Cyhuddo dyn o Wynedd o gael llawlyfr terfysgol yr IRA ar ei ffôn

Ymddangosodd Jac Glyn Edwards yn llys yr Old Bailey ddydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 22 oed o Wynedd wedi ymddangos yn llys yr Old Bailey yn Llundain wedi ei gyhuddo o droseddau terfysgol, yn dilyn honiadau bod llawlyfr canllaw'r IRA wedi cael ei ddarganfod ar ei ffôn symudol.
Mae Jac Glyn Edwards o'r Bermo yn wynebu pedwar cyhuddiad o fod â chofnodion yn ei feddiant allai fod o ddefnydd ar gyfer terfysgaeth, ac un cyhuddiad o brynu gwn.
Mae'r cyhuddiadau'n honni bod Mr Edwards wedi cael ei ddarganfod â phedair dogfen oedd yn debygol o fod yn ddefnyddiol i rywun gyflawni neu baratoi gweithred derfysgol.
Dywedodd yr erlynydd Christopher Amis wrth wrandawiad cychwynnol yn llys yr Old Bailey ddydd Gwener bod y deunydd yn honedig yn cynnwys canllaw'r IRA, a chanllaw ar ryfela urban guerrilla.
Mae Jac Glyn Edwards hefyd wedi ei gyhuddo o brynu neu gael gafael ar arf - gwn llaw, ym mis Mehefin 2024.
Cafodd yr achos ei drosglwyddo i Lys y Goron Lerpwl, gyda 27 Hydref 2027 wedi cael ei osod fel dyddiad cychwynnol posib ar gyfer achos llawn.
Bydd Mr Edwards yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Lerpwl ar 6 Tachwedd 2026 ar gyfer gwrandawiad cyflwyno ple.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.