Pam bod 2/3 myfyrwyr Cymraeg ddim yn astudio trwy'r iaith yn y brifysgol?

myfyrwyr Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond 1% astudiodd o leiaf un credyd yn Gymraeg yn y gyfraith, seicoleg, daearyddiaeth a phensaernïaeth

GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Ni wnaeth 67% o'r myfyrwyr addysg uwch yng Nghymru yr oedd yn hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl astudio yr un credyd yn Gymraeg yn 2024/25, yn ôl ystadegau newydd.

Roedd y 33% astudiodd o leiaf un credyd yn Gymraeg yn gynnydd o'i gymharu â 30% yn 2023/24.

Fe wnaeth 22% astudio o leiaf 40 o gredydau yn Gymraeg, cynnydd 1% o'r flwyddyn flaenorol.

Daw'r ystadegau o adroddiad ar y Gymraeg mewn addysg uwch 2024/25 gan Medr - y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a noddir gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC bod "y sefyllfa'n gwella ar draws y sector addysg uwch".

Ymhlith cofrestriadau gan fyfyrwyr sy'n siaradwyr Cymraeg rhugl sy'n hanu o Gymru yn unig, addysgu (60%), a meddygaeth a deintyddiaeth (52%) oedd y pynciau modiwlau â'r cyfrannau uchaf ag o leiaf un credyd wedi cael ei astudio yn Gymraeg.

Dim ond 8% o siaradwyr Cymraeg rhugl astudiodd o leiaf un credyd yn Gymraeg ym maes peirianneg, 5% ym maes cyfrifiadura a 4% ar gyfer pensaernïaeth, adeiladu a chynllunio.

Beth yw credyd?

Credydau yw'r unedau y mae prifysgolion yn eu defnyddio i ddangos maint y modiwl sy'n cael ei astudio.

Mae un credyd yn 10 awr o waith, sy'n cynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a'r gwaith o baratoi asesiadau neu baratoi at arholiadau.

Felly byddai 200 awr o waith yn cael ei wneud mewn modiwl 20 credyd.

Dros flwyddyn lawn arferol, mae disgwyl i fyfyrwyr israddedig gwblhau 120 o gredydau.

Prifysgol BangorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Prifysgol Bangor oedd â'r gyfran uchaf (27%) o staff academaidd sydd ar gytundeb i addysgu yn Gymraeg

Yn 2024/25, roedd 9,120 o gofrestriadau gan fyfyrwyr yr oedd yn hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl yn narparwyr addysg uwch Cymru - roedd hyn ychydig yn is nag mewn blynyddoedd blaenorol.

Roedd siaradwyr Cymraeg rhugl yn 13% o'r 69,220 o gofrestriadau yn narparwyr Cymru gan fyfyrwyr o Gymru.

Roedd gan 15% arall ryw lefel o allu i siarad Cymraeg a hwythau naill ai'n siaradwyr nad oeddent yn rhugl neu'n siaradwyr â lefel gallu anhysbys.

Roedd 5,720 o gofrestriadau ag o leiaf un credyd a astudiwyd yn Gymraeg yn 2024/25, sy'n gynnydd o 3% o'i gymharu â 2023/24, er bod hyn yn dal yn is nag mewn blynyddoedd cynharach.

Mae'r adroddiad hefyd yn dangos:

  • Roedd mwy na dwywaith cymaint o gofrestriadau gan fyfyrwyr benywaidd yn cynnwys o leiaf un credyd a astudiwyd yn Gymraeg o'i gymharu â chofrestriadau gan fyfyrwyr gwrywaidd.

  • O'r cofrestriadau ag o leiaf un credyd wedi cael ei astudio yn Gymraeg, roedd myfyrwyr benywaidd hefyd yn fwy tebygol o astudio nifer uwch o gredydau yn Gymraeg na myfyrwyr gwrywaidd.

  • Roedd 4% o'r cofrestriadau gan yr holl fyfyrwyr, gan gynnwys y rhai nad oeddent o Gymru ac nad oedd yn hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg, yn cynnwys astudio o leiaf un credyd yn Gymraeg yn 2024/25, sef yr un gyfran ag yn 2023/24.

Roedd 630 o staff addysgu academaidd ar gytundeb i addysgu yn Gymraeg yn 2024/25, sy'n gynnydd o'r cyfanswm o 565 yn 2023/24.

Felly roedd 66% o staff addysgu yr oedd yn hysbys eu bod yn gallu addysgu yn Gymraeg wedi'u contractio i wneud hynny.

Ar y cyfan, mae 7% o staff addysgu ar gytundeb i addysgu yn Gymraeg.

Prifysgol Bangor oedd â'r gyfran uchaf (27%) o staff academaidd sydd ar gytundeb i addysgu yn Gymraeg, gyda Phrifysgol Aberystwyth yn dilyn wedyn (22%).

