Nid Cymru sy'n rheoli mewnfudo - pam ei fod yn bwnc llosg i'r etholiad?

- Cyhoeddwyd
Fel nifer o wledydd, mae Cymru'n gweld llif cyson o bobl yn cyrraedd, ac yn gadael am wledydd eraill, bob blwyddyn.
Mae'r ffigwr net, wrth drafod mewnfudo, yn golygu'r gwahaniaeth rhwng y rhai sy'n cyrraedd a'r rhai sy'n gadael.
Gan ganolbwyntio ar bobl sy'n symud o dramor, fe wnaeth poblogaeth Cymru gynyddu tua 23,000 o ganlyniad i fudo rhyngwladol net yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2024, yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf. Roedd 3.2m o bobl yn byw yng Nghymru ar y pryd.
Fe wnaeth arolwg diweddar, a gafodd ei gomisiynu gan y BBC, awgrymu fod mewnfudo ymhilth y tri phwnc pwysicaf i bleidleiswyr cyn etholiad y Senedd.
Ond, dydy'r maes heb ei ddatganoli. Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n gyfrifol am fewnfudo.
Felly pam fod hwn yn bwnc o bwys cyn etholiad y Senedd, a beth mae'r data'n ei ddweud wrthom ni?
Pa faterion sy'n poeni pleidleiswyr Cymru cyn etholiad y Senedd?
- Cyhoeddwyd2 Mawrth
Yn aml, mae dryswch ynghylch gwahanol dermau wrth drafod mudo.
Mae mudwyr cyfreithlon yn cyrraedd gyda chaniatâd, er enghraifft gyda fisa, tra bod mudwyr anghyfreithlon yn cyrraedd heb hynny, neu yn aros yn y DU ar ôl i'r caniatâd ddod i ben.
Mae rhai mudwyr cyfreithlon ac anghyfreithlon yn gwneud cais am loches unwaith iddyn nhw gyrraedd.
Mae ceiswyr lloches yn aml yn gofyn am noddfa oherwydd peryglon adref, ac os yw eu cais yn llwyddiannus, fe all rhai gael statws ffoadur gan y Swyddfa Gartref.
Oni bai am y polisi Cenedl Noddfa, sydd yn gynllun gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ceiswyr lloches - y mwyafrif o Wcráin - gyda gwasanaethau ac integreiddio ar ôl iddyn nhw gyrraedd, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw mewnfudo.
Mae data ddiweddaraf y Swyddfa Gartref o fis Rhagfyr 2025 yn dangos, fesul pob 10,000 o bobl, fod 11 o geiswyr lloches yn cael eu cefnogi yng Nghymru. Dyna'r gyfradd isaf ar draws pedair gwlad y DU.
Lloegr oedd â'r gyfradd uchaf, gydag 16 o geiswyr lloches fesul 10,000 o drigolion.
Does dim data sy'n dweud sut y gwnaeth y ceiswyr lloches gyrraedd y wlad.
Y farn yn Wrecsam
Mae dinas Wrecsam yn un ardal o Gymru sydd wedi gweld protestiadau oedd yn gwrthwynebu mewnfudo yn ddiweddar.
Fe ddaeth yn sgil cynllun posib - sydd bellach wedi ei ddileu - gan y Swyddfa Gartref i gartrefu 70 o geiswyr lloches mewn cyn-gartref gofal yn Rhosllannerchrugog.
Mewn tafarn yn y ddinas, fe ddywedodd Natalie Wasiuk, 38, ei bod hi'n un o'r bobl a aeth i'r brotest ddiwedd mis Ionawr i wrthwynebu'r cynllun.
"'Mae pobl, immigrants, yn cael tai cyn ni," dywedodd.
"Mae ddim yn dda, ydy o?"

Dywedodd Natalie ei bod yn poeni am effaith mewnfudo ar ddinas fel Wrecsam
Dywedodd Joshua Hall, 32, fod y pwnc yn ei boeni cyn etholiad y Senedd.
"Dwi'n deall bod angen tai ar bobl sy'n dod fan hyn, sydd wedi ffoi rhag y rhyfel ac yn y blaen, dwi'n deall hynny," meddai.
"Ond i fi, yn bersonol, dwi'n credu dylen ni edrych ar ôl ein hunain."
Yn ardal Parc Caia ar gyrion y ddinas, dywedodd Glyn Hughes: "Y maint sydd wedi dod i fewn, rhaid ei fod o'n effeithio ar ysbytai, y cyngor, tai a lle mae pobl yn byw.
"Mae pobl sy'n wreiddiol o Wrecsam, Rhos, Johnstown, sy'n byw ar y stryd."

Dywedodd Glyn Hughes ei fod yn aml yn trafod mudo fel pwnc gwleidyddol gyda'i ffrindiau
Mae gan y Swyddfa Gartref gyfrifoldeb cyfreithiol i gartrefu ceiswyr lloches tra eu bod yn aros am benderfyniad ar eu cais.
Mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru ddyletswyddau cyfreithiol tuag at y rhai sy'n ddigartref, ac mae'r cymorth sy'n cael ei roi yn dibynnu ar amgylchiadau.
Mae ffigyrau'r Swyddfa Gartref yn dangos i 128 o geiswyr lloches gael eu cartrefu yn awdurdod lleol Wrecsam ddiwedd Rhagfyr 2025 tra bod eu ceisiadau'n cael eu prosesu. Mae'n cyfateb â 0.09% o boblogaeth yr ardal.
Ar wahân, roedd 333 o aelwydydd yn Wrecsam yn gymwys i gael cefnogaeth digartrefedd yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2025. Dydy'r data ddim yn dangos ai pobl o'r DU neu mudwyr ydy'r rhain.
Dywedodd Anna Buckley, cyfarwyddwr y Ganolfan Cymorth Integreiddio Pwylaidd sy'n darparu cefnogaeth i gymuned Bwylaidd Wrecsam, ei bod yn ddinas groesawgar.
"Bob blwyddyn, mae gennym tua 300 o bobl sy'n cysylltu â ni, efallai eu bod angen help gyda thai, efallai eu bod eisiau dechrau busnes," meddai.
"Y bobl sy'n dod yma'n gyfreithlon, maen nhw'n bobl sy'n gweithio'n galed. Maen nhw'n talu trethi. Maen nhw eisiau teimlo'n ddiogel.
"Felly os ydyn ni'n siarad am fudo cyfreithlon, rwy'n 100% y tu ôl i hynny. Ond nid mudo anghyfreithlon."
'Mae pobl yn meddwl ein bod fudwyr anghyfreithlon'
Yng nghartref gofal Bodlondeb, sy'n rhan o gangen Pendine Park ar gyrion Wrecsam, mae Arlene Elano o'r Philippines yn un o gannoedd o aelodau o staff o dramor.
Dywedodd Arlene, a ddaeth i Gymru yn gyfreithlon i weithio 24 mlynedd yn ôl fod y protestiadau diweddar wedi arwain at densiynau.
"Mae'r bobl hyn yn meddwl, oherwydd ein lliw, oherwydd ein hedrychiad, ein bod ni i gyd yr un peth, i gyd yn 'fudwyr anghyfreithlon'," meddai.
"Mae'n peryglu diogelwch ein plant. Mae hynny'n ein poeni."

Fe ddaeth Arlene Elano i weithio mewn cartref gofal yn Wrecsam o dramor bron i 24 mlynedd yn ôl
Yn ôl cyfarwyddwr Pendine Park, Mario Kreft, mae gweithwyr o dramor yn gwbl greiddiol i'r sector.
Dywedodd Nia Davies Williams sy'n cynnal sesiynau cerddoriaeth yn y cartrefi gofal fod gweithwyr tramor yn dod â "sgiliau arbennig".
"Os fysa' nhw ddim yna i 'neud o, yna mi fysa'r swyddi ma'n wag.
"Ma' hi ddigon hawdd i rai i gwyno, a d'eud 'o, ma' nhw'n cymryd ein swyddi ni i gyd'. Dydy hynny ddim yn wir."
Mae Dr Catrin Wyn Edwards yn ddarlithydd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Dywedodd na chafodd ei synnu fod mudo yn bwnc pwysig i rai pleidleiswyr, ond bod angen cofio fod costau byw ac iechyd yn faterion o bwys i ganran uwch o bobl.
Dywedodd: "Mae mudo wedi cael ei wleidyddoli fel pwnc ers dros chwarter canrif.
"Mae hyn wedi creu rhyw fath o naratif lle ma' 'na rwyg, efallai, creu portread o rwyg yn y gymdeithas, portreadu mudwyr fel unigolion problematig, a 'llif' o fudwyr ac yn y blaen.
"Ond mae'r niferoedd sydd yn ceisio lloches yn y DU, mae'r niferodd yn isel iawn, a hyd yn oed yn llai yng Nghymru. Does dim pwerau gan y Senedd."
Dywedodd y Swyddfa Gartref, sef adran Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am fewnfudo a rheoli ffiniau, fod "bron i 60,000 o fewnfudwyr anghyfreithlon a throseddwyr sy'n ddinasyddion tramor wedi cael eu symud ers etholiad 2024".
Mae ffigyrau diweddar yn dangos bod y rhan fwyaf o'r unigolion hyn wedi gadael yn wirfoddol.
Beth sydd gan y pleidiau yng Nghymru i'w ddweud?
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig - ynghyd â phlaid Reform - eisiau cael gwared ar y polisi Cenedl Noddfa.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y blaid: "Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu mewn system deg sy'n gadarn ond dan reolaeth - gan gefnogi'r rhai sy'n cyfrannu, wrth weithio gyda Llywodraeth y DU i atal mewnfudo anghyfreithlon a sicrhau bod rheolau'n cael eu gorfodi'n iawn."
Dywedodd Reform fod "mewnfudo yn bwnc pwysig i bobl, ac mae'n hawdd gweld pam", gan ychwanegu, "pan fo mewnfudo yn rhy uchel mae'n rhoi straen ar ein gwasanaethau cyhoeddus a'n cymunedau".
Dywedodd Plaid Cymru eu bod "eisiau system deg, sy'n seiliedig ar reolau, o fewnfudo sy'n cael ei reoli ac sy'n gweithio i Gymru, yn diwallu anghenion ein cymunedau, yn adlewyrchu heriau unigryw Cymru, ac sy'n cynnal ein gwerthoedd".
Mae'r blaid - ynghyd â Llafur Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd - yn cefnogi'r polisi Cenedl Noddfa.
Dywedodd Llafur Cymru ei bod yn "falch o'i record o gefnogi'r rhai wnaeth ffoi o'r rhyfel yn yr Wcráin" ac ychwanegodd fod "Llywodraeth Lafur y DU wedi addo cynyddu gwaredu mewnfudwyr anghyfreithlon ac wedi gwneud hynny."
Dywedodd Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, mai'r "her fwyaf sy'n wynebu Cymru a'n gwasanaethau cyhoeddus yw nifer y bobl ifanc sy'n gadael y wlad dros y 27 mlynedd diwethaf o reolaeth Llafur".
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Werdd yng Nghymru y byddai'n "annog Llywodraeth y DU i gael system loches gryfach a mwy effeithlon sy'n cynnwys llwybrau diogel a chadarn".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.