'Byddai'n well gen i dynnu fy nannedd i gyd na aros am ddeintydd GIG'

Llinos a'i phartner, PaulFfynhonnell y llun, Llinos Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Er ei bod mewn poen cyson, mae Llinos wedi rhoi'r gorau i geisio canfod deintydd GIG

GanGareth Wyn Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae dynes yn dweud iddi geisio gludo ei dannedd gosod yn ôl at ei gilydd oherwydd diffyg deintyddion gyda'r GIG, ac nad oedd hi'n gallu fforddio talu am driniaeth preifat.

Yn ôl Llinos Hughes o Langefni, Ynys Môn, roedd ei deintydd wedi rhoi'r gorau i gynnig gwasanaeth drwy'r gwasanaeth iechyd y llynedd, ac ers hynny ei bod wedi gorfod dibynnu ar apwyntiadau deintyddol brys i ddelio â'i phroblemau parhaus.

Ond er gwaethaf ei phoen cyson a'i bod angen tynnu dau ddant, mae'n dweud ei bod wedi rhoi'r gorau i geisio canfod deintydd erbyn hyn.

"Mae'n rhaid i mi fwyta ar un ochr," meddai Llinos, sydd hefyd yn cael trafferthion symudedd.

"Mae'r dant gwaelod yn rhydd ac mae'r dant uchaf yn eithaf poenus."

Mae hi hyd yn oed yn dweud iddi geisio gludo ei dannedd gosod oherwydd dydy hi ddim yn gallu fforddio mynd yn breifat.

"Mae'n anghyfforddus bwyta a siarad hebddyn nhw a dwi'n conscious iawn.

"Wnes i ddweud [wrth y deintydd brys] 'tynnwch fy nannedd i gyd allan a wna'i gael dannedd gosod llawn'.

"Bysa'n well gen i hynny na mynd drwy'r pryder o aros am deintydd.

"Mae'n anodd cael apwyntiad hefo'r GIG, ond mae'n hunllef os ydach chi'n anabl."

Disgrifiad,

Roedd y farn ynghylch deintyddion yn glir ar strydoedd Bangor yn ddiweddar

Ond dydy trafferthion Llinos i ganfod deintydd drwy'r GIG ddim yn anghyffredin.

Y mis yma fe gyflwynwyd newidiadau i gytundebau deintyddion gyda'r GIG, sydd wedi arwain at rai yn dychwelyd eu cytundebau, ac eraill bellach ond yn cynnig triniaeth preifat o hyn allan.

Cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai mae arolwg gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA) wedi canfod bod deintyddiaeth yn bryder i lawer o bleidleiswyr.

Yn ôl ymchwil Yougov ar ran y BDA, roedd 79% yn dweud bod angen i'r llywodraeth wneud mwy o ran deintydda.

Roedd 20% o'r ymatebwyr wedi methu â sicrhau apwyntiad yn y ddwy flynedd diwetha' a 13% wedi rhoi'r gorau i ymdrechu ar ôl methu â chanfod deintydd drwy'r GIG.

Deintydd yn trin dynesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffigyrau Stats Cymru yn awgrymu bod nifer y cytundebau deintyddol gyda'r GIG wedi gostwng 11% dros dair blynedd

Yn y blynyddoedd cyn y pandemig roedd tua 53% o oedolion yng Nghymru yn derbyn triniaeth ddeintyddol drwy'r gwasanaeth iechyd.

Ond erbyn hyn mae'r ffigwr lawr i 40%.

Mae'r darlun yn wahanol iawn mewn rhannau eraill o'r DU, gyda Iechyd Cyhoeddus yr Alban yn dweud bod 97% o oedolion yno wedi cofrestru gyda deintydd GIG.

Nid yw'r ffigyrau ar gyfer plant yn cymharu'n dda chwaith, lle cafodd 48% o blant eu trin gan y GIG yng Nghymru, ond 57% yn Lloegr a 90% yn yr Alban.

Serch hynny, mae 'na ymdrechion wedi bod i wella'r ddarpariaeth, gyda bron i 112,000 o gleifion newydd wedi derbyn triniaethau arferol yng Nghymru rhwng Ebrill 2025 ac Ionawr 2026.

Cafodd 65,000 o driniaethau brys hefyd eu cynnal.

'Wedi cyfathrebu'n wael gyda'r proffesiwn'

Mae ffigyrau Stats Cymru hefyd yn awgrymu bod nifer y cytundebau deintyddol gyda'r GIG wedi gostwng 11% dros dair blynedd.

Dywed Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan bod 10 deintyddfa yn yr ardal wedi dewis gwneud hynny, yn benodol oherwydd newidiadau i'r cytundebau.

