'Teimlo fel bod URC yn ein cosbi' - Dyfodol clwb rygbi mewn perygl wedi 50 mlynedd

Mae Cadeirydd Clwb Rygbi Llanybydder yn poeni am y dyfodol a'r effaith y byddai colli'r clwb yn ei gael ar y pentref
- Cyhoeddwyd
Gallai clwb rygbi yn Sir Gaerfyrddin ddod i ben wedi dros hanner canrif o fodolaeth oherwydd diffyg chwaraewyr.
Yn ôl Clwb Rygbi Llanybydder, mae sicrhau bod digon o chwaraewyr i gynnal tîm yn her barhaus, gyda theimlad hefyd bod Undeb Rygbi Cymru (URC) yn eu "cosbi" yn hytrach na'u cefnogi.
Wrth ddisgrifio'r sefyllfa fel un "torcalonnus", mae'r clwb yn apelio nawr am gymorth gan y gymuned leol.
Dywedodd URC eu bod yn cyflogi rhwydwaith o swyddogion datblygu clybiau ledled Cymru sy'n cysylltu â phob clwb yn ystod y tymor i gynnig cymorth a chefnogaeth.
'Mae Undeb Rygbi Cymru yn ein cosbi yn hytrach na helpu ni'
Wedi bodoli ers 52 o flynyddoedd, mae Clwb Rygbi Llanybydder yn cael ei ddisgrifio gan aelodau fel "mwy na chlwb", ond yn hytrach, "cymuned".
Gyda chenedlaethau o chwaraewyr, teuluoedd, cefnogwyr a gwirfoddolwyr wedi ymwneud â'r clwb, mae'r aelodau'n dweud bod yr atgofion yn niferus boed ar neu oddi ar y cae.
Ond gyda dim ond un tîm yn weddill yn Llanybydder bellach, a denu chwaraewyr i gynnal y tîm hwnnw'n ddigon o her - mae dyfodol y clwb yn hynod ansicr.

Mae gan yr holl chwaraewyr sydd yn chwarae i Gymru nawr, yn y gorffennol ac yn y dyfodol, wreiddiau gyda chlybiau bach llawr gwlad, meddai Nia Evans
"Mae gyda ni griw cadarn o tua 12, 15 ar ddiwrnod da ar ddydd Sadwrn," meddai Nia Evans, rheolwraig y tîm.
"Achos ble ni'n byw fi'n credu, ni'n byw yn ganol ardal lle mae clybiau cryf iawn o'n hamgylch ni, clybiau sydd gydag oedrannau o blant ifanc, lan i ieuenctid trwyddo i dimoedd oedolion menywod a dynion.
"Fan hyn yn Llanybydder, un tîm dynion sydd gyda ni ac mae'n anodd iawn i drio cystadlu gyda'r clybiau mwy o faint a denu nhw i chwarae gyda ni, mae'n dipyn o job."
'Dim byd yn y pentref' os yw'r clwb yn diflannu
Yn ôl Cadeirydd y clwb, Michael Wilson, mae'r clwb yn rhan allweddol o'r gymuned.
"Ni'n lwcus bod clwb i gael gyda ni. Mae lot o bobl wedi gweithio'n galed dros y blynyddoedd i gael y facilities 'ma.
"S'dim arnon ni bensen i neb ond beth sydd ofn arna'i, os byddwn ni'n colli'r clwb 'ma, s'dim byd yn y pentref.
"Mae'r football wedi beni mae'r cricket wedi beni a os ni yn beni, fydd dim ffordd nôl mewn i'r system."

Mae sicrhau bod digon o chwaraewyr ar gael i allu cwblhau gemau ar benwythnosau wedi dod yn her barhaus, yn ôl cadeirydd y clwb
Mewn sesiwn ymarfer nos Iau roedd 17 o chwaraewyr yn bresennol - nifer sylweddol uwch na'r arfer yn dilyn apêl gan y clwb.
Ymhlith hen chwaraewyr, roedd tri wyneb newydd. Ond mae cael pawb i fod ar gael ar benwythnosau hefyd yn stori wahanol, yn ôl y clwb.
"Ni'n lwcus i gael dwsin i commito i chwarae bob dydd Sadwrn," meddai Mr Wilson.
"Mae Nia yn hala oriau yn ffonio clybie yn Sir Benfro, os ni'n chwarae yn Sir Benfro. Mae'n ffonio Haverfordwest, Llangwm, Milford, 'oes bois sbâr gyda chi?'
"S'dim lot gyda bois sbâr nawr achos mae ail dîm gyda nhw, sy'n neud y broblem yn waeth i ni."

