Ifor ap Glyn: prydferthwch y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
"Mae'r Gymraeg wedi cael ei ddisgrifio'n ddiweddar gan y geiriadurwraig Suzie Dent fel iaith brydferth – ond i mi, ei hymadroddion hi sy'n mynd â ni at galon ei phrydferthwch."
Dyna eiriau'r Prifardd Ifor ap Glyn, sydd yma yn dewis yr ymadroddion mae e'n ystyried fel y rhai mwya' prydferth yn y Gymraeg.

'Enaid byw cywreindeb iaith' - felly disgrifiodd T Gwynn Jones fesur yr englyn, ond gallai'r geiriau hyn gyfeirio llawn cystal at rai o ymadroddion bachog ein hiaith lafar ni.
Felly, dyma bump ohonyn nhw, enghreifftiau ar hap, sy'n dangos athrylith yr iaith:
Ti'n well ddrws na ffenest
Hogyn tal a fûm i erioed, a dyma ymadrodd (cyhuddgar gan amla) dwi wedi bod yn effro iawn iddo erioed – hynny yw, fy mod i, (mewn cae pêl-droed gan amlaf), oherwydd fy nhaldra yn rhwystro'r sawl sydd y tu ôl imi rhag gweld yn iawn.
Mae'n eironig mai ystyr gwreiddiol 'drws' oedd 'bwlch cul rhwng dau fynydd', a dyna'i ystyr mewn enwau llefydd fel 'Drws y Coed' yn Nyffryn Nantlle, neu 'Bwlch yr Oerddrws' rhwng Dolgellau a Dinas Mawddwy.
Yn yr hen ystyr hwnnw, byddai 'drws' llawn cystal â 'ffenest' - a'r ffans y tu ôl i mi yn gallu gweld yn iawn!
Gwynt teg ar ei ôl
I'r hen forwyr yn oes y llongau hwyliau, roedd 'gwynt' yn holl bwysig – ei gryfder, ac o ba gyfeiriad yr oedd yn dod – ac mae sawl ymadrodd o fyd y morwr wedi dod mewn i'n hiaith lafar.
Yn wreiddiol roedd 'gwynt teg ar ei ôl o' yn ffordd o ddymuno'n dda i rywun, drwy ddymuno gwynt o'r cyfeiriad cywir iddo, yn hytrach na gwynt croes, er mwyn ei helpu ar ei daith.
Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae wedi dod yn ymadrodd digon negyddol, yn cyfateb i'r Saesneg 'good riddance!'

Suzie Dent o raglen Countdown wnaeth ddigrifio'r iaith Gymraeg fel iaith brydferth
Henaint ni ddaw ei hunan
Dyna ymadrodd y caf fy hun yn ei ailadrodd yn amlach-amlach y dyddiau hyn, a minnau newydd anghofio rhywbeth (eto!); neu wrth wrando ar un o'r plant yn egluro'n sydyn-syml sut i wneud rhywbeth cymhleth ar y cyfrifiadur (eto!).
Ond beth ydi 'henaint' mewn gwirionedd? Mae torth yn dechrau sychu ar ôl ychydig o ddyddiau, a gall rhywun weiddi wedyn, 'ych, mae'r bara 'ma'n hen!'
Ond os ydyn ni'n sôn am yr Hengerdd ar y llaw arall, 'dan ni'n sôn am gerddi Cymraeg gafodd eu 'sgwennu tua mil a hanner o flynyddoedd yn ôl. Gall 'hen' felly fod yn fater o ganrifoedd neu ddyddiau, neu funudau hyd yn oed.
Os 'dach chi'n troi fyny yn y stesion efo'ch gwynt yn eich dwrn ac yn gofyn ar pa blatfform mae trên Caerdydd, digon posib y dywedith rhywun ei fod wedi 'hen fynd'. Ac mae'r ffaith fod 'hen' mor anodd i'w ddiffinio wedi denu'r beirdd ar hyd y canrifoedd.
Fel dywedodd Llywarch Hen (enw addas iawn) am ddeilen oedd wedi crino yn yr hydref:
'Hi hen, eleni ganed.'
Sdim pwynt cadw ci a chyfarth dy hunan
Ymadrodd y cyflogwr anfodlon yw hwn – ar ôl penodi rhywun i'w arbed rhag gorfod 'dangos ei ddannedd' ei hunan, diflas yw deall wedyn fod rhaid ymroi o hyd i'r gwaith oedd i fod wedi'i drosglwyddo i ofal y person newydd.
Mae nifer o ymadroddion tebyg yn ein hiath lafar, a pha ryfedd, am fod cŵn wedi bod yn rhan o fywyd y Cymry erioed. Cyfeiriwn er enghraifft at ddyn cecrus, (yn enwedig os ydi o'n fyr hefyd), fel 'corgi o ddyn.'
Mae dyn felly'n debygol o 'ysgyrnygu siarad' neu 'gyfarth gorchmynion' – ond gyda rhywun felly, o leia fydd ddim rhaid iti 'gyfarth dy hunan'!
Cenedl heb iaith, cenedl heb galon
Gobeithiaf imi ddangos drwy'r enghreifftiau uchod, mor dlws yw rhai o ymadroddion ein hiaith ni, a chymaint o golled annhraethol fyddai gorfod byw hebddynt.
Er mai lleiafrif ohonom yng Nghymru sy'n siarad yr iaith, mae'n eiddo i ni i gyd - ac i'r rhai ohonom sy'n ei medru, rhaid ei rhannu a'i harddel gymaint ag y gallwn.
Nid cannwyll i'w dodi dan lestr mohoni!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2024

- Cyhoeddwyd19 Hydref 2020
