Prosiect newydd eisiau sicrhau fod pob teulu'n gwybod am addysg Gymraeg

Dr Gwennan Higham
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Gwennan Higham fod "agweddau pobl at y Gymraeg yn gadarnhaol, ond dydy hynny ddim yn ddigon"

GanRuth Roberts
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae prosiect newydd yn gobeithio rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru a chynghorau lleol i sicrhau fod pob teulu yn cael gwybod am addysg Gymraeg wrth ddewis ysgol ar gyfer eu plant.

Bwriad y prosiect ydy gwrando ar brofiadau teuluoedd o wahanol gefndiroedd.

Cafodd digwyddiad 'Addysg Cyfrwng Cymraeg i Bawb' ei gynnal yn ardal Grangetown i drafod dyfodol addysg gynnar cyfrwng Cymraeg yn ne Caerdydd.

Mae'r prosiect, mewn partneriaeth â Mudiad Meithrin, yn rhan o'r rhaglen ehangach Llwybrau at y Gymraeg, dan arweiniad Prifysgol Abertawe ac IAITH; Y Ganolfan Cynllunio Iaith.

Dywedodd un o arweinwyr y prosiect, Dr Gwennan Higham fod "agweddau pobl at y Gymraeg yn gadarnhaol, ond dydy hynny ddim yn ddigon".

Ychwanegodd Dr Higham fod "diffyg gwybodaeth uniongyrchol, dealltwriaeth a hyder i ddewis addysg cyfrwng Cymraeg".

"Mae llawer yn teimlo dyw'r Gymraeg ddim yn perthyn iddyn nhw," meddai.

Sut felly mae llenwi'r bwlch rhwng y cymunedau hyn a'r Gymraeg?

"Mae isie bod pob un yn gwybod bod addysg Gymraeg yn opsiwn a bod e ar gael, felly mae isie cydweithio yn y gymuned a bod pobl yn atebol," meddai Dr Higham.

"Mae disgwyliadau ar y llywodraeth ac awdurdodau lleol bod pob un yn gwybod am addysg Gymraeg a Saesneg pan yn gwneud eu dewisiadau."

Kirran Lochhead Strang
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kirran Lochhead Strang yn credu ei bod hi'n "bwysig rhoi'r opsiwn Cymraeg i deuluoedd na fyddai'n ystyried addysg Gymraeg i'w plant"

Fel rhan o'r ymchwil cafodd 28 o rieni a gofalwyr o gefndiroedd ethnig, diwylliannol ac ieithyddol amrywiol sy'n byw yn Grangetown, Tre-biwt a Glanyrafon eu holi i drafod eu profiadau, safbwyntiau a dyheadau wrth iddyn nhw geisio gwneud penderfyniad am addysg eu plant.

O'r rheiny, roedd 54% â diddordeb mewn addysg cyfrwng Cymraeg, a 25% â'u plant eisoes yn dilyn y llwybr hwnnw.

'Gosod uchelgais ac enghraifft'

Un o'r siaradwyr gwadd yn y digwyddiad ac sy'n ymgyrchydd brwd dros bontio cymunedau amlddiwylliannol yw Kirran Lochhead Strang.

Yn ddiweddar mae wedi bod ar daith i godi arian ar gyfer cylch meithrin yn yr ardal i allu cynnig lle am ddim i blentyn sydd yn ceisio neu wedi derbyn lloches yng Nghymru, gan roi mynediad iddyn nhw at yr iaith a diwylliant a rhoi'r rhyddid i rieni gael addysg neu weithgaredd tra bod y plentyn yn mynd i'r cylch.

"Y bwriad i ddechrau oedd cynnig lle am ddeuddydd, ond gan fod pobl wedi bod mor hael ni wedi ehangu hynny i dridiau," meddai.

"Mae'n bwysig rhoi'r opsiwn Cymraeg i deuluoedd na fyddai'n ystyried addysg Gymraeg i'w plant.

"Dwi'n credu y byddai'n dylanwadu ar y teulu a'u profiad nhw o'r Gymraeg."

Gyda'r bwriad i'r plentyn ddechrau mynd i'r cylch ym mis Medi, mae Kirran yn gobeithio ehangu'r cynllun i gylchoedd eraill yr ardal a thu hwnt.

"Mae'n bwysig bod ni'n gosod uchelgais ac enghraifft i bawb yng Nghymru a bod yn rhagweithiol.

"Dydyn ni ddim eisiau gweld plant a theuluoedd o gefndiroedd penodol i fod yn fwy tueddol o beidio cyrchu addysg cyfrwng Cymraeg."

Dr Mirain Rhys
Disgrifiad o’r llun,

"Rhaid i rieni hefyd ymroi" i addysg Gymraeg, yn ôl Dr Mirain Rhys

Yn ôl Dr Mirain Rhys, uwch-ddarlithydd seicoleg sy'n arbenigo mewn addysg gynnar ddwyieithog, mae angen gwneud rhieni yn fwy ymwybodol o'r cyfleoedd i geisio cyflwyno'r iaith i'r cartref cyfan, yn hytrach na rhoi plant drwy addysg Gymraeg yn unig.

"Y peth pwysig i gofio ydy fod rhaid i rieni hefyd ymroi. Mae'n brofiad gwahanol i addysg cyfrwng Saesneg.

"Mae nifer yn sôn am y diffyg gallu helpu eu plant wrth iddyn nhw symud i fyny'r ysgol, felly mae'n bwysig i bwysleisio ac i ddarparu gwybodaeth gywir i rieni ynglŷn â beth yw'r profiad i'r plentyn, a hefyd iddyn nhw.

"Ma' amlygiad i'r Gymraeg mor gynnar â phosib yn gallu cael manteision gwybyddol, ieithyddol, cymdeithasol ac emosiynol i blant ifanc a'u teuluoedd.

"Mae'n gyfle iddyn nhw ddatblygu hunaniaeth Gymreig sy'n bwysig o ran datblygiad cymhelliant unigolion i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r byd addysg."

'Y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd'

Dywedodd y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan ei bod yn "falch o ddiwylliant amlieithog ac amlddiwylliannol Cymru".

"Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn plethu'n naturiol gydag ieithoedd a hunaniaethau eraill, gan helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau dwyieithog neu amlieithog ochr yn ochr â'u hieithoedd eraill.

"Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rydyn ni am i bob plentyn gael cyfle teg i ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus.

"Rydyn ni'n cryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg ar draws y sector addysg, yn ehangu cyfleoedd trochi hwyr ym mhob awdurdod lleol, ac yn gweithio tuag at uchelgais o sicrhau bod 50% o ddysgwyr yn cael addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.

"Gan weithio gyda phartneriaid ac awdurdodau lleol, rydyn ni'n cefnogi teuluoedd sy'n ystyried addysg Gymraeg i'w plant, beth bynnag eu cefndir, a bod hynny'n digwydd mewn ffordd sy'n gynnes ac yn groesawgar, ac yn seiliedig ar brofiadau teuluoedd go iawn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.