'A wes whant dod i Lantwd?': Cyflwyniad i ardal y 'Steddfod

Fflur James ar ben Foel DrygarnFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fflur James, sydd wedi cael ei magu dafliad carreg o Faes Eisteddfod Genedlaethol 2026 yn Llantwd, ar ben Foel Drygarn

GanFflur James
Rhoces o Lantwd
  • Cyhoeddwyd

"A wes whant dod i Lantwd?"

Os mai 'oes', neu 'wes' yw'r ateb, dyma ganllawiau i'r rhai sy'n anghyfarwydd â bro'r Garreg Las. Croeso i Wlad Hud a Lledrith.

Wâc 'sha Waldo

Carn MeiniFfynhonnell y llun, Fflur James
Disgrifiad o’r llun,

Carn Meini

Os am daith hudolus i weld meini mawrion a cherrig gleision cynhenid y Preselau, wel ewch i Fynachlog-ddu. Yno, gallwch ddechrau ar y ddringfa hawdd i ben Foel Drygarn, ryw hanner awr i'w chopa.

Ewch â diod a rhywbeth bach i aros pryd i'w gael ar ben y foel, cyn mynd ymlaen, ar hyd y copa, draw i gyfeiriad Carn Meini. Carn Menyn yw'r enw arall arni.

Ger godre Foel Drygarn hefyd, cofiwch ddrychid am garreg goffa Brwydr y Preselau hefyd. Brwydr a enillwyd gan y bobl leol yn erbyn yr Weinyddiaeth Ryfel oedd am droi'r Preselau yn faes ymarfer milwrol. Mae'r garreg hon yn nodi'r fuddugoliaeth.

Wedi hyn, galwch yng nghaffi eiconig Caffi Beca yn Efailwen, ym mro Merched Beca.

Dewin Pen Dinas

Mae Pen Strwmbwl a Phwllderi ymhlith y llefydd mwyaf hudolus yn yr ardal. Mae llonyddwch Pencaer a goleudy enwog Pen Strwmbwl yn werth eu gweld. Cofiwch fynd i weld bedd Jemeima Nicholas, yr arwres leol wnaeth ymladd yn erbyn y Ffrancwyr, yn Abergwaun.

Pen StrwmblFfynhonnell y llun, Fflur James
Disgrifiad o’r llun,

Goleudy Pen Strwmbl

Mae'r patshyn yma o dir wedi ysbrydoli caneuon a cherddi enwog. Tra'ch bod chi ym mro Meic Stevens, cofiwch fynd i weld carreg goffa Dewi Emrys ym Mhwllderi, lle cewch fachlud na ellir ei churo.

Fflur yn ymweld â charreg goffa i'r bardd Dewi EmrysFfynhonnell y llun, Fflur James
Disgrifiad o’r llun,

Fflur yn ymweld â charreg goffa i'r bardd Dewi Emrys

A beth am fynd am dro i Felin Tregwynt - un o felinau enwocaf Cymru?

Gallwch gerdded ar draethau godidog Aberbach ac Abermawr a mynd i Borthgain tra'ch bod chi yno. Gallwch gael bwyd derfyn dydd yn un o fwytai gwych Tyddewi, gorffwysfan yr Arglwydd Rhys a therfyn y Bererindod enwog i'r Gadeirlan.

Hytiau cychod yr RNLI yn NhyddewiFfynhonnell y llun, Aled Evans
Disgrifiad o’r llun,

Hytiau cychod yr RNLI yn Nhyddewi

Gwlad Hud a Lledrith

Mae Llwybr hudolus y Pererinion yn dal i fod yno heddiw ym mro Nanhyfer. Cewch weld risiau'r Pererinion a'r groes yn y graig â cheiniogau wedi eu stwffio ynddi. Mae Carreg Celtaidd enwog hefyd yn sefyll y tu allan i Eglwys Nanhyfer sy'n gofgolofn yn ei hun.

Wrth ddrws yr Eglwys, cewch weld yr ywen waedlyd enwog - sy'n gwaedu, drwy'r adeg. Mae chwedloniaeth yr ardal yn goeth, ac mae chwedlau'r ywen yn werth eu clywed.

Wedi hyn, galwch yng Ngromlech Pentre Ifan i weld y darlun eiconig hwnnw o'r siambr gladdu.

Pentre IfanFfynhonnell y llun, Aled Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cromlech Pentre Ifan

Gwlad beirdd...

Cofeb i WaldoFfynhonnell y llun, Fflur James
Disgrifiad o’r llun,

Cofeb i Waldo

Does dim angen dweud mwy na Mynachlog-ddu i'r rhan fwyaf o Waldo-ffanatics Cymru chwaith. Ewch yno i weld y gofeb enwog sydd iddo yn glyd yng nghesail y Preselau. Ewch wedyn i weld cofeb Niclas y Glais, a W.R. Evans - bardd a sylfaenydd Bois y Frenni.