Prifysgol Caerdydd Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Prifysgol Caerdydd oedd â'r nifer uchaf o gofrestriadau (3,320) gan fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg o unrhyw allu

Prifysgol Caerdydd oedd â'r nifer uchaf o gofrestriadau (1,610) gan fyfyrwyr yr oedd yn hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl.

Prifysgol Bangor (1,250) a Phrifysgol Abertawe (1,185) oedd â'r niferoedd uchaf nesaf o gofrestriadau gan siaradwyr Cymraeg rhugl.

Prifysgol Caerdydd hefyd oedd â'r nifer uchaf o gofrestriadau (3,320) gan fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg o unrhyw allu.

Yn dilyn wedyn roedd Prifysgol De Cymru (2,600) a'r Brifysgol Agored yng Nghymru (2,380).

O'r cofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru, Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai oedd â'r cyfrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg rhugl (35% ill dau), gyda Phrifysgol Aberystwyth yn dilyn (31%).

Roedd bron tri chwarter (72%) y cofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru ym Mhrifysgol Aberystwyth a Grŵp Llandrillo Menai (75%) yn siaradwyr Cymraeg o unrhyw allu.

Roedd hanner y myfyrwyr o Gymru ym Mhrifysgol Bangor (54%) a Grŵp Colegau NPTC, sef Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Powys gynt (51%), hefyd wedi'u cofnodi fel rhai â rhywfaint o allu i siarad Cymraeg.

Ymrwymiad maniffesto

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC: "Bu cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae nifer yr aelodau staff sydd wedi'u contractio i addysgu yn Gymraeg hefyd wedi cynyddu ers y llynedd.

"Rydym yn croesawu hyn a byddwn yn parhau i weithio gyda Medr a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynyddu'r cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg wrth astudio.

"Roedd cryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg bellach ac addysg uwch yn ymrwymiad maniffesto [Plaid Cymru], a byddwn yn adolygu addysg uwch yng Nghymru, gan gynnwys ystyried opsiynau i gynyddu'r ddarpariaeth o gyrsiau cyfrwng Cymraeg mewn prifysgolion yng Nghymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones: "Mae newidiadau diweddar i dirwedd addysg drydyddol Cymru yn cynnig cyfle pwysig i gryfhau cydweithio strategol er budd y Gymraeg.

"Mae ymrwymiad Medr i greu cynllun cenedlaethol i'r Gymraeg ar draws y sector addysg drydyddol yn allweddol yn y cyd-destun hwn.

"Rydym yn cydweithio gyda Medr, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a phartneriaid eraill er mwyn sicrhau bod darparwyr yn mynd ati yn rhagweithiol i ehangu darpariaeth Gymraeg ac i annog mwy o ddysgwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Fel rhan o'r gwaith hwn mae angen ystyried materion ehangach na dim ond y ddarpariaeth addysgol."

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, dolen allanol yn gynharach eleni ac a oedd yn tynnu ar brofiadau dros 1,500 o fyfyrwyr fe ystyriwyd pa ffactorau ehangach sy'n hwyluso neu'n rhwystro myfyrwyr rhag defnyddio'r Gymraeg yn eu bywyd academaidd a chymdeithasol.

"Fe wnaethom nodi camau gwella clir, a byddwn yn gofyn i'r sefydliadau perthnasol fynd i'r afael â nhw er mwyn cryfhau sefyllfa'r Gymraeg o fewn y ddarpariaeth addysg uwch i'r dyfodol," meddai'r llefarydd.

Un o "flaenoriaethau allweddol" Medr yw hybu addysg drydyddol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Nod 5 eu cynllun strategol, dolen allanol yw "hybu mwy o ddefnydd o'r Gymraeg, gan gynyddu'r galw am, a chyfranogiad mewn, dysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg".

Dywedodd llefarydd ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: "Mae'n bwysig cydnabod nad ydy pob myfyriwr yn cael cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae hynny am sawl rheswm gan gynnwys diffyg argaeledd darpariaeth Cymraeg yn ei sefydliad nhw, ond hefyd hyder myfyrwyr yn eu sgiliau Cymraeg.

"Mae'r Coleg yn croesawu ymrwymiad y llywodraeth newydd i gynyddu'r gyfran o'r gyllideb sy'n cael ei wario ar y Gymraeg yn y sector drydyddol.

"Byddai hyn yn galluogi'r Coleg i weithio gyda phartneriaid megis Medr a'r darparwyr i gynllunio mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr ddilyn llwybrau Cymraeg di-dor, ac i sicrhau bod yr anogaeth a'r gefnogaeth ar gael iddyn nhw hefyd i ddewis y ddarpariaeth Gymraeg."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.