Cofio dau ewythr fu farw tra'n ymladd yn erbyn Franco

sbaenFfynhonnell y llun, Tad Davies
Disgrifiad o’r llun,

Tad gyda'i fam, Wendy Lewis

GanTrystan ab Ifan
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae 17 Gorffennaf yn nodi 90 mlynedd ers i'r ergyd gyntaf gael ei thanio yn Rhyfel Cartref Sbaen.

Rhyfel, pan ddaeth yr ymladd i ben yn 1939, adawodd hanner miliwn yn farw yn dilyn ymladd ffyrnig rhwng cenedlaetholwyr asgell dde'r cadfridog Francisco Franco a gweriniaethwyr oedd yn cefnogi'r llywodraeth etholedig a ddaeth i rym ddechrau'r ddegawd.

BedwasFfynhonnell y llun, Wendy Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Trigolion Bedwas yn hel arian ar gyfer dioddefwyr Rhyfel Cartref Sbaen

Ymhlith rhengoedd y gweriniaethwyr a deithiodd i Sbaen o haf 1936 ymlaen, roedd milwyr gwirfoddol o bedwar ban byd gan gynnwys Cymru.

Mae un amcangyfrif yn nodi bod hyd at 35,000 o unigolion wedi ymuno â rhengoedd y Brigadau Rhyngwladol, gyda nifer helaeth ohonyn nhw heb gydio mewn dryll erioed o'r blaen.

Ond i Tad Davies o Fedwas ger Caerffili, mae'r hyn ddigwyddodd yn 1930au y ganrif ddiwetha', wedi ei arwain ar bererindod i ddarganfod mwy am hanes dau ewythr iddo aeth allan i Sbaen ond ddaeth byth yn ôl.

Dau oedd o gefndiroedd tra gwahanol, ond oedd ag un peth yn gyffredin, sef atal lledaeniad ffasgiaeth.

"Roedd fy hen ewythr, Sidney Shosteck, yn rhedeg cangen o'r Blaid Gomiwnyddol yn Washington," medd Tad.

"Cafodd ei eni yn New Jersey ac roedd yn teimlo yn gryf bod eisiau atal lluoedd asgell dde Franco, felly dyma fe'n ymuno â'r Lincoln Battalion."

Tad DaviesFfynhonnell y llun, Tad Davies
Disgrifiad o’r llun,

Sidney Shosteck ar long yn teithio o'r Unol Daleithiau i Ewrop

Ymunodd bron i 3,000 o Americanwyr â'r Lincoln Battalion gan ymladd rhai o brif frwydrau'r rhyfel, ond bu farw nifer mewn trychineb oddi ar arfodir Catalunya cyn hyd yn oed cyrraedd tir mawr Sbaen.

"Ar ôl cyrraedd Marseilles yn ne Ffrainc roedd llong o'r enw Ciudad de Barcelona yno yn eu disgwyl i'w cludo naill ai i Gatalunya neu i Valencia, yn dibynnu ar ble roedd angen y gefnogaeth.

"Roedd degau o wirfoddolwyr ar ei bwrdd ond suddwyd hi gan torpedo."

Tynnwyd llun o rai o'r rheiny gafodd eu hachub, ac yn eu plith roedd ewythr Tad, Sidney. Cafodd dros 200 o bobl a oedd ar fwrdd y llong eu lladd pan aeth i lawr.

Roedd Cymro adnabyddus ar yr un siwrne - Alun Menai Williams o Gilfach Goch yn Y Rhondda. Bu yntau hefyd yn ymladd yn y Rhyfel Cartref yn erbyn lluoedd Franco.

SidneyFfynhonnell y llun, The Sunday Worker
Disgrifiad o’r llun,

Llun o Sidney [ar y chwith] wedi iddo gael ei achub

Aeth Tad ar daith gyda chriw o ffrindiau allan i Sbaen ddiwedd Mai eleni i gofio am y rhai fu'n ymladd yno.

"Dechreuon ni yng Nghaerdydd, cymryd y trên i Lundain wedyn draw i Ffrainc ar ôl 'ny, Perpignan yn gyntaf, ger y ffin lle ga'th lot o wirfoddolwyr eu troi nôl, wedyn at mynydde y Pyrenees.

"Ddilynon ni'r llwybr 'na'th lot o'r brigadwyr gymryd, stopion ni mewn mynachdy ar gopa'r mynydd cyn dal y trên o Figueres i Malgrat del Mar i ŵyl flynyddol sy'n cael ei threfnu i gofio'r bobl 'na'th farw pan suddodd y Ciudad de Barcelona, ac i dalu teyrnged i bysgotwyr y dref 'na'th achub cymaint o'r môr."

