn Terfel, Yws Gwynedd ac Aleighcia Scott - wrth eu boddau â pherfformiadau Oliver Martin sy'n perfformio fel Carrie Sauce drwy gydol y gyfres.
Fe hawliodd Carrie Sauce y fuddugoliaeth fel aelod o dîm Syr Bryn Terfel.
Y tri arall a gyrhaeddodd rownd derfynol Y Llais 2026 oedd Chuts o Gricieth, Cas Jones o Ben-y-bont Fawr a Lywis o Abertawe.
'Teimlo'n anhygoel'
Wrth ymateb i'r fuddugoliaeth, dywedodd Carrie Sauce: "Mae'n teimlo'n anhygoel – byswn i byth wedi dychmygu hyn ond dyma'r sypreis gorau y gallwn i fod wedi gobeithio amdano.
"Dwi methu aros i weld beth sy'n dod nesaf.
"Mae fy nhaith wedi bod yn amrywiol! Jest drwy edrych ar y dewis o ganeuon – wedi mynd o Eurovision, i sioeau cerdd, i Cher, i rai caneuon gwreiddiol Cymraeg hyfryd – mae wedi bod yn anhygoel!"
Fel enillydd Y Llais, mi fydd Carrie Sauce yn cael y cyfle i recordio cân wreiddiol gan un o gyfansoddwyr mwya'r byd, Amy Wadge, sydd wedi cydweithio gydag artistiaid fel Pink, Sam Ryder, ac Ed Sheeran.
Mae dros chwarter cystadleuwyr dwy gyfres gyntaf Y Llais yn ddysgwyr neu'n bobl sy'n ailgydio yn yr iaith.
Mae Carrie Sauce, sy'n wreiddiol o Wlad yr Haf, hefyd yn ddysgwr balch ac wedi mwynhau'r profiad o ganu yn y Gymraeg: "Mae'n hynod bwysig," meddai.
"Mae wir yn dod â ffocws i'r iaith Gymraeg ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yn adfywio'r iaith.
"Mae'n rhan mor brydferth o'n diwylliant a dydyn ni methu fforddio i'w cholli hi.
"Dwi eisiau gallu parhau i berfformio, parhau i ddysgu Cymraeg, parhau i fwynhau'r wlad anhygoel yma.
"Dwi wedi byw yma ers 7 mlynedd ac yn gobeithio byddai'n byw yma am weddill fy oes."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
