Y cyn-AS Gwynoro Jones yn ddieuog o ymosod yn rhywiol ar fenyw

Roedd Gwynoro Jones dan deimlad tra'n siarad gyda BBC Cymru wedi'r dyfarniad
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-wleidydd a darlledwr Gwynoro Jones wedi'i gael yn ddieuog o ymosod yn rhywiol ar fenyw ar drên ym mis Gorffennaf 2024.
Yn ystod yr achos clywodd Llys y Goron Abertawe honiadau bod cyn-AS Caerfyrddin wedi cyffwrdd â braich a phen-ôl menyw wrth i'r ddau deithio rhwng Llundain ac Abertawe mewn cerbyd dosbarth cyntaf.
Roedd Mr Jones yn gwadu'r cyhuddiad yn ei erbyn, gan ddweud ei fod wedi cyffwrdd â'r fenyw yn ddamweiniol.
Roedd Mr Jones, 83 oed o Orseinon, yn cynrychioli Caerfyrddin yn Nhŷ'r Cyffredin ar ran y blaid Lafur rhwng 1970 a 1974.
Y fenyw 'wedi cerdded i mewn i'w law'
Yn ystod yr achos roedd yr erlyniad yn honni bod Mr Jones wedi "tapio" pen-ôl y fenyw, gan adael clais, a rhwbio ei braich.
Dywedodd yr achwynwr wrth y llys sut y gofynnodd Mr Jones ble roedd hi'n byw a dweud wrthi ei bod yn "bert iawn" ac yn "hardd".
Wrth gael ei holi gan yr amddiffyniad, Kate Williams, dywedodd yr achwynydd bod Mr Jones yn bwyta swshi ar y trên a bod "darn o reis wedi aros ar fy mraich".
Roedd Mr Jones yn dweud iddo rwbio braich y fenyw i gael gwared â'r darn o reis.
O ran yr ail gyffyrddiad, roedd Mr Jones yn dweud i'r fenyw "gerdded i mewn i'w law".
Yn rhoi ei dystiolaeth ef i'r llys ddydd Mawrth, dywedodd Mr Jones fod yr achwynydd - na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol - "yn dweud celwydd".
Esboniodd i'r rheithgor fod ganddo broblemau clyw a golwg, ac oherwydd hynny roedd yn dal ei ffôn allan yn yr eil.
Dywedodd ei fod wedi cyffwrdd pen-ôl y fenyw oedd yn cerdded drwy'r cerbyd "yn ddamweiniol", a'i fod yn credu mai cornel ei ffôn symudol a gyffyrddodd ynddi.
"Doedd dim byd rhywiol yn fy meddwl i o gwbl," meddai.
'Cyn-AS Llafur wedi tapio menyw ar ei phen-ôl ar drên' - llys
- Cyhoeddwyd22 awr yn ôl
Cyn-AS wedi 'cyffwrdd menyw ar drên yn ddamweiniol gyda ffôn'
- Cyhoeddwyd2 awr yn ôl
Yn siarad gyda BBC Cymru y tu allan i'r llys wedi'r dyfarniad, roedd Mr Jones dan deimlad, a dywedodd ei fod yn teimlo "rhyddhad" ond ei fod yn "flin" hefyd.
"Pam mae pethau fel yma yn digwydd?" gofynnodd.
Dywedodd ei fod wedi sgwrsio â'r achwynydd a "chyffwrdd ei braich".
"Mae hwnna yn cael ei gyfri' dyddia' yma fel ymosodiad? Dyw e ddim."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.