TadFfynhonnell y llun, Tad Davies
Disgrifiad o’r llun,

Tad ar y daith yn Sbaen yn ddiweddar

Ond nid ei ewythr, Sidney, oedd yr unig aelod o deulu Tad aeth allan i Sbaen i ymladd, fel esbonia:

"Ar ochr fy nhad o'r teulu roedd Harold Davies yn dod o Gastell Nedd," meddai Tad.

"Yn lleol roedd ganddo enw am fod yn dipyn o gymeriad ac yn hoff iawn o antur. Fe aeth e allan i Sbaen heb ddweud wrth ei deulu.

"Glöwr oedd e ac fe oedd e'n weithgar gyda'r Blaid Lafur yn lleol. Roedd e hefyd yn dipyn yn hŷn na Sidney, fy wncwl arall, ac yn 34 oed."

Ar ôl teithio i Birmingham yn gyntaf, trefnwyd bod Harold yn mynd allan i Sbaen i ymuno gyda'r 'British Brigade'.

Er bod y gweriniaethwyr wedi ennill goruchafiaeth gynnar yn ystod brwydr Jarama ar gyrion Madrid ym mis Chwefror 1937, yn fuan cryfhaodd ymosodiadau'r cenedlaetholwyr.

Gyda help awyrennau Junker yr Almaenwyr targedwyd ffosydd ac amddiffynfeydd, ac yn un o'r cyrchoedd yma bu farw Harold Davies.

Tad, Eglwys BelchiteFfynhonnell y llun, Tad Davies
Disgrifiad o’r llun,

Tad yn Eglwys Belchite, ger Zaragoza

I'r de-ddwyrain o Jarama, ger Zaragoza, roedd Sidney Shosteck erbyn diwedd haf 1937 yn barod i wynebu'r gelyn. Fe gadwodd ddyddiadur manwl tan y diwedd, a daeth y diwedd hwnnw ar 6 Medi 1937.

Dyma adroddiad un o'r rheiny oedd yn llygad-dyst i'r hyn ddigwyddodd:

"As we walked, the thought of Sidney Shosteck, so young and sincere and intelligent, who should have walked beside us, heightened my sense of tragedy of the ruined city.

"Sidney was killed outright. I feel his loss more than any other person I've known here. But a second-story sniper shot Sid in the forehead. He never knew what hit him…

"...Suddenly we heard piano music. There, across a street in half a house, the front walls blown away, the inside looking like a stage, sat a Spanish soldier at a grand piano, playing Beethoven."

Cymaint oedd ffyrnigrwydd y brwydro yn ardal Belchite fel, ar ddiwedd y rhyfel, penderfynodd Franco adael y dref yn adfeilion fel rhybudd i unrhyw rai oedd am herio ei awdurdod.

SidneyFfynhonnell y llun, Tad Davies
Disgrifiad o’r llun,

Sidney yn ei ddillad milwrol a chofeb iddo sydd wedi ei gadw gan aelod o'r teulu

I Tad roedd cael dychwelyd i Belchite yn arbennig yn brofiad emosiynol.

"Ro'n i yn sefyll yn yr union ru'n lle â lle gafodd fy wncwl ei ladd. Ro'dd yna saethu mawr o'u hamgylch nhw i gyd a buodd Sidney farw ar bwys yr eglwys sydd dal yna, bron wedi ei dinistrio i gyd."

Ffeil FBIFfynhonnell y llun, Archif yr FBI
Disgrifiad o’r llun,

Ddeuddeg mlynedd wedi ei farwolaeth, o dan ddylanwad McArthyism, fe agorodd yr FBI ffeil ar fywyd Sidney Shosteck a'i gysylltiadau â Chomiwnyddiaeth, heb ddeall ei fod wedi ei ladd yn ymladd yn Sbaen

Yn ddiweddar mae Llywodraeth Sbaen wedi cyhoeddi eu bod nhw'n cynnig dinasyddiaeth i deuluoedd y rheiny o'r Brigadau Rhyngwladol fu'n ymladd yn y 1930au, fel diolch am eu safiad.

Mae yna gynllun ar waith hefyd sy'n cynnig profion DNA i unigolion fel Tad Davies i geisio adnabod gweddillion rheiny fu farw ac a gafodd eu claddu yn ddi-sermoni yn ystod y brwydro, a'u dychwelyd i'w teuluoedd.

"Bydda i yn mynd mas eto mis Ionawr i ardal y brwydro yn Jarama lle ma' cloddio yn digwydd ar hyn o bryd am weddillion rhai a gollwyd, ac o bosib bydda' i'n cynnig DNA i drio matcho lan gyda'r hyn maen nhw'n ei ffeindio."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: