Cymru'n colli 43-0 yn erbyn De Affrica yn Durban

Kurt-Lee Arendse o Dde Affrica yn sgorio eu chweched caisFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Kurt-Lee Arendse chweched cais De Affrica wrth i'r Springboks drechu Cymru 43-0

  • Cyhoeddwyd

Collodd Cymru 43-0 yn erbyn De Affrica yn nhrydedd gêm Pencampwriaeth y Cenhedloedd yn Durban.

Sgoriodd y Springboks saith cais wrth sicrhau buddugoliaeth bwynt bonws gyfforddus dros dîm Steve Tandy.

Methodd Cymru â chroesi'r llinell gais unwaith eto yn erbyn pencampwyr y byd, gyda chyfanswm y sgôr yn erbyn De Affrica dros y ddwy gêm ddiwethaf bellach yn 116-0.

Dyma ail golled Cymru yn olynol yn y bencampwriaeth, wedi'r golled yn erbyn yr Ariannin yr wythnos ddiwethaf.

Ben Warren yn derbyn cerdyn melynFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ben Warren gerdyn melyn am dacl uchel yn yr ail hanner

Jasper Wiese agorodd y sgorio'n gynnar cyn i Cobus Reinach a Jesse Kriel ychwanegu dau gais arall i roi De Affrica ar y blaen 19-0 erbyn yr hanner amser.

Ychwanegodd Jaco Williams y pedwerydd cais eiliadau ar ôl yr ail hanner ddechrau cyn i Herschel Jantjies, Kurt-Lee Arendse a Paul de Villiers gwblhau'r sgorio.

Cafodd prop Cymru Ben Warren gerdyn melyn yn yr ail hanner am dacl uchel.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod De Affrica'n parhau ar frig tabl y byd ac ar frig tabl hemisffer y gogledd ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd.

Daeth tymor cyntaf Steve Tandy fel prif hyfforddwr Cymru i ben gyda naw colled a thair buddugoliaeth mewn 12 gêm ryngwladol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig