Gwrthod cefnogi cynllun 25 tŷ Chwilog dros bryderon iaith

Sut fyddai'r cais yn edrych
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o sut fyddai'r datblygiad yn edrych

GanGareth Wyn Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr yng Ngwynedd wedi gwrthod cefnogi cais i godi 25 o dai fforddiadwy, yn sgil pryder dros yr effaith ar y Gymraeg ac amheuaeth dros yr angen am gymaint o dai yn y gymuned.

Roedd swyddogion Cyngor Gwynedd wedi argymell cymeradwyo'r cais gan Williams Homes Ltd (Bala) a Grŵp Cynefin i godi 25 o dai rhent ym mhentref Chwilog.

Ond mae'r penderfyniad terfynol bellach wedi ei wthio yn ôl i alluogi cyfnod o gnoi cil, wedi i aelodau bleidleisio o 8-4 i wrthod y cais brynhawn Llun.

Gyda Chwilog yn ardal o "bwysigrwydd ieithyddol" a thua 80% yn gallu siarad yr iaith, mae ymhlith yr ardaloedd sydd â'r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd.

Gan annerch y pwyllgor ar ran y datblygwyr, dywedodd Sioned Edwards o gwmni Cadnant y byddai'r cais yn "annerch yr angen cynyddol am dai fforddiadwy", a'u bod wedi "gweithio'n agos gyda'r cyngor i sicrhau bod y math o dai yn cwrdd â'r angen lleol".

Ond wnaeth y cynghorydd lleol, Rhys Tudur, gyfeirio at wrthwynebiad unfrydol Cyngor Cymuned Llanystumdwy a bod deiseb yn cynnwys 160 o lofnodion wedi ei chyflwyno yn erbyn y cais.

Disgrifiodd y cais fel "newid rhy fawr, yn rhy gyflym" a byddai "cymathu 25 o dai yn lawer iawn gormod i bentref gwledig" o'r fath.

Honnodd hefyd bod y data ynghlwm â'r cais yn "rhoi camargraff o wir anghenion y pentref".

Y llynedd fe gollodd Cyngor Gwynedd apêl cynllunio a olygai bod yn rhaid i'r awdurdod dalu costau i'r datblygwyr, wedi i gynghorwyr wrthod cais i godi 18 o dai rhent ym mhentref Botwnnog.

Safle'r cais yn Chwilog
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad Williams Homes Ltd a Grŵp Cynefin yw codi 25 o dai fforddiadwy i'w rhentu, ar safle ger Brynhyfryd a Chae Capel yn Chwilog

Gan gyfeirio at fethiant y cyngor i ddarbwyllo arolygwyr yn sgil cais Botwnnog, dywedodd y Cynghorydd Edgar Wyn Owen fod hyn wedi costio "o leiaf £10,000" i drethdalwyr Gwynedd, gan ychwanegu byddai gwrthod cais Chwilog yn arwain at apêl debyg.

Wrth nodi'r ddeiseb, dywedodd "dim refferendwm ydy hwn... 'da ni am golli [yr apêl] os da' ni'n gwrthod, a fydd 'na gostau mawr".

Er bod eraill fel y Cynghorydd Anne Lloyd Jones hefyd yn ffafrio'r cais, roedd aelodau eraill yn chwyrn yn erbyn.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Rowlands: "Rhaid [i ddatblygiad] fod yn y lleoliad cywir a ffitio i gyd-destun yr ardal".

Nododd y Cynghorydd Elin Hywel nad Chwilog oedd y man cywir i osod cymaint o dai, gan ychwanegu bod yr ysgol leol eisoes yn llawn ac nad oedd cyfleusterau addas yn y pentref.

Gan fod y pwyllgor wedi mynd yn groes i argymhelliad swyddogion cynllunio, bydd y cais yn cael ei ail-gyflwyno i'r pwyllgor dros y misoedd nesaf ar gyfer penderfyniad terfynol.

Mewn datganiad dywedodd cymdeithas Cyfeillion Llŷn nad ydy ceisiadau am dai o'r fath yn "ystyried iaith yr ymgeiswyr [am y tai rhent] na effaith y gosodiadau ar y Gymraeg".

Ychwanegodd eu bod yn "achosi pryder a phoen yn ein cymunedau gwledig Cymraeg o blith cymdeithas o bobl sydd yn ymdrechu i warchod a hyrwyddo'r Gymraeg a'r diwylliant".

Diolchodd y llefarydd i'r aelodau wnaeth wrthwynebu "am wrando i lais trigolion a Chynghorwyr Cymuned Botwnnog".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig