'Pryder mawr' bod bron hanner myfyrwyr Cymraeg yn gadael Cymru

RhydychenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cynllun Seren ei sefydlu yn wreiddiol i hybu nifer y disgyblion Cymreig sydd yn mynd i brifysgolion fel Rhydychen

GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae 46% y disgyblion o ysgolion cyfrwng Cymraeg a ddechreuodd yn y brifysgol eleni wedi gadael Cymru, yn ôl ffigyrau newydd sydd wedi dod i law BBC Cymru.

Aeth 45% i Loegr ac 1% i'r Alban, tra bod 54% wedi aros yng Nghymru. Aeth 0% i Ogledd Iwerddon.

Dywedodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ei fod yn "destun pryder i'r Coleg fod cynifer o ddysgwyr yn gadael Cymru i astudio mewn prifysgolion tu hwnt i'r ffin".

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith hefyd bod yr ystadegau yn "destun pryder mawr".

Ymatebodd Llywodraeth Cymru eu bod "am ddangos i bobl ifanc fod Cymru yn lle gwych i astudio ac i weithio".

'Allfudiad siaradwyr Cymraeg... yn un o'n prif broblemau'

Cafodd y BBC yr ystadegau gan wasanaeth derbyniadau'r prifysgolion, UCAS.

Dim ond canrannau sydd ar gael, ac maen nhw'n cyfateb i fyfyrwyr ysgolion cyfrwng Cymraeg a dderbyniodd le mewn prifysgol neu goleg 28 diwrnod ar ôl canlyniadau safon uwch 2026.

Y ffigyrau cyfatebol ar gyfer 2025 oedd bod 49% wedi mynd i Loegr ac 1% i'r Alban, tra bod 50% wedi aros yng Nghymru.

Yn 2024 aeth 47% i Loegr, 1% i'r Alban a 52% wedi aros yng Nghymru.

Cefin Campbell AS
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cefin Campbell AS, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, wedi comisiynu adolygiad o addysg uwch ac Academi Seren

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC: "Mae ein prifysgolion yn cynnig cyfleoedd o'r radd flaenaf i fyfyrwyr.

"Rydyn ni am ddangos i bobl ifanc fod Cymru yn lle gwych i astudio ac i weithio.

"Mae ein Hadolygiad o Addysg Uwch wedi dechrau, a bydd y panel yn gwneud argymhellion ynghylch sut i gadw talent, cryfhau ein sylfaen sgiliau a chefnogi ein huchelgeisiau economaidd.

"Nod yr adolygiad hefyd yw annog mwy o fyfyrwyr a graddedigion o Gymru i astudio yng Nghymru.

"Mae hyn yn cynnwys cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n dilyn addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog."

Fe wnaeth y panel a benodwyd gan Cefin Campbell, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, i adolygu addysg uwch yng Nghymru, gyfarfod am y tro cyntaf ar 19 Hydref, gan nodi dechrau ei waith i archwilio sut mae'r sector yn cael ei ariannu a'i drefnu.

Mae'r panel - a fydd yn archwilio cyllid, cymorth i fyfyrwyr, ymchwil a chynaliadwyedd hirdymor y sector - yn cynnwys wyth aelod arbenigol gan gynnwys y cadeirydd, yr Athro Patrick Prendergast.

Mae disgwyl adroddiad interim yr adolygiad yn haf 2027, gydag adroddiad terfynol llawn i ddilyn yn y gaeaf canlynol.

Nanw MaelorFfynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Mae "allfudiad siaradwyr Cymraeg yn dal i fod yn un o'n prif broblemau fel gwlad" meddai Nanw Maelor

Dywedodd llefarydd ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wrth y BBC: "Mae'n destun pryder i'r Coleg fod cynifer o ddysgwyr yn gadael Cymru i astudio mewn prifysgolion tu hwnt i'r ffin.

"Mae cyfle drwy'r adolygiad addysg uwch sydd ar y gweill ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i archwilio'r tueddiadau hyn a sut gellid cymell a chefnogi mwy o fyfyrwyr o Gymru i astudio yn ein prifysgolion ble mae cyfleoedd ar gael iddyn nhw barhau i astudio ystod eang o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog."

