'Tisho prynu sŵ?': Perchnogion newydd i Pili Palas

Lois ac Endaf
- Cyhoeddwyd
Mae Pili Palas wedi bod yn sefydliad adnabyddus ar Ynys Môn ers dros 40 mlynedd.
Cafodd y safle ger Porthaethwy ei sefydlu yn 1985 fel canolfan glöynnod byw, ond dros y degawdau mae wedi ehangu i gynnwys mwy o greaduriaid, ac wedi dod yn fan poblogaidd gydag ymwelwyr a phobl leol.
Ac ar ôl bod yn nwylo Gwawr a Steve Bell am flynyddoedd, mae bellach yn cael ei redeg gan Endaf ap Ieuan, ei wraig Sally a'u merch Lois.
Ond sut mae rhywun yn penderfynu mynd amdani a phrynu sŵ?
"Lois 'nath roi galwad ffôn i Sally, a dyma fi'n gweld Sally yn rhyw chwerthin efo hi'i hun," eglurodd Endaf wrth Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.
"Duw, beth sy'n bod, meddai fi, pam ti'n chwerthin? A dyma hi'n d'eud, mae Lois newydd ffonio a deud bod Steve a Gwawr wedi holi fysa ni ffansi prynu Pili Palas.
"O, be' ddudis di, meddai fi? Dim ffiars o beryg. O, Sally, meddai fi.
"A naw mis yn ddiweddarach, dyma ni!"

Mae'r lle yn fwy na dim ond glöynnod byw bellach
'Teimlad od ond braf'
Mae'r teulu wedi bod â chysylltiad â Pili Palas ers blynyddoedd, am i Lois ddechrau gwirfoddoli yno yn 15 oed, cyn dechrau gweithio yno am gyfnod.
Mae hi bellach yn rheoli'r sŵ ers rhyw bum mlynedd, felly roedd bod yn berchen ar rywle sydd mor agos at ei chalon yn gwneud synnwyr iddi, meddai.
"Mae o'n deimlad od, ond mae o'n braf hefyd. Dwi'n meddwl 'da ni gyd yn reit gyffrous am y cyfle i gymryd drosodd rhywle fel hyn."
Er mai glöynnod byw oedd y prif atyniad yn Pili Palas yn wreiddiol – cafodd ei gyd-sefydlu gan Huw John Hughes, a oedd â diddordeb mawr yn y creaduriaid – mae'r sŵ wedi ehangu dros y blynyddoedd, gydag thrychfilod, ymlusgiaid, mamaliaid ac adar hefyd nawr i'w gweld yno.

Mae Pili Palas wedi bod yn rhan o fywyd Lois ers blynyddoedd
 Lois wedi gweithio yno ers blynyddoedd, mae hi wrth ei bodd yn gofalu am yr holl greaduriaid ac wedi "hen arfer" edrych ar eu hôl, eglurai.
"'Da ni wedi bod efo anifeiliad adre ers bo' ni'n blant bach. Dyna ydy 'niddordeb i; dwi wrth fy modd yn edrych ar ôl anifeiliad, a dyna 'naeth fy nenu yma yn lle cynta' pan o'n i'n 15.
"Mae yna waith efo nhw ond mae o'n rewarding ofnadwy."
Felly oes ganddi hoff adran o'r holl le?
"I fi, y pili pala ydy'n section gorau; dwi wrth fy modd cerddad i fewn yna. Mae o fath â cerdded i fewn i rywle trofannol a mae gen ti'r pili pala yn hedfan o dy gwmpas di. Hwnna ydy'r bit sbesial i fi."
Y diweddar Huw John Hughes sy'n egluro cylch bywyd y pili pala i blant Cymru - cyd-sefydlodd Pili Palas gyda Huw Glyn Evans a'i wraig, Gwenda yn 1985
Lle i ymwelwyr a phobl leol
Meddyg teulu yw Endaf, a Sally newydd ymddeol o weithio mewn milfeddygfa, felly bydd rhedeg busnes fel yma yn her newydd i'r ddau.
Ond mae gan y teulu eisoes lawer o syniadau am sut i ddatblygu'r atyniad unigryw sydd yn brif ganolfan glöynnod byw Cymru.
"'Da ni'n ffodus bod gynna ni ystod reit eang o bethau i'r ymwelwyr 'neud yma," meddai Endaf. "Mae yna rywbeth i ddenu pawb yma drwy'r flwyddyn.
"Da ni, fel pobl leol yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, bod yr ymwelwyr yn bwysig i fusnes fath â hwn. Ond 'da ni eisiau edrych ar ôl ein cyfeillion lleol hefyd, a mae genna ni syniadau i fedru datblygu'r holl le fel bo' ni'n gallu denu ein cyd-Gymry yma ar hyd y flwyddyn."

Teulu Pili Palas: Mae hon yn fenter i'r teulu i gyd
Nid ar chwarae bach mae rhywun yn penderfynu prynu sŵ, ac er yr holl gynnwrf, ydy Lois erioed wedi cwestiynu os oedd gwneud hynny yn syniad da?
"Dwi'n meddwl 'sa chi'n wirion mynd i fewn i rywbeth fel hyn a ddim cwestiynu'ch hunain.
"Ond mae o'n teimlo fel bod o fod yn rhan o'n bywydau ni rhywsut."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd13 Awst 2025