Roedd wyth arall wedi dychwelyd eu cytundebau ym Mhowys, chwech yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda a thri ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe.

Nid yw ffigyrau cyffelyb ar gael ar gyfer Betsi Cadwaladr, Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf Morannwg, gyda'r byrddau'n dweud byddai angen gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth i ryddhau'r data.

Catrin Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Catrin Tomos: "Fydd y llywodraeth nesa' fydd yn cael ei ethol yn etifeddu llanast llwyr"

Yn ôl y BDA nid yw'r newidiadau i'r cytundebau newydd - a ddaeth i rym y mis hwn - wedi eu profi, ac mae'r manylion wedi'u "cyfathrebu'n wael gyda'r proffesiwn a chleifion".

Ychwanegon nhw y bydd rhai cleifion yn gweld eu deintyddion yn llai aml ac efallai y byddai angen i'r rhai sydd gyda dannedd iachach aros rhwng 18 a 24 mis am apwyntiad.

Mae Catrin Tomos o'r BDA hefyd yn gweithio fel deintydd cymunedol, sy'n golygu cynnig triniaeth i gleifion bregus sy'n methu gweld deintydd arferol.

Fel gwasanaeth maen nhw eisoes o dan bwysau.

Ond mae hi'n dweud bod llai o ddeintyddion yn cynnig gwasnaethau drwy'r GIG "oherwydd y telerau anffafriol", gan olygu gall mwy o faich syrthio ar wasanaethau cymunedol.

Bydd hyn wedyn, meddai, yn "anfantais llwyr i'r cleifion craidd hynny sydd wir ein hangen ni".

"Dydy'r telerau heb gael eu peilota a does 'na ddim cyfnod prawf wedi bod o gwbl, mae'r ffaith fod y llywodraeth wedi rhoi hyn mewn grym heb siarad hefo'r deintyddion wir yn bryder," meddai Catrin.

"Fydd y llywodraeth nesa' fydd yn cael ei ethol yn etifeddu llanast llwyr."

Aeth hi ymlaen i ddweud: "Mae 'na fwy o siawns fydd pobl yn trio ffendio ffyrdd arall o gael mynediad at ddeintydd, sy'n hollol ddealladwy.

"Does gynnon ni ddim y capasiti i weld llawer mwy o gleifion, 'da ni'n gweld cyn gymaint o gleifion a 'da ni'n gallu a rheiny'n gleifion bregus sy'n methu eirioli dros eu hunain.

"Felly ein consyrn ni ydy bydd y cleifion hynny o dan fwy o anfantais."

'Y newid mwyaf arwyddocaol i ddeintyddiaeth y GIG mewn 20 mlynedd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai'r newidiadau a ddaw ym mis Ebrill yw'r rhai "mwyaf arwyddocaol i ddeintyddiaeth y GIG mewn 20 mlynedd" a'u bod yn "gwireddu'r uchelgais i ddarparu deintyddiaeth y GIG ar sail risg ac angen achosion unigol".

"Mae'r trefniadau contract newydd yn sicrhau bod capasiti ar gyfer llif cyson o gleifion newydd tra ar yr un pryd yn darparu parhad gofal i gleifion presennol," meddai.

Yn ôl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru mi fyddan nhw'n gweithredu ar frys i sicrhau mwy o gyllid a gosod targedau clir i dorri rhestrau aros, ac yn cael gwared ar rwystrau fel y gall gweithwyr deintyddol proffesiynol drin mwy o gleifion.

Cytuno bod deintyddiaeth yn bryder mawr mae'r Ceidwadwyr Cymreig, drwy addo ymweliad o leiaf unwaith y flwyddyn gyda deintydd drwy'r GIG i bawb, drwy hyfforddi a chadw mwy o ddeintyddion.

Dywed Reform UK y byddan nhw'n ail-ddylunio'r cytundebau presennol er mwyn cadw mwy o ddeintyddion, ac yn sefydlu ysgol ddeintyddol newydd ym Mangor.

Byddai Plaid Werdd Cymru yn sicrhau gwell targedu i gyrraedd y cleifion mwyaf bregus ac yn ehangu mynediad at ddeintyddion GIG drwy gyllido tecach.

Yn ôl Llafur Cymru byddan nhw'n cynnig mwy o apwyntiadau drwy'r cytundeb newydd, ac hefyd yn cefnogi sefydlu ysgol ddeintyddiaeth newydd.

Dywed Plaid Cymru eu bod wedi ymrwymo i adeiladu ar eu perthynas adeiladol gyda'r BDA oherwydd yr "argyfwng deintyddol", ac maent am weld ysgolion deintyddol newydd ym Mangor ac Aberystwyth a gwell mynediad at ddeintyddion cymunedol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.