Y Gyfrinach gan Sofia - stori fuddugol Radio Cymru

SophieFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Sofia o Ysgol Glantaf oedd enillydd blynyddoedd saith, wyth a naw

  • Cyhoeddwyd

Sofia o Ysgol Glantaf yw un o enillwyr Cystadleuaeth Sgwennu Stori Aled Hughes ar BBC Radio Cymru eleni.

Daeth Sofia yn fuddugol yn y gystadleuaeth i flynyddoedd saith, wyth a naw. Yr awdures Anni Llŷn oedd y beirniad mewn cystadleuaeth gref.

Yn ôl y beirniad, Anni Llŷn, roedd y safon yn uchel iawn ac roedd yn broses ddifyr darllen amrywiaeth o straeon gyda dychymyg a chreadigrwydd.

Daeth stori Sofia i'r brig am ei hysgrifennu "aeddfed, hyderus a chyfareddol".

Fel gwobr, fe luniodd yr artist Lleucu Gwenllian lun clawr i stori Sofia.

Mwynhewch stori Sofia, Y Gyfrinach.

Y Gyfrinach gan Sofia

Clawr Y GyfrinachFfynhonnell y llun, Lleucu Gwenllian

Dydw i ddim fel arfer yn hoff o gyfrinachau. Dydw i ddim yn dda iawn am eu cadw nhw chwaith. Ond roedd hyn yn wahanol. Pan ddechreuodd yr afon siarad heb eiriau.

Roedd hi'n ddiwrnod oer ond gallwn weld golau'r haul o hyd yn cuddio tu ôl i'r cymylau ysgafn yn yr awyr lwyd.

Fel pob dydd arall es at yr afon yn gynnar y bore hwnnw - fy nhraed noeth ar y glaswellt, gwallt yn glymau cwsg - doedd dim byd yn wahanol amdanaf fi. Ond yr afon... roedd rhywbeth amdani nad oedd yn iawn rywsut.

Roedd ei hwyneb yn disgleirio gyda phatrymau na welais i erioed mohonyn nhw o'r blaen, patrymau yn troelli fel inc wedi'i arllwys ar wydr clir.

Pan bwysais yn agosach i gael gweld yn well, cododd y dŵr yn fwa llyfn, amhosib.

Ac yna fe luniodd ei hun ar ffurf rhywbeth.

Nid creadur, nid person, ond rhywle yn y canol. Yn hylif ac yn symud, fel pe bai'r afon wedi penderfynu gwisgo corff am y tro cyntaf. Roedd ei ffurf yn disgleirio'n las meddal ac arian, a phan edrychais arni, roedd y byd fel pe bai wedi stopio, yn gwrando.

Dywedodd fy enw heb sŵn.

Ymestynnodd yr afon. Edrychai fel petai golau'r lleuad ar ei hwyneb. Pan frwsiodd ei bysedd yn erbyn fy llaw, llifodd lawer o emosiynau nad oedd yn perthyn i mi drosof; hapusrwydd, llawenydd a rhywbeth... cartrefol.

Ar ôl y diwrnod hwnnw, teimlwn fel bod y byd yn ymateb i mi; troai'r dail tuag ataf fel pe baent yn cyfarch hen ffrind, cariai'r gwynt y sibrydion yr oeddwn bron â'u deall, a hymiai'r cerrig yn dawel pan gerddwn arnynt, fel pe baen nhw'n cofio fy nghamau.

A doedd dim ots ble oeddwn i, gallwn glywed yr afon wrth law, nid yn fy nilyn nac yn aflonyddu arnaf, ond yn gwylio'n ddistaw.

Roeddwn i eisiau dweud wrth rywun. Ond diflannai'r geiriau bob tro, gan lithro i ffwrdd fel dŵr trwy fy mysedd. Nid oherwydd bod ofn arnaf, ond oherwydd bod y gyfrinach yn teimlo'n rhy fawr, yn rhy hynafol, yn rhy gysegredig i'w rhoi i rywun na allai ddeall.

Teimlais y gwir yn fy nghalon, nid damwain oedd hyn.

Roedd yr afon wedi fy newis i.

Mae hi wedi fy newis am reswm na allaf i cweit ei esbonio ar hyn o bryd. Dydi cadw'r gyfrinach ddim yn teimlo fel twyll. Rwy'n amddiffyn stori nad yw'r byd yn barod i'w chlywed. Eto.

Gwrandewch ar Sofia yn sgwrsio gyda Aled Hughes

BBC Radio Cymru

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig