Y band 40 oed sydd heb golli'i MOJO

MOJO heddiw: (o'r chwith) Gerallt Williams, Peter Elias Jones, Bedwyr Morgan, Huw Smith a Tony Parisella
- Cyhoeddwyd
Mae'r band MOJO wedi rhyddhau albwm newydd a hynny am y tro cyntaf ers 20 mlynedd.
Mae'r albwm Hir Oes hefyd yn nodi 40 mlynedd ers i'r banc roc o Fôn ryddhau eu EP cyntaf, Mae'r Neges yn Glir.
Dyma bumed albwm y band a gafodd ei sefydlu yn Llangefni gan Bedwyr Morgan a Peter Elias Jones yn 1986. Ac er fod aelodau wedi mynd a dod dros y blynyddoedd, mae'r ddau wreiddiol yn parhau wrth galon sain adnabyddus y band.

Y llun cyntaf o 1986 - Bedwyr a Peter
"O'n i'n nabod Bedwyr yn yr ysgol, a 'nes i adael ysgol a d'eud y funud 'swn i'n dechrau gweithio, 'swn i'n prynu drumkit, a dyna 'nes i," eglurodd Peter.
"'Nath Bedwyr a finna' gael at ein gilydd a dechrau ymarfer yn nhŷ fy mam a 'nhad, yn yr atig. O'dda ni'n semi-detached, felly doedd y bobl drws nesa' ddim yn hapus iawn!
"'Naethon ni benderfynu ar ôl rhyw chwe mis bod ni am 'neud EP – Mae'r Neges yn Glir.
"Ac mae'r gweddill yn hanes."
'Andros o yrfa'
Ac am hanes. Dros y 40 mlynedd, mae'r band wedi diddanu cynulleidfaoedd ledled Cymru, wedi perfformio â rhai o enwau mawr cerddoriaeth, fel Take That a gitarydd White Snake, Bernie Marsden, ac yn gyfrifol am rai o ganeuon mwyaf poblogaidd y Gymraeg, o Cuddio yn y Cysgod, i Rhy Hwyr a Dipyn Bach Mwy Bob Dydd.
Ac maen nhw wedi mwynhau bob munud, meddai Bedwyr ar raglen Ifan Jones Evans ar BBC Radio Cymru, lle'r oedd rhai o'r traciau oddi ar yr albwm newydd yn cael eu chwarae am y tro cyntaf.
"Ddaru ni chwarae efo Take That yn 1991 efo cwmni radio. Ddaru ni fynd trwy Gymru efo nhw; Llangefni, Bangor, Wrecsam, Drenewydd ac Aberystwyth.
"Gaethon ni'r fraint o agor i'r Beach Boys yn 2006.

(o'r chwith) Huw Smith, Bedwyr Morgan, Peter Elias Jones, Ken Jones, Tudur Morgan yn 1988
"'A 'naethon ni daith fach ddiwedd flwyddyn dwytha a ddaru ni orffen y daith yng Nghlwb y Bont, Pontypridd. Roedd y gynulleidfa'n ffantastig, un o'r nosweithiau gorau 'da ni 'erioed wedi ei gael.
"'Da ni 'di cael andros o yrfa, 'di pobl ella ddim yn sylweddoli be' 'da ni 'di 'neud, ond 'da ni dal yn mwynhau bob eiliad ohono fo ac yn gobeithio bo' ni'n chwarae cystal ag erioed."
Ychwanega Peter, gan chwerthin: "'Da ni 'di bod drwy gymaint efo'n gilydd fel band, mae'n anhygoel bod ni wedi treulio gymaint o amser efo'n gilydd... a dal yn ffrindia'!"

Rhai o ganeuon MOJO dros y 40 mlynedd diwethaf sydd dal yn ffefrynnau
Aelodau hen a newydd
Fel sy'n tueddu i ddigwydd gyda bandiau - yn enwedig un sydd ddegawdau oed - mae aelodau wedi mynd a dod. Ac mae Bedwyr yn gwerthfawrogi pawb sydd wedi bod yn rhan o'u hanes dros y blynyddoedd, meddai.
"Ar y ffordd, 'da ni 'di colli un neu ddau, ac mae'n bwysig cofio rheiny a'r partiau anferth ddaru nhw roi i'r band. Mae'n bwysig ofnadwy i fod yn ddiolchgar am be' sy' gynno ni. 'Da ni 'di bod yn lwcus ofnadwy cael pobl yn ein helpu ni ar hyd y ffordd wrth gwrs."
Gerallt Williams yw aelod newyddaf a ieuengaf y band, a ddechreuodd chwarae gyda'r criw yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017. Mae o bellach yn cyfansoddi'r caneuon ar y cyd gyda Bedwyr.
Mae wedi dod â gwaed newydd i'r band, eglura Peter, ond yr un yw'r band yn y bôn.
"Mae'r aelod 'fenga wedi dod â bach o buzz i ni. Mae o bendant yn wahanol ond dal yn MOJO."

(o'r chwith) Peter Elias Jones, Gerallt Williams, Tony Parisella, Tudur Morgan a Bedwyr Morgan
Yr un wefr ers 40 mlynedd
Mae gan y band nifer o gigiau ar y gweill eleni i hyrwyddo'r albwm newydd – er mae'n siŵr na fyddan nhw mor brysur ag oedden nhw'n 1989. Yn ôl un o ddyddiaduron Pete, perfformiodd MOJO 72 o gyngherddau y flwyddyn honno.

Gerallt - aelod ieuengaf y band, gyda Peter a Bedwyr - y ddau aelod gwreiddiol
Heddiw, mae bywyd yn brysurach, y gwalltiau'n wynach a'r cyrff ychydig mwy blinedig, eglura Bedwyr. Ond yr un ydy'r nerfau cyn y sioe a'r un ydy'r wefr ar y llwyfan, a'r awydd i barhau.
"'Da ni wrth ein boddau yn chwarae, hyd yn oed bod ni'n hen! Mae 'na le i bawb – mae 'na le i gerddoriaeth newydd grwpiau ifanc, a mae 'na le i grwpiau hŷn. Mae'n bwysig cadw rheiny; roedda ni'n ifanc unwaith!
"Chwarae ym Mhorthaethwy rhyw bythefnos yn ôl, ac oedd hi'n ofnadwy o oer ac roedd llaw Pete wedi cloi efo crydcymala', ac o'n i methu sefyll efo poen yn fy nghefn.. ond er hynna i gyd, 'da ni dal i gario 'mlaen. Awn Ymlaen Fel Hyn!"

Bedwyr a Peter ar y dechrau
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd7 Awst 2025

- Cyhoeddwyd20 Ebrill

- Cyhoeddwyd20 Chwefror
