'Sioc fawr' clywed bod gen i a'm chwaer ganser yr un pryd

Mae Dr Harri Pritchard yn feddyg teulu yn Amlwch ac hefyd yn hyfforddi meddygon ifanc
- Cyhoeddwyd
"Mae canser yn medru troi bywyd rhywun ar ei ben i lawr mewn wythnos."
Dyna eiriau Dr Harri Pritchard, meddyg teulu yn Amlwch, wedi iddo a'i chwaer Gwen gael diagnosis o ganser o fewn wythnosau i'w gilydd yn 2024.
Bu Dr Pritchard yn trafod sioc y diagnosis a'r effaith ar y teulu ar y podlediad 1 mewn 2 gyda Mari Grug mewn rhaglen arbennig am ddynion a'r clefyd. Yn y rhaglen mae Meirion Davies hefyd yn siarad am ganser y prostad.
Cychwynnodd Dr Pritchard brofi symptomau canser y coluddyn pan ar wyliau yn America, fel mae'n esbonio:
Dr Harri Pritchard yn rhannu'r profiad o gael diagnosis canser y coluddyn
Roedd bywyd yn berffaith ar ein gwyliau yn Hawaii ac yn California - roeddwn yn cael amser bendigedig ond mi wnes i sylwi bod yna rhywbeth ddim yn iawn pan o'n i'n mynd i'r tŷ bach.
O'n i wedi mynd yn rhwym, methu mynd yn iawn a wedyn darganfod bod rhywbeth oedd ddim i fod yna yn dod i lawr. Roedd yn sioc fawr ond wedyn doedd 'na ddim llawer allwn i wneud yn yr Unol Daleithiau.
A fel mae canser yn medru bod yn greulon, wythnos ar ôl cyrraedd adra mi aeth fy chwaer Gwen yn wael. A gath hi diagnosis o ganser bythefnos wedyn.
Yn anffodus iddi hi oedd o wedi spreadio i'w hymennydd, i'w hysgyfaint hi a thrwy'i chorff hi. Mi ga'th hi saith wythnos.
Saith wythnos fuodd Gwen cyn 'naeth hi'n gadael ni, sy'n dangos creulondeb canser.
Diagnosis o ganser y coluddyn
Ond er waethaf hynny roedd rhaid i mi edrych ar ôl fy hun a fy nheulu a mi es i weld y meddyg a mi es i weld arbenigwr - dyn efo dim math o allu o bedside manner o gwbl, oedd o'n reit frawychus.
Mi es i i'r clinic a mi ofynais iddo fo, 'ydy o'n serious?'
Mi sbiodd o arno fi, 'well it's bleeding and it's fryable, we'll do staging scans on you as soon as we can. Thank you.'
A mi godais o'r 'stafall a wnai fyth anghofio, oherwydd dwi'n feddyg fy hun a dwi hefyd yn ddarlithydd yn dysgu myfyrwyr meddygol sut i dorri newyddion drwg a sut i gyfathrebu efo cleifion achos cyfathrebu efo cleifion yw'r peth pwysicaf 'dan ni'n medru ddysgu i'n meddygon ni.
A mi es i allan a mi oedd 'na sister, a wnai fyth anghofio - dyma hi'n dweud, 'I think you need a cup of tea'. A dyna fi a hi'n mynd i swyddfa a 'neud paned. Mi ges i'n hun at ei gilydd ac wedyn wrth gwrs y darn anoddaf.

Y cyflwynydd Mari grug gyda Meirion Davies a Dr Harri Pritchard yn sgwrsio ar bodlediad 1 mewn 2
Y darn anodda' i fi oedd ddim cael y newyddion i fi'n hun, ond gorfod dweud wrth Rhian, wrth Wiliam ac wrth gwrs Mam a Dad hefyd achos oedd Gwen newydd gael diagnosis.
Roedd o'n sioc aruthrol i ni fel teulu.
Ges i lawdriniaeth cyn i Gwen farw – cael triniaeth bypass a rhoi bag fel mod i'n medru cario ymlaen efo gweddill yr driniaeth.
Ond rywsut rhoiodd rhyw gryfder i mi. Gath Gwen ddim cyfle, gath hi ddim triniaeth. Ac mae hynny yn anodd ond mi oedd y cyfle gen i.
A wnes i ddweud i'n hun, dwi'n mynd i fod yn positif yn fan hyn. Mae'n rhaid i mi gwffio hyn. Mae'n rhaid i mi fynd ymlaen a chymryd y driniaeth a pheidio swnian a pheidio teimlo'n sori dros fy hun.
Ac mi ges i'r llawdriniaeth. Mi oedd rhaid mynd i angladd Gwen a bod yna i Mam a Dad.
'Nath hynny neud y colostomi i fynd yn eilradd ac o ganlyniad i hynny dwi wedi'i dderbyn o lawer iawn gwell.
Beth ydy colostomi pan mae rhywun yn cael byw, pan mae rhywun yn cael mynd yn ôl i'w gwaith, pan mae rhywun yn cael mwynhau bywyd eto?
Mae'n anodd ond mae'n rhaid i rywun ddelio efo fo.

Dywed Dr Harri Pritchard bod marwolaeth ei chwaer wedi'i orfodi i fod yn bositif
Ges i radiotherapi am chwech wythnos, cael brec dros Dolig a wedyn chemotherapi a wedyn llawdriniaeth fawr i dynnu be' oedd ar ôl o'r tiwmor.
Doedd 'na ddim llawer ar ôl ar y tiwmor, sbecyn bach oedd ar ôl y radiotherapi. Ges i lawdriniaeth go hegar, go fawr, sy'n golygu mod i ddim yn cael reverso y bag.
Mae'r bag yn mynd i fod yna am oes.
Ond dwi yma, dwi'n cael gwneud beth ydw i'n ei fwynhau a ges i'r llawdriniaeth fis Mai ac ro'n i'n ôl yn y gwaith ym mis Gorffennaf.
Y driniaeth
Oedd o'n uffern ar y ddaear – dyna'r unig air i ddisgrifio fo. Er bod o'n robotig a does gen i ddim creithiau yn fy môl ond maen nhw'n gorfod tynnu'r tu cefn allan i gyd ac wrth gwrs yn fan yna mae pwysau'r corff i gyd yn mynd pan ydych chi'n eistedd.
Dydych chi ddim yn cael eistedd am gyfnod neu dim ond am gyfnodau byr felly rydych chi'n gorfod gorwedd am chwech wythnos.
Ac maen nhw'n pwysleisio i chi bod y graith yma'n gallu agor, ac os ydy'r graith yn agor yna mae'n cymryd misoedd ar fisoedd i wella achos mae'n rhaid iddo fo wella'n ara' bach.
Bywyd ar ôl triniaeth canser
Mae siarad a bod yn agored mor bwysig. Dydy'r pethau bach gwirion yna mae rhywun yn poeni amdano ddim yn poeni rhywun yr un fath dim mwy.
Mae'n anoddach sbio ymlaen. Mae'n hawdd trefnu ar gyfer mis nesa' ond mae rhywun yn fwy nerfus am edrych ymlaen yn ormodol i'r dyfodol.
Dwi'n sicr yn byw mwy am heddiw ac yn mwynhau bywyd yn llawn. Os oes cyfle i wneud rhywbath mi wnai o.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd25 Ionawr
