Y dyn o Drawsfynydd wnaeth helpu rhedwr dros llinell derfyn Marathon Llundain

GanLois Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae cwblhau marathon yn gamp arbennig. Cymaint yw'r gamp nid yw'n beth dieithr gweld coesau rhedwyr yn rhoi'r ffidil yn y to yn y milltiroedd olaf.

Ddydd Sul ym Marathon Llundain wrth iddo redeg tuag at y llinell derfyn fe welodd Gwion Roberts o Drawsfynydd ddyn ar y llawr ac yn methu â chodi ar ei draed yn annibynnol – profiad y dywedodd "fydd yn aros hefo fi am hir iawn".

Fe ddaliodd un o'r dorf y cwbl ar gamera a'i rannu ar TikTok.

Disgrifiad,

Yr arwr o Drawsfynydd ger llinell derfyn Marathon Llundain

Dywedodd Gwion wrth Cymru Fyw:

"Doedd o ddim yn 'neis' gweld pobl yn dioddef at ddiwedd y ras ond roedd y rhan fwyaf yn dal i redeg neu o leia' yn cerdded. Pan nes i weld y gŵr yma ar y llawr - yn amlwg doedd ei goesa' fo ddim yn gweithio yn iawn dim mwy felly doedd gen i ddim dewis ond rhedeg yn ôl i'w helpu.

"Ar ôl cyrraedd y llinell derfyn 'naeth paramedics ei roi o yn syth ar stretcher a nes i ddim o'i weld o wedyn! Dwi wedi trio chwilio amdano ar Facebook ond heb gael ateb neu ddod o hyd iddo eto. Ond nai dal i drio chwilio."

Mae'n diolch i bwy bynnag ffilmiodd y digwyddiad gan fod popeth wedi digwydd yn sydyn iawn.

"Mae o'n deimlad rhyfadd gwylio'r fideo nôl. Mae'r ymateb dwi 'di gael yn anhygoel - ond ar ddiwedd y dydd byddai unrhyw un yn fy sefyllfa i wedi gwneud yr un peth, gobeithio."

Gwion RobertsFfynhonnell y llun, Llio Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Gwion gyda Manw ei ferch

Mae Gwion sy'n byw yn Nhrawsfynydd, yn dad i ferch fach, Manw, sy'n ddwy a hanner; mae o'n rhedwr ac yn feiciwr brwd. Dywedodd ei wraig, Llio wrth Cymru Fyw:

"Nath o ddweud wrtha' i ddoe bod o wedi 'helpu' rhywun dros y llinell derfyn, ond pan welais i y clip yma bore 'ma, nes i ddim byd ond crio a phan dw i'n ailwylio dw i'n dal i gael dagrau."

Roedd Gwion yn rhedeg y marathon gyda'i chwaer-yng-nghyfraith, Elliw. Gan ei fod wedi'i anafu - doedd o ddim yn poeni am gyflawni amser penodol eleni, a'i fod yn gyfle i fwynhau'r achlysur.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig