Gwynedd: Datblygiad tai fforddiadwy i 'newid cymeriad pentref'?

Sut fyddai'r cais yn edrych
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o sut fyddai'r datblygiad yn edrych

GanGareth Wyn Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae trigolion pentref yng Ngwynedd yn pryderu y gall datblygiad tai arfaethedig "newid cymeriad" un o gadarnleoedd y Gymraeg.

Bwriad Williams Homes Ltd (Bala) a Grŵp Cynefin yw codi 25 o dai fforddiadwy i'w rhentu, ar safle ger Brynhyfryd a Chae Capel yn Chwilog.

Ond er bod swyddogion Cyngor Gwynedd yn argymell caniatáu'r cais, mae deiseb yn cynnwys 160 o enwau wedi ei chyflwyno i'r awdurdod, gyda thrigolion yn pryderu am yr effaith posib ar y gymuned.

Gyda Chwilog yn ardal o "bwysigrwydd ieithyddol" a thua 80% yn gallu'r iaith, mae ymhlith yr ardaloedd â'r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd.

Mae Cyngor Cymuned Llanystumdwy wedi nodi gwrthwynebiad unfrydol i'r cais, gan ddadlau y byddai'n "anodd integreiddio 25 o dai i'r pentref heb greu problem ieithyddol", gan alw am roi ystyriaeth benodol i'r Gymraeg wrth ddyrannu tai.

Y Cynghorydd Rhys Tudur
Disgrifiad o’r llun,

"Mae bron pawb yn y pentra' yn erbyn y cais," medd y Cynghorydd Rhys Tudur

Yn ôl y Cynghorydd Rhys Tudur, sy'n eistedd ar Gyngor Cymuned Llanystumdwy a hefyd yn cynrychioli'r ardal ar Gyngor Gwynedd, does dim angen datblygiad mor fawr.

"Mae bron pawb yn y pentra' yn erbyn y cais," meddai.

"Mae'r cyngor cymuned yn unfrydol wedi gwrthwynebu'r cais, mae'n gynnydd o 10% yn stoc dai bresennol y pentra' a hynny dros nos.

"Mae'n andros o newid i le fel hyn, newid gwedd y pentra' ac amharu ar hyfywedd y Gymraeg."

'Cadarnle i'r Gymraeg'

"Mae fan'na yn gadarnle i'r Gymraeg, ond 'da chi'm yn sôn am gymathu pump o dai, 'da chi'n sôn am 25 mewn pentra' bach," meddai Rhys Tudur.

Ychwanegodd bod y data sy'n dangos yr angen am dai yn ddiffygiol, am ei fod yn cynnwys "data sirol" a bod elfen o "ddyblygu" gan fod ymgeiswyr yn nodi sawl pentref gwahanol wrth nodi lleoliadau posib.

"Dydy'r data ddim yn ddibynadwy nac ychwaith yn ddigon i fesur yr union angen lleol," meddai.

Safle'r cais yn Chwilog
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad Williams Homes Ltd a Grŵp Cynefin yw codi 25 o dai fforddiadwy i'w rhentu, ar safle ger Brynhyfryd a Chae Capel yn Chwilog

Mae Grŵp Cynefin yn dweud nad oes modd iddyn nhw wneud sylw am y tro, gan fod y cais yn mynd trwy broses swyddogol ar hyn o bryd, gyda disgwyl i bwyllgor cynllunio'r cyngor wneud penderfyniad brynhawn Llun.

Ond fel rhan o'r cais maen nhw'n dadlau bod yr angen wedi ei brofi am dai o faint llai, sef un, dwy a thair ystafell wely, fel sy'n cael ei gyflwyno yn y cais.

Gan hefyd ychwanegu na fyddai'n cael effaith andwyol ar y Gymraeg, maen nhw'n dweud y byddai'r datblygiad yn "helpu i greu cymuned gynaliadwy".

'Cwrdd ag anghenion y farchnad dai leol'

Yn ôl adroddiad swyddogion Cyngor Gwynedd, mae'r datblygiad tai fforddiadwy "wedi ei lunio i gwrdd ag anghenion y farchnad dai leol", gan argymell y dylid caniatáu'r cais.

Mae eu hargymhelliad yn nodi: "Fe gredir bod y cynllun yn dderbyniol ar sail egwyddor a'i fod yn cydymffurfio â gofynion polisïau a chanllawiau cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol.

"Rhoddwyd sylw llawn i'r holl sylwadau a gwrthwynebiadau perthnasol a dderbyniwyd a chredir fod y bwriad yn dderbyniol a'i fod trwy hynny yn unol â gofynion y polisïau perthnasol."

Alun Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'm yn erbyn tai fforddiadwy, ond mae 25 yma mewn ardal wledig angen ei gwestiynu," medd Alun Jones

Ond ymysg rhai o drigolion Chwilog, doedd 'na fawr o gefnogaeth i'r datblygiad.

"Mae Chwilog yn bentref Cymraeg, mae'r gweithgareddau'n Gymraeg," meddai Alun Jones.

"Dwi'm yn erbyn tai fforddiadwy, ond mae 25 yma mewn ardal wledig angen ei gwestiynu. 'Ych chi'n mynd i golli Cymreictod y pentre'."

"A does dim llawer o bentrefi fel Chwilog a'r Ffôr i gael yng Nghymru bellach."

Trefor Morris a Dafydd Povey
Disgrifiad o’r llun,

Barn Trefor Morris a Dafydd Povey ydy bod y datblygiad yn ormod o dai

Ychwanegodd Trefor Morris: "Does 'na'm angen gymaint o dai, does 'na'm cyfleusterau ar eu cyfer nhw.

"Does 'na'm siop yma hyd yn oed ac mae'r bysus yn sâl yma."

Dywedodd Dafydd Povey: "Teimlo dwi eu bod nhw'n ormod ar un tro de', mae'r ysgol yn llawn yn barod.

"Mae 'na beryg i newid cymeriad y pentra' yn gyfan gwbl.

"Os 'sa nhw'n dai fforddiadwy i bobl eu prynu, 'sa'n haws gan rywun i'w dderbyn o. Ond y peryg ydi i bobl o du allan yr ardal i ddod yma."

Mae disgwyl penderfyniad ar y cais pan fydd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd yn ymgynnull brynhawn Llun.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig