Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Llandudno

Mae'r ymchwiliad yn ymwneud â digwyddiad ar Ffordd Sant Seiriol am tua 20:00 nos Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yn Llandudno.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd mewn datganiad fod swyddogion yn ymchwilio i ddigwyddiad ar Ffordd Sant Seiriol am tua 20:00 nos Sadwrn.
Fe gadarnhaodd y llu fod dyn wedi cael ei arestio, ond nid oes rhagor o fanylion am yr unigolyn na'r digwyddiad wedi eu rhyddhau ar hyn o bryd.
Gofynna'r heddlu i unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.
Mae'r ymchwiliad yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.