Beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn

Y B4413 ydy'r brif ffordd trwy bentref Mynytho
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 67 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur ym Mhen Llŷn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar y B4413 ym Mynytho tua 15:00 ddydd Sadwrn.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng car Volkswagen Polo coch a beic modur Yamaha du.
Bu farw'r dyn oedd ar y beic modur yn y fan a'r lle.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio ar unrhyw dystion sydd eto i siarad gyda nhw i gysylltu gyda'r llu, ac unrhyw un sydd â lluniau dashcam perthnasol o'r cerbydau cyn y digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Sarjant Liam Morris o'r llu: "Hoffwn ddiolch i aelodau'r cyhoedd a helpodd yn dilyn y digwyddiad."