Mae bod â charfan mor fach yn gallu rhoi pwysau ychwanegol ar y chwaraewyr hŷn, meddai Steffan Bonsall (dde)
Yn ôl y chwaraewyr eu hunain, maen nhw'n teimlo pwysau'r sefyllfa bresennol.
Wrth ddisgrifio sesiwn ymarfer arferol, dywedodd Llion Williams, 20, mai "saith i 10" o fechgyn sydd fel arfer yn bresennol. "Dyw e ddim yn grêt," meddai.
"Mae e'n real sialens i gael pawb i droi lan. Y peth yw, os ni ddim yn traino gyda'n gilydd, 'so ni'n gallu chwarae gyda'n gilydd. Mae eisiau i bawb droi lan ond ni'n gwybod fod gyda pawb fywyd."
Heb y gallu i gyfnewid chwaraewyr yn ystod gêm ychwaith oherwydd niferoedd, mae Steffan Bonsall, 33, o'r farn fod y sefyllfa yn rhoi straen ar y chwaraewyr.
"Mae rhai chwaraewyr henach, fel fi falle, yn gweld e'n galetach achos ni'n gorfod chwarae 80 munud," meddai.
"Mae e'n gwneud gwahaniaeth amser ni'n gallu chwarae falle 60 a dod off, neu falle llai."
'Galle fod lot fwy o gefnogaeth'
Ychwanegodd Nia Evans nad yw URC yn gwneud digon i gefnogi clybiau ar lawr gwlad.
Mae'n anhapus â'r drefn o ddirwyo neu gosbi timau sy'n gorfod canslo neu dynnu'n ôl o chwarae gemau oherwydd diffyg chwaraewyr.
"Galle fod lot fwy o gefnogaeth gan URC yn dod tuag aton ni," meddai.
"Fel rheolwraig, fi heb gael unrhyw gyswllt o gefnogaeth oddi wrth yr undeb i weld 'pam nad ydych chi'n methu chwarae'r gemau o hyd ac o hyd?'. Maen nhw'n gallu gweld y patrwm bo' ni'n gorfod aildrefnu neu does dim digon o chwaraewyr.
"Ni ddim wedi cael unrhyw gyfathrebu gyda nhw o gwbl, yr unig gyfathrebu sydd yw fi yn dweud wrthyn nhw 'ni'n flin, ni methu neud hyn'."
Mae'r undeb yn dweud bod y clwb "wedi cael cynnig cymorth ar ddau achlysur yn ddiweddar".

Mae Clwb Rygbi Llanybydder bellach yn galw am gymorth gan y gymuned leol i ddenu rhagor o chwaraewyr
Mae'n mynd ymlaen i ddweud bod clybiau fel Llanybydder yn cael eu "cosbi" yn hytrach na'u cefnogi.
"Mae gyda ni'r gêm cwpan mae pob clwb ynddo, os nagyn ni'n gallu codi neu gyflawni tîm ar gyfer e, mae e'n £250 o ddirwy," esboniodd.
"Yn anffodus, y llynedd, fethon ni gyflawni gêm olaf y tymor ac o ganlyniad fe gollon ni grant o £4,000, sy'n dipyn o glatsien. Mae rhywbeth fel 'na ddim yn helpu ni ymlaen yn y gymuned na fel clwb i ddatblygu."
Er yn deall fod y rheolau yna am reswm, mae'n dweud y byddai'n gwerthfawrogi mwy o gefnogaeth, arweiniad a chyfathrebu "o'r undeb lawr i ni yn y clybiau yn y gymuned".
"Ar ddiwedd y dydd, mae'r holl chwaraewyr rhyngwladol sydd yn chwarae i Gymru nawr, yn y gorffennol ac yn y dyfodol, maen nhw gyd wedi dod o'r gwreiddiau, clybiau bach, ar draws Cymru."
Dirwyon yn cael eu defnyddio 'fel dewis olaf'
Mewn datganiad, dywedodd Undeb Rygbi Cymru: "Rydym yn cyflogi rhwydwaith o swyddogion datblygu clybiau ledled Cymru, sy'n cysylltu â phob clwb yn ystod y tymor i gynnig cymorth a chefnogaeth.
"Mae'r clwb hwn wedi cael cynnig y cymorth hwn ar ddau achlysur yn ddiweddar.
"Defnyddir dirwyon ar gyfer clybiau nad ydynt yn cyflawni eu gemau fel dewis olaf – pan fydd ymdrechion i aildrefnu'r gemau wedi methu – er mwyn annog y clybiau i'w chwarae. Am y rheswm hwn, mae'r rhan fwyaf o glybiau yn y gêm amatur yn croesawu'r drefn hon."
Apelio mae clwb Llanybydder nawr am gymorth gan y gymuned leol i ddenu chwaraewyr er mwyn ceisio achub dyfodol, traddodiad a hanes y clwb am genedlaethau i ddod.
Yn benderfynol nad yw hi'n amser eto i'r chwiban olaf, dywedodd un o'r chwaraewyr John Evans, 32 oed: "Mae dyfodol y clwb yn gwaethygu ond galle fe fod lot gwell 'sen ni'n cael y bois i traino a chwarae gyda ni yn fwy aml.
"Deith yr amser, ond mae e'n mynd i fod yn galed."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd22 Hydref

- Cyhoeddwyd6 Medi