Taith Dic Jones, os am flas o gyfoeth un o feirdd gwlad enwocaf yr ardal. Mae taith arbennig ar gael ichi ei ddilyn sy'n crwydro'i filltir sgwâr yng ngodre' Ceredigion, patshyn Blaenannerch.

Y Cei, yn Aberteifi

Yr haul yn machlud yng Nghei AberteifiFfynhonnell y llun, Fflur James
Disgrifiad o’r llun,

Yr haul yn machlud yng Nghei Aberteifi

Mae gwylio'r machlud ar y cei yn Aberteifi gyda'r gorau. Gyda geiriau englyn Ceri Wyn yn gefndir i'r machlud ar Afon Teifi, a pheint yn eich llaw - bydd ardal y Cei wythnos yr Eisteddfod yn sicr yn meddu ar naws gorau'r fro.

Mae gigs y Seler i'w clywed wrth y castell a sîn fwyd cŵl Aberteifi yn denu foodies o bell ac agos. Cewch fwyd Michelin, bwyd stryd Mecsicanaidd, cinio rhost a choffi Eidalaidd gwych yn y dre'. Mae'n frith o siopau annibynnol gwych hefyd.

Rhaid ichi fynd i Aberteifi rhyw ben, cartref yr Eisteddfod gyntaf yn 1176.

Cei AberteifiFfynhonnell y llun, Aled Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cei Aberteifi

Nefoedd ar y ddaear...

Os na lwyddwch chi i fynd i unrhyw le arall yn ystod wythnos yr Eisteddfod heblaw am un lle, wel Bae Ceibwr yw hwnnw.

Bae tawel, ysbrydol, sy'n cwato yng nghesail cerrig cwbl drawiadol eu gwedd. Mae llun eiconig o greigiau anferthol y bae yn denu ymwelwyr o ben draw'r byd i'r llecyn hwn ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro.

Bae CeibwrFfynhonnell y llun, Aled Evans
Disgrifiad o’r llun,

Bae Ceibwr

Eto, mae chwedloniaeth yn perthyn i Bwll-y-wrach, sydd ger Bae Ceibwr - mae ei enw'n awgrymu hynny!

Fel rhoces o'r ardal - braf fyddai gweld ein holl enwau cyfoethog Cymraeg yn cael eu defnyddio gan ymwelwyr tra yma ar wyliau, felly cofiwch amdanyn nhw, 'Steddfodwyr!

Lawr i Mwnt...

Dyna eiriau Ail Symudiad, a gallwch chi wneud yr un fath wythnos yr Eisteddfod i gael y llun eiconig hwnnw o'r Eglwys wen ger y môr.

Mae ym Mwnt foel enwog lle y gallwch chi deimlo ar ben y byd, a dim byd ond môr o'ch blaen. Mae Eglwys y Grog ym Mwnt yn denu miloedd bob blwyddyn i weld y llun cerdyn post hwn.

Eglwys MwntFfynhonnell y llun, Aled Evans
Disgrifiad o’r llun,

Eglwys Mwnt

Crymych. Dim swache.

Ma' Crymych yn bentre' sbesial.

Tafarn gymunedol. Clwb Rygbi. Siopau annibynnol. Pentref croesawgar. Dyna'r oll y mae nifer o bobl yn chwilio amdano! Yma y bydd gigs bob nos hefyd, felly cofiwch alw draw ar ôl bod i Lantwd.

Mae Crymych, fel pob cornel o fro'r Garreg Las, yn bictwr gyda holl addurniadau hardd y trigolion i groesawu'r 'Steddfod.

Crymych, dim swache: dim ffys, dim extravaganza - jyst Crymych yn ei holl ogoniant naturiol!

Y Dafodiaith!

Yn bwysicaf na dim arall - ein tafodiaith penigamp ni!

Ewch i gaffis bach lleol, ewch i'r llefydd diarffordd, lle y clywch chi gyfoeth o dafodiaith yn rowlio oddi ar dafodau'r trigolion. Mae'r dafodiaith i'w chlywed yma, ym mhob cornel o fro'r Garreg Las, gan anwybyddu unrhyw ffiniau sirol.

Bydd hi gered 'ma yn Llantwd, bois bach!

Top tip: Tidrath, nid 'Trefdraeth'

Ma' hyn yn bwysig. Da chi, peidiwch ynganu'r dref hon mewn unrhyw ffordd arall heblaw am 'Tidrath' os fyddwch chi'n cynnal sgwrs â rhywun o'r ardal yn enwedig!

Mae'r croeso cynhesaf oll yn eich aros bobl Cymru. Felly, dewch, pentigili, i fro'r wes wes.

Da chi, peidiwch wilibowan, a dewch os am gwrdd â'r phobol anwylaf - a dim swache!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.