Cyfres newydd eisiau chwalu'r 'stigma a'r myth' am ddigartrefedd

Colleen PritchardFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa o ran digartrefedd yn "frawychus" ar hyn o bryd, yn ôl Colleen Pritchard

  • Cyhoeddwyd

Mae angen cael gwared â'r stigma a'r camwybodaeth am ddigartrefedd os yw pobl am fod yn fwy parod i ofyn am gymorth, yn ôl swyddog digartrefedd yn y gogledd.

Mae Colleen Pritchard, Rheolwr Digartrefedd a Chefnogaeth, Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd, yn dweud bod angen addysgu pobl am wirionedd y sefyllfa yng Nghymru.

Fe fydd Ms Pritchard yn ymddangos mewn cyfres ddogfen newydd ar S4C - 'Am Le i Fyw' - sy'n dilyn Tîm Digartrefedd Cyngor Gwynedd wrth iddynt gefnogi pobl sydd wedi colli neu sydd mewn perygl o golli eu cartref.

Dywedodd fod y sefyllfa yn "frawychus" a'i bod yn gobeithio y gallai'r gyfres helpu pobl ddeall "faint o broblem ydi o yng Ngwynedd, ar ein stepen drws ni".

Ar raglen Dros Ginio brynhawn Mawrth, dywedodd Ms Pritchard eu bod yn wynebu "creisis" o ran digartrefedd yng Ngwynedd ar hyn o bryd.

"Ar ôl covid mae o wedi bod yn broblem enfawr," meddai.

"Ddydd Llun mi oedd 'na 170 o unigolion mewn llety argyfwng, neu westy ac o ran y nifer sy'n cael eu hadnabod yn statudol fel digartref, mae 'na dros 400.

"Mae o'n frawychus a dydi pobl ddim yn gwybod am hyn.

"Mae 'na perception bo' 'na ddim digartrefedd yng Ngwynedd, ond mae 'na - a mae 'na lot ohono fo. 'Dan ni mewn creisis rili."

'Diffyg pobl yn dod i ofyn i ni am help'

Aeth ymlaen i esbonio pam ei bod hi a'i thîm wedi cytuno i ymddangos ar y gyfres.

"Yn amlwg oedda' ni'n eithaf nerfus ar y dechrau achos ti'n agor drws i fater eithaf sensitif, ond oedda' ni'n teimlo, neu dwi a lot o'r adran yn teimlo, bod 'na dipyn o stigma o gwmpas y gair digartrefedd a bod mewn sefyllfa o ddigartrefedd.

"'Dan ni'n teimlo bod pobl yn meddwl bod digartrefedd yn dod efo problemau fel alcohol, cyffuriau a throseddu ond dydi o ddim yn wir.

"Yn amlwg mae 'na bobl sy'n disgyn i mewn i'r categorïau yna, ond mae o'n lot fwy eang na hynny."

Ychwanegodd ei bod wedi gweld o'i phrofiad ei hun bod y stigma yn cael effaith ar fywydau pobl.

"Un o'r pethau oedd yn amlwg i fi oedd diffyg pobl yn dod i ofyn i ni am help oherwydd y stigma, bod pobl ddim yn dod atom ni yn ddigon buan yn eu taith achos bo' nhw ddim eisiau cael eu hadnabod fel digartref neu bo' nhw methu cynnal y cartref.

"...Hefyd, mae eisiau cael gwared â'r myths o gwmpas digartrefedd. Ma' pobl yn meddwl mai digartrefedd ydi pobl yn cysgu mewn siop drws mewn dinas, ond ma' hynny'n bell iawn o fod yn wir."

sywddfa Tîm Digartrefedd Cyngor GwyneddFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'Am Le i Fyw' yn dilyn gwaith Tîm Digartrefedd Cyngor Gwynedd wrth iddynt ddelio ag achosion amrywiol yn y sir

Dywedodd Ms Pritchard fod digartrefedd yn broblem "eang ofnadwy", a bod y term yn cynnwys pobl mewn nifer o sefyllfaoedd gwahanol - boed yn bobl heb unrhyw le i fynd, pobl sy'n byw mewn tai heb ddigon o le neu rywun sy'n symud o dŷ i dŷ heb gartref ei hunain.

Mae'r gefnogaeth sy'n cael ei gynnig gan y cyngor wedyn yn amrywio yn ddibynnol ar sefyllfa bob unigolyn, meddai.

"Be' bynnag ma'r person angen, os 'dio'n gefnogaeth efo petha' corfforol, cefnogaeth efo gwaith, cefnogaeth efo sut i gynnal tenantiaeth.

"Fel awdurdod dwi'n meddwl bo' ni'n reit arloesol yn sut 'dan ni'n trio dod i'r afael â'r broblem, ac yn y ddwy, dair blynedd diwethaf 'dan ni 'di codi pum pod yng Nghaernarfon a phump yn Nolgellau.

"Ma' heini yn hygyrch... ac yn pontio rhwng llety argyfwng a chael mynd i mewn i lety parhaol. Maen nhw wedi bod yn llwyddiannus iawn."

Anogodd pobl sydd angen cymorth i gysylltu â'r cyngor mor gynnar yn y broses â phosib fel bod modd gweithredu cyn i'r sefyllfa waethygu.

Bydd 'Am Le i Fyw' yn cychwyn ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer am 21:00 nos Fawrth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig