Heddlu'n ymchwilio i lofruddiaeth ar ôl marwolaeth dyn, 74

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 74 oed ddydd Iau.

Dywedodd Heddlu Gwent bod swyddogion wedi eu galw i Drefddyn ger Pont-y-pŵl am 16:55 ar 23 Ebrill, wedi adroddiadau bod dyn wedi cael anafiadau difrifol. Cafodd y dyn ei gyhoeddi'n farw.

Mae dyn 37 oed o Gwmbrân wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd yr heddlu bod y ddau ddyn yn adnabod ei gilydd, ac nad ydyn nhw'n edrych am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r heddlu wedi gofyn i bobl beidio â dyfalu ynghylch amgylchiadau'r digwyddiad, ac maen nhw'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig