Tynnu enw Glyndŵr o brifysgol yn 'neges anghywir am hyder a balchder'

Baner a cherflun Owain Glyndŵr, y Cymro olaf i ddal teitl Tywysog Cymru
- Cyhoeddwyd
Roedd tynnu "Glyndŵr" o enw un o brifysgolion Cymru yn "anfon y neges anghywir am hyder a balchder yn hunaniaeth Cymru", meddai AS Reform yn y gogledd.
Penderfynodd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn 2023 i newid ei henw'n swyddogol i Brifysgol Wrecsam, yn rhannol oherwydd "proffil uwch" y ddinas.
Mae Cristiana Emsley, AS Fflint Wrecsam, yn galw am adfer enw Glyndŵr.
Dywedodd y gweinidog diwylliant Heledd Fychan na allai "feddwl am unrhyw wlad arall" lle y byddai penderfyniad o'r fath yn cael ei wneud i i ddileu enw y Cymro diwethaf i fod yn dywysog ar Gymru.
Dywedodd Prifysgol Wrecsam wrth y BBC bod y "newid yn adlewyrchu ein hunaniaeth gref fel prifysgol ddinesig wedi'i gwreiddio yn Wrecsam, ac nid oedd yn symudiad oddi wrth ein hunaniaeth Gymreig".

Mae Cristiana Emsley yn galw am gefnogaeth i ymdrechion i adfer enw Glyndŵr
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Cristiana Emsley "yn 2022 cyhoeddodd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ei bod yn ystyried tynnu 'Glyndŵr' o'i henw, yn ôl y sôn yn rhannol oherwydd ei fod yn cael ei ystyried gan rai fel rhywbeth rhy Gymreig, neu'n anodd ei ynganu."
"Yn anffodus, cafodd enw Owain Glyndŵr ei ddileu'n swyddogol o'r brifysgol yn 2023."
Dywedodd wrth y gweinidog diwylliant, "nid oeddech chi yn y llywodraeth ar y pryd, ond fel llefarydd Plaid Cymru dros ddiwylliant, chwaraeon a materion rhyngwladol, ac o ystyried eich ymrwymiad hirhoedlog i hyrwyddo'r iaith a threftadaeth Cymru, nid wyf wedi gallu dod o hyd i unrhyw ddatganiad cyhoeddus, cyfraniad i'r Senedd, datganiad i'r wasg na chyfweliadau cyfryngau lle gwnaethoch chi fynegi pryder am y cynnig".
Gofynnodd: "Wrth edrych yn ôl, a ydych chi'n credu bod tynnu enw Owain Glyndŵr o un o brifysgolion Cymru wedi anfon y neges anghywir am hyder a balchder yn hunaniaeth Cymru?"
Gofynnodd hefyd "a fyddech chi'n cefnogi ymdrechion i'w adfer?"

Penderfynodd y brifysgol newid ei henw'n swyddogol i Brifysgol Wrecsam yn 2023
Atebodd Heledd Fychan - Y Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon: "Dwi'n meddwl eich bod chi'n codi pwynt allweddol o bwysig o ran ein treftadaeth ni, ein hanes ni ac, efallai, y diffyg dysgu sydd wedi bod o'r hanes a'r treftadaeth hwnnw.
"Mae'r ffaith bod unrhyw un yn meddwl bod Owain Glyndŵr yn enw anodd i'w ddweud yn y genedl roedd o mor falch o'i harwain yn dweud y cyfan.
"Fedraf fi ddim meddwl am unrhyw wlad arall lle y byddai hynny'n digwydd.
"Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni sicrhau bod mwy o hanes yn cael ei ddysgu yn ein hysgolion ni. Yn amlwg, mae yna ymrwymiadau ym maniffesto Plaid Cymru o ran gwarchod enwau lleoedd hefyd, sy'n eithriadol o bwysig."
Cyfeiriodd y gweinidog at barciau cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Eryri fel enghreifftiau o nifer cynyddol o sefydliadau sy'n arddel y Gymraeg yn eu henwau.
'Parhau i ddathlu etifeddiaeth Owain Glyndŵr'
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam, Joe Yates, wrth y BBC: "Rydym wedi ein gwreiddio yn ein cymuned, yn falch o gael ein lleoli yn Wrecsam, ac yn falch o'n hanes a'n treftadaeth Gymreig.
"Roedd ein penderfyniad i ail-frandio i Brifysgol Wrecsam yn adlewyrchu'r ymrwymiad a'r cysylltiad hwn â lle, heb newid pwy ydym ni a beth a wnawn.
"Mae'r newid yn adlewyrchu ein hunaniaeth gref fel prifysgol ddinesig wedi'i gwreiddio yn Wrecsam, ac nid oedd yn symudiad oddi wrth ein hunaniaeth Gymreig.
Ychwanegodd bod y brifysgol "wedi ymrwymo'n strategol i'r Gymraeg drwy ein gweledigaeth a'n strategaeth newydd ar gyfer 2030 drwy gynnwys treftadaeth a diwylliant yr iaith Gymraeg i bopeth a wnawn.
"Mae ein strategaeth Gymraeg yn ymrwymo i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, cryfhau gwasanaethau dwyieithog, sicrhau cydymffurfiaeth Gymraeg, hyrwyddo diwylliant dwyieithog bywiog, a chwarae rhan flaenllaw fel sefydliad angori ar gyfer yr iaith Gymraeg, diwylliant, a threftadaeth yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang
"Rydym hefyd wedi ymrwymo i barhau i ddathlu etifeddiaeth Owain Glyndŵr. Un enghraifft o hyn yw trwy ein cysylltiadau â Chymdeithas Owain Glyndŵr, sy'n cyflwyno gwobr i un o'n graddedigion gorau bob blwyddyn."

Daeth Rob McElhenney (sydd erbyn hyn yn defnyddio'r enw Rob Mac) a Ryan Reynolds yn berchnogion ar CPD Wrecsam ym mis Chwefror 2021
Roedd y brifysgol yn arfer cael ei hadnabod fel Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI), cyn iddi gael statws prifysgol llawn yn 2008.
Ar ôl hynny cafodd ei hadnabod fel Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, gyda'r enw'n deyrnged i'r tywysog Owain Glyndŵr, oedd â'i gartref yn Sycharth gerllaw, ac oedd wedi ceisio sefydlu prifysgolion cyntaf Cymru.
Yn 2023 fe wnaeth y brifysgol grybwyll y sylw o gwmpas Clwb Pêl-droed Wrecsam, a'r statws newydd fel dinas yn hytrach na thref, fel rhai o'r rhesymau dros newid.
Daeth y clwb pêl-droed dan berchnogaeth y sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney (Rob Mac erbyn hyn) yn 2020, sydd wedi denu sylw'r byd i'r gornel hon o ogledd ddwyrain Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2023

- Cyhoeddwyd16 Medi 2024

- Cyhoeddwyd16 Medi 2022
