Honiadau bod tunelli o rwbel 'trychinebus' yn cael ei ddympio mewn pentref

Mae'r cwmni sy'n berchen ar y safle wedi gwadu honiadau eu bod yn cael gwared ar wastraff ac yn dweud eu bod yn creu ardal hyfforddi ceffylau
- Cyhoeddwyd
Mae rheoleiddiwr amgylcheddol Cymru wedi cyhoeddi hysbysiadau gorfodi yn dilyn adroddiadau am wastraff yn cael ei ddympio mewn dau bentref cyfagos.
Mae trigolion Coed-poeth yn Wrecsam yn dweud bod sawl cerbyd y dydd wedi bod yn rhoi miloedd o dunelli o rwbel adeiladu - gan gynnwys "darnau o hen doiledau", plastig, a metelau - ar gae ar gyrion y pentref.
Dywedodd Reg Davies, sy'n byw'n lleol, fod nifer o gerbydau 40 tunnell yn mynd i'r safle bron yn ddyddiol, gan ychwanegu bod y pentref yn cael ei "ddinistrio".
Gwadu a wnaeth y cwmni sy'n berchen ar y safle, SOS Aggregates, eu bod yn gadael gwastraff a dywedon nhw eu bod yn defnyddio deunydd adeiladu wedi'i ailgylchu o ansawdd uchel, er mwyn creu ardal hyfforddi ar gyfer ceffylau a stabl.

Disgrifiodd un trigolyn y sefyllfa yng Nghoedpoeth fel un "ddigalon"
Hanner milltir i ffwrdd ym mhentref Minera, mae adroddiadau wedi bod am ddwsinau o loriau yn tipio ar gae gyferbyn â thai, gyda charafanau a pheiriannau symud pridd wedi'u gosod ar y safle.
Yng Nghoed-poeth, mae pentrefwyr yn dweud bod lorïau wedi dechrau tipio ychydig fisoedd yn ôl ar dir oedd yn arfer cael ei ffermio ar Ffordd Talwrn, gydag un person yn dweud bod cymaint wedi cael ei roi yno bod ochr bryn wedi cael ei "lefelu".
Dywedodd Mr Davies ei fod yn ofni bod y gweithredu parhaus yn "llygru'r amgylchedd yn ddifrifol".
Ychwanegodd nad ydyn nhw'n gwybod beth sydd yn y cynnwys ac maen nhw'n ofni y gallai gynnwys sylweddau peryglus, fel asbestos a biffenylau polyclorinedig.
'Trychinebus'
Yn ôl trigolyn arall, nad oedd eisiau cael ei enwi, mae'r yn sefyllfa yn "ddigalon".
"Mae ar raddfa ddiwydiannol. Mae'n drychinebus i'w weld," meddai.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bod hysbysiad gorfodi wedi'i gyhoeddi i gael gwared ar y gwastraff o'r safle.
Mae Cyngor Wrecsam wedi cyhoeddi hysbysiad atal dros dro hefyd, ar ôl i "swm sylweddol" o ddeunydd gael ei ollwng "heb ganiatâd cynllunio".
Dywedodd y cyngor y bydden nhw hefyd yn cyflwyno hysbysiadau gorfodi ac atal "er mwyn cywiro'r sefyllfa a sicrhau bod y tir yn cael ei adfer".
Dywedodd Tom Lawson, o Goedpoeth, ei fod yn rhwystredig na chafodd y gweithgaredd ei atal gan CNC pan gafodd ei weld yn wreiddiol.
Amcangyfrifodd fod miloedd o dunelli o ddeunydd yno - deunydd oedd, yn ei eiriau ef, yn edrych fel "gwastraff dymchwel o ansawdd isel" - gan nodi ei fod wedi gweld tar a batris plwm ymhlith y rwbel.
Ychwanegodd Mr Lawson ei fod hefyd yn ofni y byddai'r rhai sy'n gyfrifol "yn syml, yn troi eu cefnau ar y cyfan".
"Bydd y cyhoedd yn cael eu gadael i dalu... mae hynny'n hollol anghywir," meddai.

Mae pobl leol yn dweud bod nifer o lorïau yn mynd i'r safle yng Nghoed-poeth bob dydd
Dywedodd cwmni SOS Aggregates, sydd wedi'u lleoli yn Wrecsam, eu bod yn berchen ar y tir yng Nghoed-poeth ac wedi bod yn rhoi "deunydd llenwi gradd 1A" ar y safle i greu llwyfan gwastad ar gyfer yr arena geffylau, cyn cael ei "dirlunio".
Gwadodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod wedi parhau i ollwng deunydd ar y safle tra bod y gorchymyn atal dros dro mewn grym, ond dywedodd eu bod wedi parhau â'r gwaith unwaith ddaeth y gorchymyn i ben.
Dywedodd eu bod wedi dweud wrth y cyngor y bydden nhw'n cyflwyno cais cynllunio'r wythnos yma a'u bod hefyd yn ceisio cyngor cyfreithiol.
Ychwanegodd y byddai'r cwmni hefyd yn darparu tystiolaeth i CNC ynghylch y deunyddiau sy'n cael eu defnyddio ar y safle.
'Hogleuo'n gryf o ddisel'
Daw'r ymchwiliadau yng Nghoed-poeth wrth i gae arall ar gyrion pentref Minera gerllaw weld dwsinau o lorïau yn dadlwytho deunyddiau, a gafodd eu disgrifio gan un cynghorydd lleol fel rhai oedd yn "ogleuo'n gryf o ddisel".
Mae carafanau wedi cael eu gosod hefyd gyferbyn tai yn Nantlais.
Cafodd y tir ffermio ei werthu tua deufis yn ôl, ond yn ôl y cyngor nid oes cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno ar gyfer datblygiad yno.
Dywedodd SOS Aggregates eu bod wedi cludo deunydd adeiladu wedi'i ailgylchu i'r safle ym Minera, ond nad oedden nhw'n rhan o'r gwaith oedd yn cael ei wneud yno ac nad oedden nhw'n berchen ar y tir.
Mae Cyngor Wrecsam wedi cyflwyno hysbysiad atal dros dro oherwydd "torri rheolaethau cynllunio a newid defnydd y tir yn safle Sipsiwn a Theithwyr, gyda gweithrediadau peirianneg cysylltiedig".
Dywedodd CNC eu bod yn ymchwilio i'r deunyddiau ar y safle ac y bydden nhw'n cymryd camau os bydd hynny'n briodol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.