'Cyfle i droi'r llanw'

Dywedodd llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith, Nanw Maelor, wrth y BBC bod "allfudiad siaradwyr Cymraeg yn dal i fod yn un o'n prif broblemau fel gwlad, sy'n tanseilio ymdrechion i adfer yr iaith, ac mae angen i'r llywodraeth fynd i'r afael â hyn ar fyrder".

"Dros y blynyddoedd, mae'r llywodraeth wedi gwario'n sylweddol yn ariannu myfyrwyr i astudio y tu allan i Gymru - a hynny tra bod ein prifysgolion yn wynebu argyfwng ariannol a'n myfyrwyr yn gorfod brwydro i gael mynediad at addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae rhaglen Seren, sy'n annog rhai o'n pobl ifanc ddisgleiriaf i adael y wlad er mwyn astudio yn y brifysgol, hefyd yn cyfrannu at y broblem yma.

"Rydyn ni'n falch bod y llywodraeth newydd wedi cydnabod hyn ac wedi ymrwymo i ddiwygio'r rhaglen."

Mae'r gymdeithas yn galw ar y llywodraeth hefyd i "fabwysiadu model cyllido myfyrwyr tebyg i un yr Alban, a chanolbwyntio gwariant ar ariannu myfyrwyr i addysg mewn prifysgolion yng Nghymru".

"Mae'n bosib bod lle i rai eithriadau, er enghraifft os nad oes prifysgol yng Nghymru yn cynnig pwnc penodol, ond ar y cyfan dylai cyllideb addysg uwch Cymru gael ei gwario ym mhrifysgolion Cymru.

"Dyma'r cyfle i droi'r llanw o blaid y Gymraeg yn ein system addysg."

Sefydlwyd y coleg yn 2011 gyda'r nod o sicrhau cynnydd yn nifer y pynciau prifysgol yr oedd modd eu hastudio drwy gyfrwng y GymraegFfynhonnell y llun, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Sefydlwyd y coleg yn 2011 gyda'r nod o sicrhau cynnydd yn nifer y pynciau prifysgol yr oedd modd eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae rhywfaint o ddarpariaeth Gymraeg mewn o leiaf un prifysgol yng Nghymru ym mhob un o'r 36 'prif grŵp pwnc' sy'n cael eu rhestru yng nghynllun academaidd addysg uwch y Coleg.

Mae'r Coleg yn darparu grantiau i'r prifysgolion er mwyn eu cefnogi i ddarparu addysg a darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ôl adroddiad blynyddol 2024/25 Medr, y corff hyd braich sy'n cyllido a rheoleiddio'r sector drydyddol yng Nghymru, fe wnaeth "nifer y staff addysgu sydd wedi'u contractio i addysgu yn Gymraeg gynyddu i 630 yn 2024/25, sy'n gynnydd o 12% o'r cyfanswm o 565 yn 2023/24."

Yn ôl Medr, roedd 5,720 o gofrestriadau ag o leiaf un credyd a astudiwyd yn Gymraeg yn 2024/25 - cynnydd o 3% o'i gymharu â 2023/24.

Mae rhaglen lywodraethu 2026-2030 Plaid Cymru yn ymrwymo i "gynyddu nifer y myfyrwyr sy'n gallu cael mynediad at lwybrau trydyddol yn y Gymraeg, gan gefnogi a datblygu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a gweithio gyda'r Coleg a Medr i gynyddu cyfleoedd i astudio'r Gymraeg fel pwnc."

Cafodd Rhwydwaith Seren - sydd bellach wedi'i ailenwi yn Academi Seren - ei sefydlu yn 2015 yn dilyn adroddiad gan yr Arglwydd Paul Murphy, oedd yn aelod seneddol i'r Blaid Lafur ar y pryd.

Cafodd ei sefydlu yn wreiddiol i hybu nifer y disgyblion Cymreig sydd yn mynd i brifysgolion gorau Prydain gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt.

Datgelodd adolygiad , dolen allanolo Seren yn 2018 "densiwn cynhenid" rhwng amcanion y cynllun ac "amcanion ehangach" y llywodraeth i gefnogi'r sector addysg uwch yng Nghymru.

Mae rhaglen lywodraethu Plaid Cymru yn addo "diwygio Academi Seren, gan adeiladu ar ei helfennau cryfaf i gefnogi mwy o ddysgwyr, gan gynnwys dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig, i gyflawni eu potensial a chamu ymlaen i addysg uwch, hyfforddiant neu gyflogaeth, gan gynnwys yma yng Nghymru".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.